Newyddion

Canllaw Anrhegion Nadolig

13 Rhagfyr 2022

Rydym bellach ymhell i mewn i dymor y Nadolig. Mae strydoedd ein trefi yn llawn goleuadau ac mae’r aer oer yn llawn o adleisiau caneuon Mariah Carey a Michael Bublé.  Ond mae llawer ohonom hefyd yn pendroni ynghylch beth i’w brynu i’n teulu a’n ffrindiau wrth i ni sgrialu drwy ein siopa Nadolig munud olaf. O ganlyniad, rydym ni yn Opera Cenedlaethol Cymru wedi penderfynu eich helpu gyda rhai argymhellion. 

Noson yn yr opera

Rhowch wledd i’ch anwyliaid gyda thocyn i un o’n perfformiadau opera. Mae rhywbeth at ddant pawb yn ein Tymor y Gwanwyn 2023. Byddwn yn perfformio gwaith enwog Mozart, The Magic Flute, ond gyda thro modern syfrdanol. Byddwn hefyd yn perfformio opera newydd sbon, Blaze of Glory!, stori wedi’i sefydlu mewn cymuned yng Nghymoedd Cymru yn yr 1950au. Mae gennym ni hyd yn oed berfformiadau o operetta ddisglair Leonard Bernstein, Candide, ar y gweill ar gyfer yr Haf. Mae ein Tymor y Gwanwyn yn agor yng Nghaerdydd ddydd Iau 23 Chwefror 2023 a bydd yn ymweld â Llandudno, Milton Keynes, Bristol, Birmingham, Southampton a Plymouth.

Aelodaeth Cyfeillion WNO

Anrheg Nadolig unigryw ar gyfer yr un sy’n hoff o opera yn eich bywyd. Fel Cyfaill WNO, byddwch yn cael eich gwahodd i fynychu nifer o ddigwyddiadau wedi’u curadu, ymarferion gwisg a byddwch yn cael mynediad i archebu blaenoriaeth, sy’n caniatáu i chi sicrhau eich seddi cyn i archebu cyffredinol agor. I ddarganfod mwy, ymwelwch â’n tudalen aelodaeth cyfeillion.

Tocyn i weld Cerddorfa WNO

Yn ogystal â’n perfformiadau operatig, mae Cerddorfa WNO yn perfformio’n rheolaidd mewn cyngherddau. Ym mis Ionawr 2023, cewch glywed amrywiaeth o waltsiau, gorymdeithio a polkas ym mhob rhan o’r DU fel rhan o’u taith gyngerdd Dychwelyd i Fienna. Dyma’r ffordd berffaith i groesawu’r flwyddyn newydd gyda cherddoriaeth ddisglair o Fienna. Opsiwn arall yw cyngerdd Bedřich Smetana Cerddorfa WNO yn Neuadd Dewi Sant ddydd Sul 29 Ionawr fel rhan o Gyfres Glasurol Caerdydd. Yma, byddant yn perfformio gwaith meistrolgar y cyfansoddwr Tsiec Má vlast. 

Diwrnod i'r teulu yn y theatr

Mae Chwarae Opera YN FYW yn sioe hwyliog a rhyngweithiol, sy’n addas ar gyfer y teulu cyfan, sy’n ei gwneud yn anrheg berffaith gan Siôn Corn. Gyda thema Jurasig, mae’r sioe yn cynnwys cerddoriaeth gan Wagner a Greig yn ogystal â gwaith hynod boblogaidd John Williams, Arwyddgan Jurassic Park. Ymunwch â ni yng Nghanolfan Mileniwm Cymru ddydd Sul 19 Chwefror.

Rhoi rhodd

Elusen yw Opera Cenedlaethol Cymru ac felly rydym yn dibynnu ar roddion caredig gan ein noddwyr i barhau i ffynnu. Os oes rhywun yn eich bywyd sydd â chymaint o feddwl o’r celfyddydau â ni, ystyriwch wneud rhodd ar eu rhan fel anrheg iddynt. Rydym bob amser yn hynod o ddiolchgar am unrhyw gefnogaeth.

Wrth i ni wisgo ein sgarffiau ac agor y drysau ar ein Calendrau Adfent i gyfri’r dyddiau tan y Nadolig, gobeithiwn ein bod wedi eich ysbrydoli i roi opera fel rhodd dros yr ŵyl eleni.