Newyddion

Ai rhain yw’r teuluoedd mwyaf dramatig yn opera?

6 Tachwedd 2023

Mae’r idiom adnabyddus ‘mae gwaed yn dewach na dŵr’ yn dyddio’n ôl i’r Almaen yn ystod y 12fed ganrif, a chaiff ei ddefnyddio i gyfleu cryfder cysylltiadau teuluol. Er bod teuluoedd yn gallu cefnogi ei gilydd drwy gyfnodau anodd, yn aml, gallant fod yn ffynhonnell o ddrama ffrwydrol, fel y gwelwn dro ar ôl tro ym myd opera. Cawsom gip drwy ein straeon i weld pa enghreifftiau o ddrama deuluol oedd yn ennyn ein sylw. 

La traviata

Ymysg y stori drasig am gariad drychinebus, rydym yn gweld tad sydd â’i fryd ar ei les ei hun yn ymyrryd ym mywyd carwriaethol ei fab. Wrth i Alfredo syrthio fwyfwy mewn cariad â’r butain llys, Violetta, mae ei dad, Giorgio Germont, sy’n ddyn uchel ei barch, yn ymyrryd ac yn mynnu bod Violetta yn gadael Alfredo, er mwyn diogelu’r enw Germont ac enw da’r teulu. Fodd bynnag, nid yw camau Giorgio yn cyflawni unrhyw beth ar wahân i dor-calon i Alfredo, wrth i’r cwpl ifanc golli amser gyda’i gilydd cyn i Violetta farw ym mreichiau ei chariad. 

Rigoletto

Roedd perfformiad cyntaf trasiedi tair act Verdi yn La Fenice ym 1832 yn llwyddiant aruthrol. Mae’r stori’n dilyn y prif gymeriad, sef Rigoletto, y cellweiriwr, wrth iddo gael ei felltithio gan Count Monterone. Wrth i ferch gudd Rigoletto syrthio mewn cariad â'r Duke of Mantua anonest, mae Rigoletto’n cyflogi asasin i ladd y Dug, ac mae’n cynllunio i’w ferch ac yntau ddianc i Ferona. Mae ei ferch yn penderfynu aberthu ei hun i achub y Dug, ac mae hi’n cael ei lladd gan yr asasin, sydd wedyn yn ei lapio mewn sach ac yn cyflwyno’r corff dan gêl i’w thad ei hun, Rigoletto. Mae Rigoletto’n canfod ffawd ei ferch ar lan yr afon ac yn gweiddi mewn anobaith – ‘Y felltith!’

La forza del destino

Mae digwyddiadau trasig La forza del destino gan Verdi yn dechrau ar ôl camgymeriad creulon. Ar ôl i Don Alvaro a Donna Leonora syrthio mewn cariad, mae ei thad, Marchese di Calatrava, yn eu canfod yn barod i ddianc i briodi. Yn ei ddig, mae'n bygwth lladd Don Alvaro, sy'n gollwng ei arfau er mwyn lleddfu amheuon ynghylch purdeb Leonora. Fodd bynnag, mae ei bistol yn tanio wrth daro'r llawr, gan ladd y Marchese. Mae'r cariadon yn mynd i ymguddio, yn ofni dialedd brawd Leonora, Don Carlo, ac wrth ddianc yn frysiog i Seville, maent yn colli ei gilydd. Maent yn treulio gweddill yr opera yn cael eu haduno a'u gwahanu mewn cyfres o gyfarfodydd cyd-ddigwyddiadol, nes eu marwolaeth gynamserol a threisgar, gan brofi nad oes modd twyllo grym tynged. 

Gyda drama ym mhob twll a chornel, mae hanesion Verdi am gyflafaredd teuluol yn rhai o hoelion wyth y repertoire opera. Peidiwch â cholli’r cyfle i weld La traviata yr Hydref hwn yn Birmingham, Milton Keynes a Southampton.