Mae’r byd opera yn llawn o dadau enwog, ac yn wahanol i’r mamau, a gaiff eu portreadu’n aml mewn modd negyddol, ceir tadau o bob math. Heddiw, rydym yn trafod ein hoff dadau, pa un a ydynt ymhlith y modelau rôl gorau, ai peidio.
Rigoletto
Mae gan Verdi lu o ffigurau tadol ac mae’n amhosibl anwybyddu’r un enwocaf, y digrifwas Rigoletto, y mae ei ddymuniad tanbaid i amddiffyn ei ferch yn arwain at ei gwymp. Mae Rigoletto yn ddyn chwerw ac yn hyrddio sarhad at bawb, ond mae ei dafod lem yn cael ei disodli gan ofal tyner ac aruthrol tuag at ei ferch ddirgel, Gilda, y mae’n ei chadw ynghudd rhag y cyhoedd. Mae’r hyn a wna, er gwaethaf ei fwriadau gorau, yn atal ei datblygiad ac yn ei gwneud yn fwy bregus i rymoedd o’r tu allan. Yn ei ymchwil am ddialedd, yn y pen draw mae Rigoletto yn colli’r hyn y mae’n ei charu fwyaf yn y byd.
Boris Godunov
‘Gyda phwy yr wyt ti’n ein gadael, fy nhad?’ Boris Godunov yw un o’r rolau bas-bariton mwyaf gwerth chweil. Dyma lywodraethwr bonheddig sy’n caru ei blant (Xenia a Fyodor) a’i bobl, ond mae ei awch am bŵer wedi ei arwain i gyflawni trosedd erchyll. Gan fynegi cyflwr trasig ei enaid, mae Boris yn erfyn ar i’w ferch roi heibio’i galar ac yn dweud wrth ei fab am barhau gyda’i astudiaethau gan mai ef, ryw ddydd, fydd Tsar Rwsia. Yn ystod pwl o weld drychiolaethau, caiff Boris ei gythryblu gan ei droseddau a chyfyd ei law i gyfeiriad ei Dduw i erfyn am faddeuant, gan berfformio un ymson maith olaf (‘Rwyf wedi sicrhau’r pŵer eithaf’).
Les vêpres siciliennes
Pan oedd yn llanc ifanc, fe wnaeth Guy de Montford yn Les Vêpres sicilliennes gan Verdi dreisio merch Sisilaidd a esgorodd yn ddiweddarach ar ei blentyn. Flynyddoedd yn ddiweddarach, ac yntau’n unig ac yn anesmwyth ynghylch ei orffennol, mae Montford yn sylweddoli bod Henri, y gwladgarwr Sisilaidd ifanc, yn fab iddo. Erbyn hyn, mae Montford yn edifarhau’n fawr am yr hyn a wnaeth i fam Henri ac mae’n dyheu am greu cyfeillgarwch gyda’i blentyn, ond mae Henri wedi’i fagu i gasáu pob Ffrancwr, yn enwedig y sawl a dreisiodd ei fam. Yn Act III yr opera, mae Montford yn datgelu i Henri pwy ydyw yn un o ddeuawdau gorau Verdi (‘Quand ma bonté toujours nouvelle’). Ac yntau’n cael ei rwygo gan ei ddyletswydd tuag at y Sisiliaid (a’i gariad tuag at ei ddyweddi Hélène) ar y naill law, a’i deimladau tuag at ei dad ar y llaw arall, beth fydd hanes yr aduniad?
Don Giovanni
Mae’r Commendatore yn dad arall y mae ei bresenoldeb (neu ei ddiffyg presenoldeb) yn ei amlygu ei hun drwy gydol yr opera, a chaiff yr holl blot ei roi ar waith ganddo ar ddechrau’r opera glasurol hon gan Mozart. Yn yr olygfa agoriadol, mae’r Commendatore yn herio’r anfad Don Giovanni i ymladd gornest am ei fod wedi ceisio hudo’i ferch. Nid yw’r Commendatore yn goroesi’r ornest, ond yn ddiweddarach mae’n dychwelyd ar ffurf cerflun i fwrw ei farn ar ei lofruddiwr. Nid ydym yn cael llawer o fanylion am ei berthynas gyda’i ferch Donna Anna, ond ar sail ei galar cawn yr argraff fod y ferch ifanc yn teimlo ffyddlondeb dwfn, os nad hoffter, tuag at ei thad.
La traviata
Dyma’r tad olaf ar y rhestr o blith creadigaethau Verdi. Mae Germont yn gweithredu gyda lles ei blant mewn cof. Mae ei holl ymwneud â Violetta yn canolbwyntio ar un peth – sicrhau y bydd ei fab yn osgoi bywyd o anfoesoldeb. Mae ei gymalau cerddorol enwocaf, ‘Pura si come un angelo’ a ‘Di provenza il mar’, yn canolbwyntio ar ei gariad tuag at ei blant. Ond rydym hefyd yn ei weld fel tad sy’n fodlon tynnu sylw at gamgymeriadau ei blentyn; ac yn ddi-os, mae ei ennyd enwocaf sy’n cychwyn y concertato yn un enghraifft o ddyn y mae’n gas ganddo weld ei blentyn ei hun yn ymddwyn yn anaeddfed ar goedd.