Mae Marcellina yn The Marriage of Figaro yn nerthol, anwadal a hollol wych. Ychydig iawn a wyddys am y cymeriad yng nghampwaith Mozart, felly, eisteddom i lawr gyda Leah-Marian Jones, Marcellina diweddaraf Opera Cenedlaethol Cymru, i fynd dan groen arwres ddiarwybod yr opera hon.
'Mae Marcellina yn llofrudd teimladau, yn wir, Brenhines y grefft o ddylanwadu. Pan fo ar rywun eisiau rhywbeth wedi'i wneud, ânt ati ac fe'i gwna. Eisiau difetha priodas? Hi yw'r ferch i chi. Mae'n fy atgoffa o Lady De Winter o nofel 1844 Alexandre Dumas, The Three Musketeers. Mae'n llawn dirgelwch, yn brydferth a pheryglus, ond yn wahanol i De Winter, nid yw Marcellina yn ddrygionus, mewn gwirionedd. Mae'n fwy na pharod i gorddi'r dyfroedd, ond nid yw'n mynd allan o'i ffordd i frifo pobl, er rwy'n siŵr y byddai dyweddi Figaro yn anghytuno.
Pan fyddwch yn cyrraedd oed penodol, mae llawer o'r rolau benywaidd yn debyg, felly pan oeddwn yn paratoi'r rôl hon, cymerais ysbrydoliaeth o'r rolau eraill yr wyf wedi'u perfformio yn ystod fy ngyrfa. Rwyf wedi perfformio Marcellina unwaith o'r blaen, gyda chynhyrchiad Scottish Opera yn 2010, ac roedd yn gynhyrchiad gwahanol iawn.
Mae gan y Cyfarwyddwr lawer o ddylanwad ar y cymeriad ac mae Max Hoehn wedi bod yn bendant iawn gyda'i gyfarwyddyd, ond fy mhrif ffynhonnell wybodaeth yw'r gerddoriaeth, sydd wrth gwrs, yn pennu personoliaeth y cymeriad. Yn ystod ei deuawd gyda Susanna yn Act I, Via resti servita, madame brillante, mae'r brawddegu cerddorol, llyfn, hir yn byrhau fwyfwy wrth i'r ddeuawd ddatblygu nes eich bod yn gorffen gydag ymatebion un nodyn yn unig, sy'n adlewyrchu anniddigrwydd cynyddol y cymeriad. Mae Marcellina yn fyr iawn ei thymer pan nad yw pethau yn mynd fel y dymuna.
Wrth i'r opera ddatblygu, rydym yn gweld ochr fwy tyner iddi. Fel rheol ni chaiff ei aria yn Act IV, Il capro e la capretta, ei pherfformio, ond fe'i perfformir yn y cynhyrchiad hwn. Mae'r aria yn gweld Marcellina yn pendroni'n uchel ynghylch pam y gall adar ac anifeiliaid garu'n heddychlon, tra mae dyn bob amser yn bradychu ei gariad. Ai dim ond at Iarll Almaviva y mae hi'n cyfeirio ynteu ai cyfeiriad at ei pherthynas â Bartolo yw hwn?
Ni wyddom lawer am Marcellina, ond gwyddom fod ganddi orffennol dadleuol iawn â'r Meddyg. Daw hi a Dr Bartolo law yn llaw, ond aiff eu perthynas yn ddyfnach. Mae'n bosibl nad yw llawer yn gwybod bod The Marriage of Figaro, Mozart yn ddilyniant i The Barber of Seville, Rossini. Yn opera Rossini, morwyn/meistres tŷ Dr Bartolo yw Berta. Erbyn opera Mozart, mae Berta wedi datblygu i fod yn Marcellina, menyw (sy'n edrych yn) gyfoethog. Nid oes sôn ei bod yn gweithio, felly o ble daw ei chyfoeth? A yw Bartolo yn ei chefnogi?
Mae Marcellina yn rhan allweddol o'r stori. Yr hyn na wyddom ar ddechrau'r opera yw bod Marcellina yn fam a dyma sy'n ei gwneud yn arwres ddiarwybod The Marriage of Figaro. Pam? Mae'n rhaid i Figaro gael caniatâd ei rieni i briodi Susanna. Yn anffodus iddo ef, cafodd ei adael mewn eglwys pan oedd yn fabi, ond mae'r cyfan yn gorffen ar nodyn hapus pan gaiff hunaniaeth Marcellina ei datgelu. Ei dad? Pwy arall? Bartolo.
Pe na bai Marcellina yn yr opera, byddai'n opera fer iawn. Y brif thema yn The Marriage of Figaro yw cariad ac mae Marcellina yn un agwedd ar y cariad hwn. Pe bai ei hamgylchiadau wedi bod yn wahanol, rwy'n credu y byddai wedi bod yn fam wych.'