Yn Opera Cenedlaethol Cymru rydym ar fin cychwyn ar antur anhygoel wrth i’n cynhyrchiad poblogaidd o operetta Bernstein, Candide, ddychwelyd. Mae’r cynhyrchiad yn dod â thîm creadigol sydd wedi ennill gwobrau ynghyd, dan arweiniad y cyfarwyddwr James Bonas. Cawsom sgwrs ag ambell un o’r tîm i weld yr hyn sydd ar y gweill…

James Bonas – Cyfarwyddwr
Beth all cynulleidfaoedd ddisgwyl o’r cynhyrchiad hwn o Candide?
Dylai’r cynhyrchiad fod yn llawn difyrrwch i’w wylio. Mae bron i gant o bobl yn dweud stori wallgof gyda cherddoriaeth anhygoel. Mae fel petai rhywun yn cymryd y gorau o’r West End a Broadway a’i gymysgu gyda Cherddorfa a Chorws WNO, dawnswyr a chantorion gwadd eithriadol - nid oes mo’i fath.
Beth sy’n gwneud y darn yma’n wahanol i opera draddodiadol?
Yn gyntaf, cyfansoddodd Bernstein y darn ddwy flynedd ar ôl West Side Story, ac mae strwythur y caneuon, testun y golygfeydd a’r gerddoriaeth yn debycach i sioe gerdd nag opera. Yn aml mae’r caneuon yn cynnwys seibiannau dawns ac mae golygfeydd o ddeialog yn y canol sy’n cynnal y stori ac yn datblygu’r cymeriadau. Bwriad ein cynhyrchiad yw cael grŵp unedig o berfformwyr, sy’n cynnwys y chwaraewyr cerddorfa, y cantorion, y Corws, a’r dawnswyr oll yn gweithio’n ddidrafferth fel rhan o un tîm unedig yn dweud y stori.
Grégoire Pont – Dylunydd Fideo ac Animeiddiadau
Dywedwchfwy wrthym am y cysyniad o Ginesthetig yr ydych yn ei ddefnyddio a sut y caiff ei gymhwyso yn Candide? Cinesthetig yw’r ffordd yr wyf yn diffinio fy nheimladrwydd i ddelweddu cerddoriaeth, mae’n groesair rhwng synesthesia a sinema. Mae’n bleser gwrando ar gerddoriaeth gyda’ch llygaid ar gau (ac eithrio pan ydych yn gyrru car wrth gwrs!) a gweld y lluniau sy’n dod o’r dychymyg. Dechreuodd hyn amser maith yn ôl pan oeddwn wedi diflasu mewn gwersi cerddoriaeth yn yr ysgol. Byddai’r athro yn chwarae record o gerddoriaeth Haydn a byddwn yn dianc i fy nychymyg. Mae’n gymaint o bleser ac anrhydedd cael cyfieithu’r delweddau hyn i animeiddiadau ar gyfer sioeau. Rwy’n credu fod gen i’r swydd orau yn y byd!
Mae’n beth anarferol i bobl weld animeiddiad fel rhan o berfformiad byw. Beth all pobl ei ddisgwyl wrth ddod i weld Candide?Bydd pobl yn cael profiad na wnaethant erioed ei ddychmygu. Mae wirioneddol yn sioe nas gwelwyd o’r blaen gyda fideos rhyngweithiol. Nid cefndiroedd yn unig ydyw, fel set. Mae’r animeiddiadau yn fyyyyyw gyda sain cerddoriaeth! A a a!
Thibault Vancraenenbroeck – Dylunydd Setiau
Beth ydych yn ei ystyried wrth ddylunio set?
Y gerddoriaeth, y libreto, dymuniadau a ffantasïau’r cyfarwyddwr. Rwy’n ceisio adeiladu dramäwriaeth weledol gref sy’n helpu cantorion i deimlo’n gartrefol ar y llwyfan. Rwyf hefyd yn ceisio dod o hyd i’r mynegiant esthetig cywir er mwyn helpu’r cyhoedd i ganolbwyntio; mwynhewch a breuddwydiwch gyda’r gwaith celf.
Sut wnaethoch chi benderfynu ar y set olaf i Candide, a beth oedd angen ei ymgorffori i wneud y cynhyrchiad hwn yn llwyddiant?
Yn y math penodol hwn o gydweithio i ddylunio fideo gyda Grégoire Pont a James Bonas, fy ngwaith i oedd dylunio’r arwynebau taflunio mwyaf effeithiol ac amlbwrpas. Cynlluniais rai elfennau sy’n gallu atgyfnerthu natur ddeinamig y tafluniadau fideo. Dyluniais rai elfennau strwythurol symudol sydd bron yn anweledig os nad ydynt yn gweithio gyda’r fideo, a gallant ddod yn fyw cyn gynted ag y dônt yn arwynebau taflunio neu wrth gynhyrchu goleuni arno’i hun. Hefyd dyluniais ychydig o wrthrychau a dodrefn sy’n helpu James Bonas a’r cantorion i greu golygfeydd chwareus a chadarn iawn yn dilyn ac yn goleuo’r adrodd stori wallgof hon gan Bernstein.
Mae Candide yn dychwelyd i Ganolfan Mileniwm Cymru ddydd Mercher 17 Medi cyn mentro i Southampton, Llandudno a Bryste.