Newyddion

Carlo Rizzi yn arwain Cerddorfa WNO yn y Gyfres Cyngherddau Rhyngwladol

14 Ionawr 2019

Mae Arweinydd Llawryfog WNO, Carlo Rizzi, yn dychwelyd i’r Gyfres Cyngherddau Rhyngwladol yn Neuadd Dewi Sant, Caerdydd am y tro cyntaf ers 2008, lle bydd yn arwain Cerddorfa WNO a’r unawdydd Alexander Sitkovetsky mewn rhaglen o gampweithiau sy’n deillio o ddiwedd y cyfnod Rhamantaidd.

Mae’r cyngerdd yn agor gydag Agorawd Hebrides Mendelssohn (Fingal’s Cave), a ysbrydolwyd gan ymweliad a wnaeth y cyfansoddwr â’r ynys Albanaidd, Staffa ym 1829. Nid yw’n hysbys p’un ai droediodd yr ynys, gan fod yr ogof i’w gweld orau o’r môr, fodd bynnag dogfennodd ei fod wedi nodi ar unwaith y themâu agoriadol ar gyfer y cyfansoddiad.

Yna, yn dilyn y derbyniad gwresog a dderbyniodd pan berfformiodd gydag WNO yn Llandudno ym mis Mai 2018, mae Alexander Sitkovetsky yn ymuno â ni yng Nghaerdydd. Yn un o feiolinwyr gorau’r byd, bydd Alexander yn sicr o ddeffro’r ysbryd Albanaidd yn Scottish Fantasy Bruch, pedwar symudiad yn seiliedig ar alawon gwerin yr Alban, sydd bellach ymysg gweithiau mwyaf poblogaidd y cyfansoddwr.

Mae ail ran y cyngerdd yn cynnwys Symffoni Rhif 2 hynod boblogaidd Rachmaninov. Mae’r gwaith yn amlygu sgiliau Rachmaninov fel cyfansoddwr – ei ddawn arbennig i greu alaw, ei allu i drefnu ar gyfer cerddorfa, ei feistrolaeth ar ffurf a strwythur, a’i ymrwymiad hir i arddull diwedd y cyfnod Rhamantaidd. Mae Rachmaninov ar ei orau drwy gydol y pedwar symudiad, mewn symffoni sydd wedi cadw ei hapêl i gynulleidfaoedd hyd heddiw.

Dywed Carlo: Pleser o’r mwyaf yw bod yn ôl yn Neuadd Dewi Sant gyda Cherddorfa WNO. Ar ôl 25 mlynedd o weithio gyda’n gilydd, rydym wedi dod i adnabod a deall ein gilydd ar lefel ddofn ac mae’r ymddiriedaeth y byddwn yn ymarfer ac yn perfformio gyda, waeth beth yw’r repertoire, yn rhywbeth yr wyf yn ei werthfawrogi a’i fwynhau’n arw. Dyma gerddorfa, sydd, wrth gwrs, wedi hen arfer perfformio cerddoriaeth ar ei mwyaf dramatig, ac mae’r tri darn y byddwn yn eu perfformio yn y cyngerdd hwn, yn gampweithiau gwirioneddol o bŵer emosiynol, pob un gyda themâu cerddorol sy’n cyflymu ac esgyn ac yn mynd drosom fel tôn, gan ein llethu â theimlad. Ni allaf ddychmygu ffordd well o dreulio prynhawn, na rhannu’r profiad hwn o gerddoriaeth gerddorfaol fyw, ar ei harddaf a dwysaf, gyda chynulleidfa Neuadd Dewi Sant. Ymunwch â ni.