Rigoletto Verdi
–Trosolwg
Malais a thwyll: bywyd ar chwâl...
Camwch i mewn i lys aflafar Dug Mantua lle mae Rigoletto, digrifwas y Dug, yn defnyddio ffraethineb mileinig i gelu ei galon ingol. Mewn byd sy’n gwegian ar ymyl anfoesoldeb a thwyll, ei ferch, Gilda, yw’r unig beth sy’n dod â llawenydd iddo. Ond pan mae’r Dug, y merchetwr cyfareddol, yn rhoi ei fryd ar Gilda, mae ei ymddygiad yn arwain at gyfres o ddigwyddiadau trasig lle mae brad a chariad tad yn gwrthdaro mewn cresendo o angerdd a thorcalon.
Mae’r stori ddirdynnol yma, sydd wedi’i lleoli mewn llys dirywiedig a chreulon, yn archwilio’r gwead cymhleth o gariad, brad a chanlyniadau pŵer. Yn ôl Verdi, Rigoletto oedd ei opera orau, a chyda’i thapestri cyfoethog o emosiynau a melodïau bythgofiadwy – yn cynnwys pedwarawd enwocaf y byd opera a’r hynod gyfarwydd La donna è mobile – mae’n hawdd gweld pam ei bod yn berthnasol hyd heddiw ac yn parhau i gyseinio ymhell ar ôl i’r llen ddod i lawr.
Archebu rhaglen
Archwiliwch du ôl i'r llenni
Cefnogaeth cynhyrchuu arweiniol gan Colwinston Charitable Trust. Tymor 2024/2025 wedi'i gefnogi gan Dunard Fund.
Defnyddiol i wybod
Tua dwy awr a 30 munud, gan gynnwys un egwyl
Cenir yn Eidaleg, gydag uwchdeitlau Cymraeg a Saesneg
Canllaw oed 16+
Yn cynnwys rhyw a thrais a golygfeydd eraill a allai beri gofid i rai pobl.
Yn cynnwys goleuadau sy'n fflachio a goleuo strôb.
O dan 16 mlwydd oed
£5 pan fyddant gydag oedolyn â thocyn pris llawn (yn ddibynnol ar argaeledd)
Yn ymuno â ni yng Nghaerdydd?
Manteisiwch ar 20% oddi ar lety a chynigion bwyd cyn sioe gan ein partner gwesty dewisol, Future Inns
Synopsis
Act Un
Mewn parti, mae’r Dug yn dyheu am ferch ifanc ddirgel a welodd yn yr eglwys. Mae Iarll Ceprano yn dod â’i wraig newydd i’r parti, ond buan y mae hi’n cael ei denu gan y Dug. Mae’r Ffŵl Rigoletto yn gwneud hwyl am ben Ceprano, ac yn ei ddicter, mae Ceprano’n casglu gŵyr y llys at ei gilydd mewn fendeta yn erbyn y Ffŵl. Mae Iarll Monterone’n tarfu ar y dathlu, gan fynnu bod ei ferch, a gafodd ei swyno gan y Dug, yn cael ei dychwelyd. Mae Rigoletto, sef llaw dde’r Dug, yn gwneud hwyl am ei ben, ac mae Monterone yn ei felltithio.
Ac yntau’n pryderu’n ddwys am ei felltith, mae llofrudd proffesiynol, Sparafucile, yn cynnig ei wasanaethau i Rigoletto. Mae Rigoletto’n dychwelyd adre at ei annwyl ferch, Gilda, ac yn dweud wrth ei gofalwraig, Giovanna, i ofalu amdani. Pan mae’n clywed sŵn tu allan, mae’n gadael, ac mae’r Dug yn dod i’r golwg mewn cuddwisg myfyriwr tlawd. Mae Gilda, sy’n ei gofio ers ei weld yn yr eglwys, yn cael ei thwyllo ganddo. Mae gŵyr y llys yn paratoi i herwgipio Gilda, gan gredu mai meistres Rigoletto yw hi, ac maen nhw’n twyllo Rigoletto i’w helpu nhw.
EGWYL
Act Dau
Mae’r Dug wrth ei fodd o weld Gilda a gipiwyd yn aros yn ei ystafell wely. Mae Rigoletto’n chwilio’n enbyd amdani, gan ddatgelu mae ei ferch yw Gilda, ac nid ei feistres. Pan gaiff ei rhyddhau, mae Gilda’n dweud wrtho beth ddigwyddodd, ac mae Rigoletto’n benderfynol o ddial.
EGWYL
Act Tri
Mae Rigoletto’n mynd â Gilda i buteindy dirgel i ddangos cymeriad go iawn y Dug iddi. Yno, mae hi’n gweld y Dug yn fflyrtio â Maddalena, ac mae’n torri ei chalon.
Mae Sparafucile a Rigoletto yn cytuno ar bris i ladd y Dug, gyda Rigoletto’n addo dychwelyd ganol nos i daflu’r corff i’r afon. Ond, mae Maddalena’n argyhoeddi Sparafucile i beidio â lladd y Dug; mae’n cytuno os bydd rhywun arall yn dod i’r golwg, y byddai’n eu lladd nhw yn ei le. Mae Gilda’n clywed y sgwrs, ar ôl iddi anwybyddu gorchymyn ei thad i adael, ac mae’n penderfynu aberthu ei hun i’r Dug, gan ei bod yn dal i’w garu. Mae Rigoletto’n casglu’r sach gyda’r corff ac yn canfod – yn rhy hwyr – mai ei ferch farw sydd yn y sach.