Newyddion

Cymuned glasurol Caerdydd yn uno i nodi 250 mlynedd ers genedigaeth Beethoven

9 Mai 2019

Mae blwyddyn nesaf yn nodi 250 mlynedd ers genedigaeth Beethoven, ac mae cymunedau cerddoriaeth glasurol a cherddorfaol Caerdydd yn dod ynghyd i gyflwyno dathliad blwyddyn o hyd er cof am y cyfansoddwr.

Mae Opera Cenedlaethol Cymru, Cerddorfa a Chorws Cenedlaethol Cymreig y BBC, Neuadd Dewi Sant, Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru a Sinfonia Cymru wedi trefnu cyfres o ddigwyddiadau i ddathlu gwaith Beethoven ac i'w gyflwyno i bobl nad ydynt mor gyfarwydd ag ef, yn ogystal â darparu rhywbeth arbennig i'r rhai hynny sy'n hen gyfarwydd â'i gerddoriaeth.

Mae'r dathliad yn cael ei lansio ym mis Ionawr, pan fydd Cerddorfa WNO a BBC NOW yn dod ynghyd i ail-greu cyngerdd 22 Rhagfyr 1808, budd-gyngerdd a gynhaliwyd i Ludwig van Beethoven yn Theater ân dêr Wien yn Fienna, pan berfformiwyd Symffonïau Rhif 5 a 6, Concerto i'r Piano Rhif 4 a Ffantasi Corawl Beethoven yn gyhoeddus am y tro cyntaf. Bydd Cerddorfa WNO, dan arweiniad Arweinydd Llawryfog WNO Carlo Rizzi, yn chwarae yn ystod hanner cyntaf y noson (Symffoni Rhif 6, Ah, perfido, Gloria o Offeren yn C Fwyaf a Choncerto Rhif 4), gyda BBC NOW, dan arweiniad Jaime Martin, yn chwarae yn ystod yr ail ran (Symffoni Rhif 5, Sanctus o Offeren yn C Fwyaf, ExtemporisedFantasia a Fantasia). Bydd Steven Osborne a Llŷr Williams ar y piano ac unawdwyr i'w cadarnhau yn ymuno â'r Cerddorfeydd.

Ym mis Chwefror, bydd digwyddiadau yn symud i Goleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, lle bydd Cerddorfa Symffoni y CBCDC a'r animeiddiwr Ruth Rosales yn mynd â theuluoedd ar daith ryngweithiol drwy amser i gwrdd â Beethoven yn Orchestradventure!

Ym mis Mawrth, bydd yr arweinydd Gábor Takács-Nagy a'r pianydd Pavel Kolesnikov yn ymuno â Sinfonia Cymru i rannu'r gyfres lawn o Goncertos i'r Piano dros benwythnos cyfan yn CBCDC.  Mae Kolesnikov, cyn Artist Cenhedlaeth Newydd BBC Radio 3, yn gwneud enw iddo'i hun fel pianydd sy'n arddangos y cywirdeb a'r sensitifrwydd cerddorol o'r pwys mwyaf.

Bydd Cerddorfa Aurora yn ymuno â ni yng Nghaerdydd yn ystod mis Mai i berfformio Eroica heb unrhyw gopi o'r gerddoriaeth. Bydd yr orchest anhygoel hon yn cael ei harwain gan Nicolas Collon, ac mae'n rhywbeth sy'n nodweddiadol o'r Gerddorfa gan eu bod yn dweud bod perfformio darnau o'r cof yn eu dwyn yn nes at eu cynulleidfa (gan nad ydynt yn cael eu gwahanu gan standiau cerddoriaeth), yn caniatáu hyblygrwydd o ran y lle sydd ganddynt i berfformio ac yn galluogi'r cerddorion i gael perthynas agosach â'r gerddoriaeth a'i gilydd.

Wrth i ni nesáu at yr haf, bydd BBC NOW, yn eu cartref Neuadd Hoddinott, yn cyflwyno i ni Missa Solemnis, yr offeren a gyfansoddwyd rhwng 1819 ac 1823 sy'n cael ei hystyried fel un o weithiau gorau Beethoven.

Bydd y gweithgarwch blwyddyn o hyd yn dirwyn i ben ym mis Tachwedd wrth i Gyfarwyddwr Cerdd WNO Tomáš Hanus arwain Cerddorfa WNO yn Symffoni Rhif 9 Beethoven fel rhan o Gyfres o Gyngherddau Rhyngwladol Neuadd Dewi Sant.

Dyma'r enghraifft ddiweddaraf o'r cydweithio sy'n digwydd o fewn y sector cerddoriaeth glasurol yng Nghaerdydd, gan sicrhau darpariaeth eang o gerddoriaeth ac annog twf cynulleidfaoedd yn yr ardal hon. Rydym yn gobeithio y bydd cynulleidfaoedd presennol yn profi gwaith gan gwmni nad ydynt efallai wedi ei weld o'r blaen, ac y bydd pobl newydd yn darganfod cerddoriaeth glasurol drwy'r tymor hwn o waith.