Newyddion

Pum ffaith am Rigoletto

12 Mehefin 2024

Yr Hydref hwn, bydd Opera Cenedlaethol Cymru yn dod â chynhyrchiad newydd sbon o Rigoletto Verdi i chi gan y cyfarwyddwr Adele Thomas, a gafodd ei geni a’i magu ym Mhort Talbot, De Cymru. Nid dyma’r tro cyntaf i WNO berfformio Rigoletto ac rydym yn gyffrous i ddod ag ef yn ôl i’r llwyfan, felly, cyn ei ddychweliad, rydym wedi datgelu rhai ffeithiau diddorol am gampwaith Verdi.

Cystadleuaeth boblogrwydd

Nid yw’n syndod bod WNO wedi perfformio Rigoletto droeon dros y blynyddoedd; yn ôl ystadegau perfformiadau opera byd-eang, a geir ar Operabase, mae Rigoletto, ynghyd â dwy o operâu eraill Verdi, La traviata ac Aida yn gyson ymhlith yr operâu sy’n cael eu perfformio fwyaf. Amcangyfrifir bod pob teitl yn cael ei berfformio rhwng 300 a 400 o weithiau ledled y byd bob blwyddyn.

Cael y teitl iawn

Mae opera Verdi yn seiliedig ar ddrama gan Victor Hugo ac yn wreiddiol roedd y cyfansoddwr yn gobeithio defnyddio’r un enw â’r ddrama, Le roi s’amuse (The King Amuses Himself). Pan wrthodwyd y teitl hwn, awgrymodd La Maledizione (Y Felltith), cyn penderfynu o’r diwedd enwi’r opera ar ôl ei lled-brif gymeriad.

Beth sydd mewn enw?

Mae enw cellweiriwr y Dug a’r prif gymeriad, Rigoletto, wedi'i addasu o'r gair Ffrangeg ‘rigoler’, sy'n golygu ‘chwerthin’. Yn nrama wreiddiol Victor Hugo, enw’r cellweiriwr oedd Triboulet, sef enw go iawn cellweiriwr y Brenin Ffransis I, fodd bynnag bu’n rhaid newid enw’r cymeriad i gael cymeradwyaeth; bu'n rhaid i'r libreto gael ei adolygu'n sylweddol i fodloni'r sensoriaid, a ystyriai'r opera'n rhy fygythiol.

Rydych wedi ei glywed o'r blaen

Mae Act III Rigoletto yn cynnwys un o’r alawon mwyaf adnabyddus ym myd opera, La donna è mobile. Mae'r dôn wedi'i defnyddio mewn hysbysebion di-rif, gan gynnwys y rhai ar gyfer bwyd Eidalaidd, chwistrell corff, swigod sgwrio a chwcis talpau siocled, yn ogystal â dwy hysbyseb Super Bowl gwahanol ar gyfer Doritos. Mae hefyd wedi cael sylw mewn ffilmiau, teledu, a thraciau sain gemau fideo, fel The Sopranos, Rocky Balboa a Grand Theft Auto.

Y cymeriadau a'u cerddoriaeth

Cyferbynnir palas erchyll y Dug gan dawelwch ac unigedd Gilda, merch annwyl Rigoletto. Mae Gilda yn cael peth o’r gerddoriaeth fwyaf dwyfol, yn enwedig yn Act I aria Caro nome, sy’n cyfieithu fel Annwyl Enw yn Gymraeg. Mae Verdi hefyd yn glyfar yn rhoi cerddoriaeth gyfrwys o swynol i’r Dug dirmygus, fel La donna è mobile. Mae cerddoriaeth Rigoletto yn fwy pigog ac yn fwy dadlennol, i adlewyrchu cymysgedd anesmwyth y ddau fyd; ei ferch a'r Dug.

I weld y cynhyrchiad newydd hwn o un o hoff operâu’r byd, a dadorchuddio cyfrinachau’r Llys drosoch eich hun, yna ymunwch â ni wrth i ni ymweld â lleoliadau ledled Cymru a Lloegr yr Hydref hwn.