Yn ein tymor presennol mae gennym ddwy enghraifft o gelf yn ysbrydoli celf o ddau faes gwahanol: Celf swrrealaidd, yn benodol gwaith René Magritte, ar ein cynhyrchiad o The Magic Flute gan Dominic Cooke; a byd ffasiwn Vivienne Westwood, a adlewyrchir yng ngwisgoedd Madeleine Boyd ar gyfer Roberto Devereux.
I rai, efallai mai'r posteri sy'n hysbysebu cynhyrchiad yw'r cysylltiad amlwg rhwng celf ac opera, ond gall fod yn llawer mwy uniongyrchol na hynny, mae darn o gelf, artist, neu symudiad, yn gallu ysbrydoli cynhyrchiad ei hun – fel yn achos ein cynhyrchiad lliwgar, llawn ffantasi, The Magic Flute.
Roedd swrrealaeth fel mudiad diwylliannol i weld wedi'i greu'n unigryw i ymgorffori dylunio llwyfan yn ei gylch gwaith. Un enghraifft berffaith, er nad yw'n dod o'r byd opera, yw ballet Erik Satie o ddechrau'r 20fed ganrif (1917) sef Parade – darn oedd â Picasso fel y dylunydd gwreiddiol a chafodd ei gyd-greu gan Jean Cocteau, a ysgrifennodd y senario.
Gwnaeth mudiadau celf eraill hefyd groesawu dylunio llwyfan i'w maes, er enghraifft: roedd Art Deco (mudiad arall o ddechrau'r 20fed ganrif) yn arddull addurnol iawn ac adeiladwyd nifer o sinemâu o dan ei ddylanwad yn ystod y cyfnod hwn, ond roedd dyluniadau set a gwisgoedd hefyd yn cael eu hysbrydoli gan yr arddull. Roedd Erté, un o brif gefnogwyr y sîn hwn, yn ddylunydd ar operâu gan gynnwys Rigoletto, Pelleas et Melisande a Der Rosenkavalier ar gyfer cwmnïau opera amrywiol o America.
Gan fynd yn ôl i The Magic Flute, mae'n ymddangos bod y byd rhyfeddol yn opera olaf Mozart yn rhoi'r cyfle eithaf i Gelf ysbrydoli/dylanwadu ar y set a dyluniad y gwisgoedd. Mae'r artist Prydeinig David Hockney wedi bod yn cynllunio setiau ers dros 40 mlynedd, gan gynnwys fersiwn o The MagicFlute ar gyfer Glyndebourne yn 1977. Mae Marc Chagall (artist arall sy'n cael ei gysylltu â Swrrealaeth); Maurice Sendak awdur/darlunydd y llyfr i blant ‘Where the Wild Things Are' a'r cartwnydd dychanol o Loegr Gerald Scarfe i gyd wedi creu cynyrchiadau o The Magic Flute hefyd. Arweiniodd cymaint o ddehongliadau celf gwahanol mewn dyluniadau cynhyrchu ar gyfer The Magic Flute at arddangosfa yn Llyfrgell Gyhoeddus Efrog Newydd ar gyfer y Celfyddydau Perfformio yn 2016.
Ond nid artistiaid y celfyddydau cain yn unig sy'n croesi drosodd i'r maes dylunio llwyfan – yn 2013 gwnaeth Cerddorfa Ffilharmonig Los Angeles yn Neuadd Gyngerdd Walt Disney gasglu ynghyd tîm creadigol a oedd yn cynnwys y pensaer Frank Gehry (a ddyluniodd y neuadd) ynghyd â'r dylunwyr ffasiwn Kate a Laura Mulleavy (sydd hefyd yn adnabyddus fel Rodarte, a wnaeth hefyd gynllunio'r gwisgoedd ar gyfer y ffilm Black Swan a enillodd Oscar), i weithio ar Don Giovanni, mewn cyfres o dair o operâu Mozart, er nad oedd yn cynnwys The Magic Flute: The Marriage of Figaro, Don Giovanni a Così fan tutte.
Dywedodd yr artist Prydeinig-Indiaidd Anish Kapoor (yn y Guardian – dyfynnwyd ar dezeen.com): ‘That is what making a set for opera is all about – encouraging one to suspend disbelief, or rather encouraging belief in the unbelievable.’ Onid yw The Magic Flute yn enghraifft berffaith o hyn?
Y llynedd cynhaliodd Amgueddfa V&A arddangosfa yn dwyn y teitl: 'Opera: Angerdd, Grym a Gwleidyddiaeth – sy'n dod â ni yn ôl i'r cychwyn?
Yn ddiweddar, mae'r V&A hefyd wedi cynnal arddangosfeydd i ddathlu dylunwyr ffasiwn, a gallai gwisg ysgarlad wych ein Elisabetta, Brenhines Lloegr, yng nghynhyrchiad y Tymor hwn oRoberto Devereux, fod wedi dod yn syth oddi ar un o sioeau ffasiwn clasurol Vivienne Westwood. Mae'n ymddangos bod y dylunydd gwisgoedd, Madeleine Boyd wedi gweithio gyda'r un ysbrydoliaeth â'r Fonesig Vivienne, gan gysylltu'r gorffennol a'r presennol mewn dyluniadau sy'n amlwg wedi'u creu i sefyll allan. Gydag awgrymiadau o esthetig pync o waith cynnar Vivienne yn y gwregysau lledr trwchus a'r corsedau metel. Mae gwisg Elisabetta, gwisg goch liwgar yng nghanol gweadau du'r gwisgoedd eraill a'r setiau, yn cyd-fynd â chymeriad Elisabeth I go iawn, a oedd yn defnyddio ei hymddangosiad fel datganiad, yn symbol o'i statws.
A yw'n syndod o gwbl bod y gwahanol feysydd celf yn croesi drosodd gan mai dim ond gwahanol ffyrdd o fynegiant yw pob un? Dewch i weld dwy enghraifft WNO o gelf yn ysbrydoli celf yn Nhymor y Gwanwyn wrth i'n taith barhau i Fryste, Llandudno a Southampton.