Newyddion

Clebran â'n unawdwyr concerto

26 Mehefin 2024

Yr Haf hwn, bydd Opera Cenedlaethol Cymru yn teithio i grombil Ewrop ar gyfer taith gyngherddol Cerddorfa WNO, Croesi Ffiniau. Bydd yr arlwy gwych yn cynnwys Smetana a Schumann, ochr yn ochr â choncerto Beethoven i’r Feiolin neu goncerto Mozart i’r Clarinét*. Cyn y daith, cawsom air gydag unawdwyr y concerti, sef David Adams, feiolinydd ac Arweinydd Cerddorfa WNO, a Thomas Verity, Prif Glarinetydd WNO, i weld pam y mae eu darnau unawdol mor arbennig iddynt.


Allwch chi sôn rhywfaint am gefndir y darnau a chwaraewch?

Thomas Verity: Y concerto hwn i’r clarinét gan Mozart oedd gwaith gorffenedig olaf y cyfansoddwr – gorffennodd ei gyfansoddi wythnosau’n unig cyn ei farwolaeth ym 1791. Mae’r unig lawysgrif sydd wedi goroesi yn deillio o fraslun cynnar o’r 199 bar cyntaf, a ysgrifennwyd ar gyfer corn baset mewn G – offeryn is nad yw’n bodoli mewn gwirionedd heddiw. Fel nifer o berfformwyr modern, byddaf yn defnyddio clarinét safonol mewn A i berfformio’r darn, mewn argraffiad sy’n ailddosbarthu’r nodau isaf.

David Adams: Cyfansoddodd Beethoven ei goncerto i’r feiolin ar gyfer Franz Clement, a berfformiodd y cyfansoddiad am y tro cyntaf yn Fienna ym 1805. Yr unig gadenza a ysgrifennodd Beethoven ar gyfer y concerto oedd cadenza ar gyfer trefniant gyda’r piano, felly byddaf yn chwarae cadenza Fritz Kreisler, y feiolinydd enwog o Fienna a oedd yn ei flodau ar ddechrau’r ugeinfed ganrif.

Beth yw arwyddocâd eich concerti i chwaraewyr y clarinét/feiolin heddiw?

DA: Mae concerto Beethoven yn gyfansoddiad enfawr i feiolinwyr – y concerto fwyaf erioed ar yr adeg y cafodd ei gyfansoddi.

TV: Mae concerto Mozart ymhlith y darnau pwysicaf yn repertoire y clarinét ac rydym yn ffodus iawn bod y campwaith hwn ymhlith nifer cyfyngedig o ddarnau ar gyfer unawdwyr clarinét. Hefyd, dyma un o’r cyfansoddiadau cynnar mwyaf arwyddocaol ar gyfer yr offeryn ac mae’n gosod y llwyfan ar gyfer y modd y datblygodd cyfansoddiadau i’r clarinét yn ddiweddarach.

Beth yw’r peth anoddaf o ran perfformio eich concerto, a pham?

TV: Teg yw dweud, yn fy nhyb i, bod Mozart yn un o’r cyfansoddwyr anoddaf o ran gwneud cyfiawnder ag ef ar unrhyw offeryn. Mae ei arddull mor bur a manwl gywir a does dim modd cuddio unrhyw beth. Rhaid i bopeth fod yn osgeiddig ac yn gytbwys.

DA: Mae rhai rhannau o symudiad olaf Beethoven yn dechnegol anodd, ond y brif her yw rhoi ceinder ac ystyr i’r gerddoriaeth.

A oes gennych hoff recordiad o’ch concerto?

DA: Fy hoff recordiad yw’r recordiad sain gan y feiolinydd Pinchas Zukerman gyda Daniel Barenboim a’r Chicago Symphony Orchestra. Cefais fy magu yn gwrando ar Zukerman yn chwarae’r concerto, yn enwedig recordiad fideo Proms y BBC o’i berfformiad gyda’r BBC Symphony Orchestra. Yn ystod y 1980au, roeddwn i’n chwarae a chwarae’r tâp yn ddiddiwedd ar ein VCR! Llwyddodd cynhesrwydd a dyfnder y sain i’m cyfareddu.


TV: Mae recordiad Wolfgang Meyer gyda’r Concentus Musicus Wien a Nikolaus Haroncourt yn hynod o newydd ac egnïol, ac mae’n dibynnu ar ddull perfformio hanesyddol – hynny yw, anelu at berfformio darnau mewn ffordd a fyddai’n ddilys i gerddoriaeth y cyfnod.


Peidiwch â cholli eich cyfle i weld unawdwyr gwych WNO ar waith yn ystod taith Croesi FfiniauCerddorfa WNO yr Haf hwn: *Bydd Thomas Verity yn perfformio Concerto Mozart i’r Clarinét ym Mangor, Caerdydd a’r Drenewydd a bydd David Adams yn perfformio Concerto Beethoven i’r Feiolin yn Aberhonddu, Southampton ac Aberystwyth.