Mae Candide yn gynhyrchiad bywiog, arbrofol, unigryw. A does dim yn wahanol pan ddaw hi i'r gwisgoedd! Mae'r rhain, a ddyluniwyd gan Nathalie Pallandre, yn cyfuno ffasiwn fodern a phync y 18fed ganrif, mewn ffyrdd hynod o greadigol, ac wedi'u hysbrydoli'n fawr gan y dylunydd o Brydain, Vivienne Westwood. Mae nifer o'r gwisgoedd hefyd yn adrodd stori - darllenwch ymlaen am ragor o wybodaeth…

Gellir nodweddu ein prif gymeriad Candide fel teithiwr. Yn cael ei daflu o un lle i'r llall drwy gydol y plot, mae'n gweld llawer o'r byd, a llawer o'i erchyllterau. Roedd Nathalie yn awyddus i greu gwisg a fyddai'n dangos y synnwyr hwn o deithio a rhoi'r argraff bod Candide eisoes wedi teithio cyn i'r stori ddechrau. Penderfynwyd felly y byddai'n gwisgo siaced wedi'i gwneud o jîns, y cyfan yn glasurol ac wedi gwisgo'n sylweddol dros amser. O dan y siaced hon mae'n gwisgo crys sidan piws a throwsus pen-glin. Ar ei draed, mae'n gwisgo sanau chwaraeon a bŵts â sodlau arian, i ychwanegu cyffyrddiadau o ffasiwn fodern a phync.

Yn y cyfamser, mae Cunégonde yn gwisgo sawl gwisg wych, bob un gyda'i wig binc, sy'n cydnabod cyfnod y 18fed ganrif. Un o'r gwisgoedd mwyaf eiconig yw ei ffrog gadwyn ddisglair, a ddaeth o siop Zara ar y stryd fawr! O dan hon, mae'n gwisgo staes a gafodd ei lifo'n biws, gan gyd-fynd â chrys piws Candide, ynghyd â siorts denim pinc ac esgidiau ymarfer. Yn ystod yr aria Glitter and be Gay, mae hefyd wedi gwisgo pais rwyllog wedi'i haddurno â llawer o emwaith llachar. Mae'r holl elfennau hyn yn cyfleu hoffter Cunégonde o steil a'r pethau gorau mewn bywyd.

Mae'r Adroddwr a Pangloss yn gymeriadau ar wahân sydd, fodd bynnag, yn cyfuno, ac yn cael eu chwarae gan y talentog Rakie Ayola. Mae'r pâr, ym mhob ystyr, ill dau yn athrawon, felly mae'r wisg a rennir yn eithaf ffurfiol, yn cynnwys siaced efydd gydag addurniadau rhuban ar y llewys. Mae hyn yn arwydd o'r 18fed ganrif ond mae'n fyrrach na siaced draddodiadol y cyfnod. Yn ogystal, maent yn gwisgo crys sidan lliw eirinen wlanog, a throwsus patrymog gwyrdd a bŵts â sodlau. Mae'r cyfuniad hwn yn cyfuno'r hen a'r newydd mewn ffordd feiddgar, llawn steil.

Yn olaf, mae'r Hen Ddynes yn gwisgo gwisg unigryw iawn: ffrog a wnaed o grysau! Defnyddiwyd oddeutu deuddeg crys, bob un wedi dod o siopau elusen, i greu'r ffrog, ynghyd â staes a phais rwyllog, a wnaed i ddal y siâp. Ar ei thraed mae'n gwisgo bŵts trwm â chareiau. Mae ecsentrigrwydd y wisg yn adlewyrchu cymeriad gwahanol yr Hen Ddynes, sydd wedi byw bywyd hir, llawn dirgelwch, gyda llawer yn cael ei adael i'n dychymyg. Fodd bynnag, un peth mae hi'n ei ddweud wrthym yw ei bod wedi cael sawl cariad dros y blynyddoedd - efallai mai o'r fan hyn y mae'r holl grysau mae hi'n eu gwisgo wedi dod!

Yr hyn sy'n gwneud y gwisgoedd hyn yn fwy gwych yw pa mor gyfeillgar i’r amgylchedd ydyn nhw. Mae llawer o'r dillad a wisgir gan Gorws WNO wedi cael eu defnyddio mewn cynyrchiadau blaenorol neu wedi eu canfod mewn siopau clasurol neu ar Etsy, Ebay neu Vinted. Cafodd llawer o ddefnydd ei ailgylchu hefyd i wneud gwisgoedd newydd.
Eisiau gweld y gwisgoedd anhygoel hyn drosoch eich hunain? Heno yw eich cyfle olaf. Ymunwch â ni yn Hippodrome Bryste am 7.30pm am berfformiad bythgofiadwy!