Er i lawer ohonom fod yn gaeth i’r gyfres newydd o Married at First Sight Australia neu hyd yn oed gael ein swyno (neu a ddylai hynny fod yn cael ein harswydo?) gan Love is Blind yr UD, nid yw’n syndod bod bywyd priodasol yn mynd o chwith ambell waith. Nid yw’n ddim gwahanol ym myd opera a’r Tymor hwn yn Opera Cenedlaethol Cymru mae gennym dair priodas sy’n syml ddim yn mynd yn ôl y bwriad...
Yn Don Giovanni Mozart, mae priodas Zerlina a Masetto yn cael ei tharfu gan Don Giovanni y merchetwr drwgenwog, sy’n mynd ymlaen i gyboli gyda Zerlina, gan achosi, heb syndod, tensiynau rhwng y ddau ddyweddi ar ddydd eu dathliadau. Nid yw’r ffaith bod ei ddyweddi’n ymateb mor agored yn ôl pob golwg i fflyrtian dyn arall wedi mynd lawr yn dda gan Masetto ac mae’r gynulleidfa’n cael ei gadael mewn senario a fyddant/na fyddant – dim y cychwyn gorau i briodas a phwy â ŵyr p’un a wnaethon nhw ‘fyw’n hapus am weddill eu hoes’ yn y pen draw.
Nesaf mae Jenůfa, a fu’n breuddwydio am briodi Števa, ei chariad oes a thad ei phlentyn yn y groth. Fodd bynnag, heb ddealltwriaeth o raddfa gynllwynio ei llys-fam yn erbyn yr uniad, mae’n credu mai gorfodaeth filwrol yn unig sydd ganddi i’w boeni amdano. Fel bob amser, mae bywyd yn dyfeisio ffordd o ymyrryd, yn union fel y mae yn eich hoff raglen sebon ar y teledu, fel bod Števa nid yn unig yn diweddu’n ddyweddi i rywun arall ac yn gwadu ei ran ym modolaeth ei blentyn, ond mae Jenůfa hefyd yn diweddu’n priodi Laca, sy’n hanner-brawd i Števa, a’r un sydd wedi’i handwyo hi. Nid bod ei pherthynas â Laca’n mynd yn ei blaen yn ddidrafferth ‘chwaith a chyn i’r briodas gael ei chynnal, mae cyfrinach baban Jenůfa’n cael ei datgelu ac mae ei bywyd mewn perygl. Ond yn y pendraw, mae Janáček yn cyflawni ‘diweddglo hapus’ o fath gan nad yw Laca’n cymryd y cyfle i’w gadael, er y cynnwrf dros farwolaeth y baban, gan aros yn hytrach gyda Jenůfa oherwydd ei gariad tuag ati.
Yna, y briodas fwyaf trasig ohonynt i gyd yn Nhymor y Gwanwyn – Butterfly a’i ‘marchog ar farch gwyn’ Americanaidd, Pinkerton. Yn y stori a ysbrydolodd Miss Saigon, mae Butterfly, gan gredu bod straeon tylwyth teg yn cael eu gwireddu, yn hyderus fod eu cariad yn bur a bod eu haddunedau’n ddiffuant. Ar ôl rhoi’r gorau i gynifer o’i gwerthoedd diwylliannol, ymddengys fod dechrau eu bywyd newydd gyda’i gilydd yn adlewyrchu ei chred ddiniwed ac mae popeth yn ymddangos yn berffaith. Ond yna mae’n gadael ar ei long. Mae hi’n treulio rhai o’r blynyddoedd nesaf yn aros amdano, yn parhau i gredu, yn parhau i obeithio; ond, wrth gwrs, pan ddaw yn ôl nid ati hi y daw – mae ganddo ef ei ‘hapus am byth’ gyda’i wraig Americanaidd newydd gan gynnau’r drasiedi.
Felly, gadewch i WNO dorri’ch calon noson ar ôl noson, neu gorfoleddwch yn artaith yr adduned a dorrwyd; beth bynnag mae’ch emosiynau’n gallu eu gwrthsefyll, mae opera hudolus yn cael ei chyflwyno gennym yn Nhymor y Gwanwyn ar lwyfan lleol i chi.