Newyddion

Tu ôl i'r llen...gyda Caroline Chaney

3 Chwefror 2020

Mae agoriad Tymor y Gwanwyn 2020 WNO, gyda rhan olaf David Pountney o'n Trioleg Verdi, Les vêpres siciliennes, ychydig o ddyddiau i ffwrdd. Mae angen llawer o wahanol bobl gyda gwahanol sgiliau i gyflwyno ein cynyrchiadau ar y llwyfan - mae Caroline Chaney, Cyfarwyddwr Cyswllt, yn un o'r rheiny sy'n gweithio'n galed y tu ôl i'r llen. Cawsom sgwrs sydyn gyda hi yn ystod ymarferion yn y stiwdio bythefnos yn ôl, i ddysgu ychydig mwy.


Ers faint ydych chi wedi bod yn gweithio yn WNO a beth yw eich rôl yn y cynhyrchiad hwn?

Rwyf wedi bod yn Gyfarwyddwr Staff yn WNO ers 1991. Fel Cyfarwyddwr Cyswllt ar gyfer Les vêpres siciliennes, fy mhrif rôl yw cefnogi David Pountney, trefnu ymarferion, cysylltu ag adrannau eraill a chynnal ymarferion gyda'r dirprwyon. Un o fy nhasgau pwysicaf yw gwneud nodiadau manwl am y cynhyrchiad yn fy sgôr, sydd yna'n cael ei ddefnyddio fel 'llyfr y cynhyrchiad'. Mae'n cynnwys holl symudiadau'r cymeriadau, ble mae pawb yn sefyll yn y Corws, pa offer neu setiau sydd ar y llwyfan, hyd bob adran o gerddoriaeth ac unrhyw newidiadau i'r geiriau.

Beth ydych chi wedi ei fwynhau fwyaf am weithio ar yr opera hon?

Mae'r cast yn wych ac mae gwrando arnynt yn anhygoel, yn enwedig pan fyddant yn rhoi eu holl nerth i mewn i berfformiad. Mae gwrando ar gantorion gwych yn y stiwdio yn brofiad arbennig bob amser, ond mae'r cast yma'n codi'r safon i lefel arall. Mae'r pedwarawd, yn Act 3 yn enwedig, yn rhywbeth i edrych ymlaen ato. Ar y pwynt hwn yn y cyfnod ymarfer (pythefnos i mewn), credaf fod y golygfeydd heriol eto i ddod. Ni fyddwn yn cyfarfod a gweithio gyda'r dawnswyr tan ein bod ni ar y llwyfan, felly tybiaf y bydd ein heriau mwyaf yn dod i'r amlwg wrth i ni geisio cyfuno'r symud rhwng y cantorion â'r dawnswyr. Fodd bynnag, credaf fod Corws WNO yn haeddu canmoliaeth arbennig am eu gwaith rhagorol yn symud tair ffrâm enfawr o gwmpas y llwyfan. Yn Theatr Bonn, lle cafodd y cynhyrchiad ei berfformio gyntaf, roedd ganddynt dîm penodol i wneud hynny, ond rydyn ni'n gofyn i'r Corws symud y golygfeydd a pharhau i ganu'n hyfryd.

Beth â'ch ysbrydolodd chi i fynd i gyfarwyddo?

Digwyddodd heb unrhyw fath o gynllun.  Ar ôl tair blynedd mewn rheolaeth llwyfan yn WNO, gadewais i ddilyn gyrfa annibynnol.  Aidan Lang, ein Cyfarwyddwr Cyffredinol, oedd y Cyfarwyddwr Staff bryd hynny, a phan adawodd ei swydd gofynnodd i Anthony Freud fy ystyried i ar ei chyfer. Felly credaf fod fy ysbrydoliaeth wedi dod o fod yn ddigon ffodus i weithio ochr yn ochr â llawer o gyfarwyddwyr gwych.

Yn ddiweddar rydych wedi bod yn gweithio fel Cyfarwyddwr Adfywio ar Rigoletto. Ydych chi'n teimlo bod mwy o bwysau arnoch wrth gyfarwyddo gwaith gwreiddiol rhywun arall?

Nid yw'n anodd pan rwy'n teimlo cysylltiad â'r cyfarwyddwr, ond os nad ydw i'n deall neu'n hoffi y cynhyrchiad yn bersonol, mae'n gallu bod yn fwy heriol.  Prin iawn y gwelir adfywiad sydd yn union yr un fath â'r cynhyrchiad gwreiddiol gan eich bod yn ei siapio i weddu i'r cast newydd. Weithiau mae'n rhaid i ni wneud addasiadau technegol hefyd, er mwyn i'r cynhyrchiad deithio'n fwy llwyddiannus na'r tro cyntaf.  Yn ystod fy ngyrfa gynnar roeddwn yn ceisio cadw at y gwreiddiol cymaint â phosib, ond erbyn heddiw os ydw i'n credu fy mod yn gallu gwella rhywbeth, byddaf yn gwneud hynny.