Yma yn Opera Cenedlaethol Cymru, ein cenhadaeth yw cyflwyno opera i gynulleidfa mor eang â phosibl. Mae'n bwysig inni nad yw oedran ac incwm yn rhwystrau. Yr wythnos ddiwethaf, daeth dros fil o blant ysgol gynradd i Ganolfan y Mileniwm Cymru ar gyfer y cyntaf o bedwar Cyngerdd Ysgolion WNO blynyddol am ddim.

Mae ymchwil yn dangos fod cerddoriaeth glasurol yn cyfrannu at ddatblygiad cyfannol plant. Trwy ymgorffori cerddoriaeth glasurol yn eu bywydau, gallwn helpu plant i dyfu’n unigolion cyflawn, nid yn unig yn gerddorol eu naws ond hefyd yn ddeallusol yn emosiynol, yn ymwybodol yn ddiwylliannol ac yn fedrus yn academaidd.
Penderfynodd cynhyrchydd y rhaglen, Michael Graham, ar thema eleni, ‘Byd bendigedig adar’. Pan ofynnwyd iddo pam, eglurodd Mike fod bywyd gwyllt, yn enwedig adar a chân yr aderyn, wedi bod yn ysbrydoliaeth i gyfansoddwyr yn aml ac yn barhaus. Er enghraifft, cyfansoddodd y cyfansoddwr Eidaleg Ottorino Respighi Gli uccelli, sy’n golygu The Birds - mae'r darn pum symudiad hwn yn defnyddio gwahanol offerynnau i ddarlunio gwahanol adar a’u harferion. Bydd tri o’r pum symudiad yn cael eu perfformio yn y cyngerdd eleni. Mae’r repertoire hefyd yn cynnwys Dance of the Cygnets gan Tchaikovsky o'r bale byd-enwog, Swan Lake.
Ar ôl cytuno ar y thema, cysylltodd WNO â’r Gymdeithas Frenhinol er Gwarchod Adar (RSPB), prif elusen cadwraeth adar y DU. Mae’r RSPB wedi bod yn bartner hyfryd, yn rhannu ei gyfoeth o wybodaeth, gan ganolbwyntio’n benodol ar adar o Gymru.

Yn ei swydd, mae Mike yn dod â’r holl adrannau perthnasol o bob rhan o’r Cwmni ynghyd, gan rannu gweledigaeth ar gyfer y cyngerdd a sicrhau bod y weledigaeth yn cael ei chyflawni. Mae’r nifer o adrannau sy’n rhan o greu cyfanwaith perfformiad yn sylweddol, o adrannau Castio a Gwisgoedd i Gynllunio a Phropiau, a llawer mwy.
Mae’r Llyfrgell Gerddoriaeth yn gyfrifol am benderfynu a fyddwn yn gallu perfformio ein cerddoriaeth ddewisol, gan ystyried, er enghraifft, a fydd rhaid i WNO dalu am ddarn penodol o gerddoriaeth ac a ydyw’n fforddiadwy. Mae Rheolwyr y Gerddorfa yn cynghori ar beth y gall ein cerddorfa ei ddysgu a’i chwarae o fewn yr amserlenni sydd ar gael.
Yn wahanol i’r rhan fwyaf o berfformiadau, mae’r gerddorfa’n eistedd ar y llwyfan, gan alluogi i’n cyflwynydd, sef yr actores a’r gantores o Gymru, Elin Llwyd yn yr achos hwn, gyflwyno’r gwahanol adrannau’n ddidrafferth. Yn ystod The Hen o The Birds o waith Respighi, rydym yn gofyn i’r gerddorfa wisgo hetiau cywion ieir - diolch byth, maent yn barod i fynd amdani ac yn cydnabod y gall hiwmor fod o fudd i ddysgu!
Mae dau unawdydd yn y cyngerdd eleni, y soprano o Gymru, Eiry Price, a’r bariton o Gymru, Owain Rowlands, sydd ill dau yn Artistiaid Cyswllt WNO ers cryn amser. Rydym bob amser yn ceisio dathlu ein treftadaeth yng Nghymru a'r iaith Gymraeg, ac eleni, mae ein repertoire yn cynnwys nifer o ganeuon Cymraeg.

Yn wahanol i gyngerdd traddodiadol, bydd y gynulleidfa yn cael ei hannog i gymryd rhan drwy gydol y cyngerdd. Darn arall sy’n cael ei berfformio yw The Firebird o waith Stravinsky. Mae’r casgliad disglair hwn o gerddoriaeth yn defnyddio arddulliau gwahanol i wahaniaethu rhwng y meidrolion a’r goruwchnaturiol. Cyn y cyngerdd, gwahoddwyd disgyblion i fod yn greadigol drwy dynnu lluniau o’u heurynnod eu hunain, a arddangoswyd ar sgrîn fawr yn y cyngerdd, o bosibl gan roi y blas cyntaf o enwogrwydd i’r plantos! Ynogystal, gwnaethom rannu adnoddau i helpu i hwyluso cylchred o waith cyn ac ar ôl y cyngerdd, gan sicrhau bod plant yn cael y gorau o’r profiad.
Agorodd ein Cyngerdd Ysgolion yng Nghaerdydd ddydd Gwener, a nawr bydd yn mynd ar daith i Southampton, Llandudno a Bryste. Os ydych chi’n athro/athrawes ac fe hoffech wybod mwy am waith ein hysgolion, cysylltwch â schools@wno.org.uk.