Newyddion

Archwilio Rhannau Trowsus

8 Awst 2023
Llun drwy garedigrwydd James Glossop/Scottish Opera

O fewn opera, ceir traddodiad hirsefydlog o ferched yn canu rolau dynion, a elwir yn rhannau trowsus, ond, tybed a wyddoch fod yr arfer wedi dod yn boblogaidd drachefn yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Yn yr opera Ainadamar gan Osvaldo Golijov a gyfansoddwyd yn 2003, perfformir rôl flaenllaw y bardd a’r dramodydd Federico García Lorca gan gantores mezzo-soprano. Er mwyn dathlu’r ffaith bod perfformiad cyntaf Opera Cenedlaethol Cymru o Ainadamar yn cael ei gynnal yn Nhymor yr Hydref 2023, beth am i ni archwilio rhai o’r rhannau trowsus enwocaf y repertoire.

Cherubino, The Marriage of Figaro

Mae’n debyg mai Cherubino allan o The Marriage of Figaro gan Mozart yw’r rhan trowsus enwocaf yn yr holl repertoire operatig. Macwy i’r Iarll Almaviva yn ei arddegau yw Cherubino, sy’n cael ei berfformio gan gantores mezzo-soprano ac sydd wedi’i seilio ar gymeriad mewn drama gan Beaumarchais sy’n dyddio i 1778, ac mae ganddo ddiddordeb brwd mewn merched.

Aria enwog Cherubino, sy’n ymddangos yn yr Ail Act, yw Voi che sapete (Tell me what love is). Yn dilyn anogaeth Susanna, mae’n canu cân a gyfansoddodd ei hunan i’r Iarlles, gan fynegi ei deimladau rhamantus tuag ati.

Octavian, Der Rosenkavalier

Iarll ifanc 17 mlwydd oed yw Octavian Rofrano (a berfformir gan gantores mezzo-soprano) a amlygir yn yr opera Der Rosenkavalier a gyfansoddwyd gan Richard Strauss yn 1911, ac ef yw cariad y Marschallin, y wraig fonheddig sydd gryn dipyn yn hŷn nag ef. Ac yntau wedi ei guddwisgo fel morwyn ystafell, daw Octavian yn Rosenkavalier (‘Marchog y Rhosyn’) ar gyfer Barwn Ochs gan gludo’r rhosyn arian seremonïol traddodiadol i’w ddyweddi ef, Sophie. Mae Octavian yn syrthio dros ei ben â’i glustiau mewn cariad pan wêl Sophie.

Egyr yr opera gydag aria Octavian Wie du warst! (Sut wyt wedi bod!), lle mae’n canu am ei gariad a’i dynfa tuag at y Marschallin.

Hansel, Hansel and Gretel

Mezzo-soprano sydd yn canu rhan Hansel, yn yr opera Hansel and Gretel gan Humperdinck. Anfonir Hansel a Gretel i’r goedwig gan eu mam, ond wedi iddynt golli eu ffordd, maent yn darganfod tŷ wedi’i wneud o fara sinsir. Mae Gwrach yn eu hudo i mewn ac yn eu caethiwo, gan benderfynu pesgi Hansel er mwyn ei fwyta. Yn ffodus, llwydda Gretel i dorri’r hud a rhyddhau Hansel, a gwthia’r plant y Wrach i’r popty ble trengodd.

Cenir Der Abendsegen (Gweddi Noswyl) gan Hansel gyda Gretel yn y goedwig, pan fo’r ddau ar goll ac ar fin syrthio i gysgu. Caiff yr aria hon ei hystyried ymhlith un o’r momentau cerddorol enwocaf o fewn yr holl repertoire operatig.

Lorca, Ainadamar

Mae’r opera gyfoes Ainadamar o waith Osvaldo Golijov yn canolbwyntio ar lofruddiaeth y bardd a’r dramodydd chwedlonol Federico García Lorca. Fe’i cenir yn Sbaeneg, ac mae’n adrodd am gyfeillgarwch Lorca â’r actores Margarita Xirgu, a hithau’n ymbil arno i ddianc o Sbaen cyn i’r Rhyfel Cartref dorri allan yno.

Ymddengys un o fomentau mwyaf allweddol Lorca yng nghanol yr opera, pan fo’n canu am ei ddyhead i aros yn Granada, er gwaetha’r rhyfel, er mwyn dogfennu ymdrechion ei bobl. Mae Quiero cantar entre las explosions (Rwyf eisiau canu ymhlith y ffrwydradau) yn fynegiant o herfeiddiwch grymus Lorca, gyda’r gantores mezzo-soprano, sy’n perfformio ei ran, yn cael ei gwthio i eithafion ei mynegiant a’i chwmpas lleisiol.

Er mwyn gweld perfformiad cyfoes o rôl y trowsus ar waith, dewch i weld cynhyrchiad ysblennydd Ainadamar yn ystod Tymor yr Hydref 2023.