Newyddion

WNO - Y 1970au

20 Gorffennaf 2021

Yn y bennod nesaf hon o'n cyfres yn trafod WNO drwy'r degawdau, byddwn yn edrych ar y 1970au.

Ehangodd ein repertoire i gynnwys ein cydgynhyrchiad cyntaf a nifer o lwyfaniadau cyntaf. Yn 1970, dywedodd Michael Geliot, Cyfarwyddwr Cynyrchiadau Opera Cenedlaethol Cymru, ‘We shall take risks with our productions, and possibly even diabolical liberties – but I hope we won’t be dull. Our aim will be to make you go to Wales to see the best in modern opera production.’ Roedd y degawd yn cynnwys y perfformiad cyntaf o gynhyrchiad hynod boblogaidd Joachim Herz o Madam Butterfly yn 1978, ynghyd â chynhyrchiad newydd o The Magic Flute yn 1979, gyda Göran Jӓrvefelt yn cyfarwyddo cynhyrchiad operatig am y tro cyntaf ym Mhrydain.

Ymhlith nifer fawr o deitlau newydd, cynhyrchwyd Aida yn 1971 wedi mwy nag 20 mlynedd o geisiadau. Daeth Benjamin Britten i weld perfformiad o gynhyrchiad 1972 o Billy Budd yn Norwich, gan honni 'it is marvellous'; a gwnaethom berfformio'r llwyfaniad cyntaf ym Mhrydain o Lulu - wedi'i ddylunio gan Ralph Koltai, ei waith cyntaf gyda WNO. Yn 1974, cafwyd y perfformiad cyntaf yn y byd o The Beach of Falesá gan Alun Hoddinott, a oedd yn seiliedig ar stori gan Robert Louis Stevenson, wedi'i ysgrifennu'n benodol ar gyfer Geraint Evans; a chyn perfformio The Flying Dutchman, gwnaethom gynnal ymarfer agored i gynulleidfaoedd allu gweld y gwaith sy'n cael ei wneud er mwyn cyflwyno opera. Jenůfa yn 1975 oedd y tro cyntaf i WNO weithio gyda David Pountney a dyma oedd cydgynhyrchiad cyntaf y Cwmni (gyda Scottish Opera). Y flwyddyn ddilynol, fe wnaeth Williard White ei ymddangosiad cyntaf ym Mhrydain fel Osmin yn Die Entführung aus dem Serail, a pherfformiad operatig cyntaf Suzanne Murphy fel Constanze. Ernani yn 1979 oedd y tro cyntaf i Maria Björnson gydweithio ag Elijah Moshinsky i WNO. Roedd y sgertiau a ddyluniwyd mor llydan nes bod rhaid i'r cantorion gerdded at y llwyfan mewn peisiau a newid i'w sgertiau yn yr esgyll yn Llandudno.

1971 oedd y flwyddyn y cafodd WNO ei gerddorfa ei hun, sef Ffilharmonia Cymru bryd hynny. Yn wreiddiol, roedd y gerddorfa'n cynnwys ychydig yn llai na 60 o gerddorion ac yn cael ei galw fesul tymor. Yn ystod haf 1973, daeth yn gerddorfa amser llawn ac fe chwaraeodd gyfres o gyngherddau - pob un yn dechrau gyda darn gan gyfansoddwr o Gymru a oedd yn fyw ar y pryd: Intrada gan John Metcalf, Celtic Dances gan William Mathias a Phedwaredd Symffoni Hoddinott. Ar ddiwedd y flwyddyn honno, fe chwalodd Corws Gwirfoddol hirsefydlog WNO.

Ychwanegodd WNO leoliadau a dinasoedd newydd at ein rhestr deithio, gan gynnwys ymweliadau cyntaf â nifer o'r lleoliadau ar ein hamserlen deithio bresennol: Southampton yn 1970, New Theatre Rhydychen a Hippodrome Birmingham yn 1971, ac yna'r Empire yn Lerpwl yn 1976. Gwnaethom berfformio yn y Proms am y tro cyntaf hefyd (1979). Daeth WNO yn gwmni rhyngwladol o'r diwedd yn 1973, pan aethom â Billy Budd i Ŵyl Lausanne.

Roedd ochr fusnes y Cwmni yn parhau i fod yn anghyson o ran llwyddiant, a darlledwyd rhaglen ddogfen - The Beggars Opera? yn 1971 fel rhan o apêl gyhoeddus fawr a oedd hefyd yn cynnwys ailenwi y Clwb Opera (Opera Club) yn Cyfeillion yr Opera (Friends of the Opera). Dywedodd yr Arglwydd Eccles, Gweinidog y Celfyddydau, fod WNO yn 'un o'r cwmnïau opera gorau yn y byd'. Cafwyd trychineb ar 29 Gorffennaf 1976 - dinistriwyd 25 set (gwerth 30 mlynedd o waith) mewn tân. Daeth dros 40 o swyddogion tân mewn wyth injan i ddiffodd y tân.

Gorffennodd y degawd ar nodyn calonogol, gyda chyfres o berfformiadau yn Llundain ym mis Rhagfyr a brofodd ba mor llwyddiannus oedd WNO erbyn hynny, gyda galw enfawr am docynnau a Vogue yn datgan, ‘The pace is now being set by Welsh National Opera, currently top of the British opera league.’