Newyddion

Caredigrwydd ym myd Opera

13 Tachwedd 2023

Mae’n Ddiwrnod Caredigrwydd y Byd heddiw, pan fydd pobl ledled y byd yn uno i ddathlu ac ymrwymo i ddangos mwy o garedigrwydd tuag at y rhai o’n cwmpas, ein hunain a’r byd.  

Ym myd opera, mae cariad, nwyd, dial a marwolaeth yn ganolog i nifer o straeon, ond wrth edrych ychydig yn fanylach, gallwn weld fod caredigrwydd yn aml yn thema sylfaenol sy’n cyfrannu at ddatblygiad y cymeriadau, datrysiadau ac adferiadau.  

Mae La bohème o waith Puccini yn dilyn stori dau gariad ifanc bohemaidd ym Mharis. Wedi’i gosod ar dro'r 19eg ganrif, cawn gwrdd â grŵp o ffrindiau tlawd ar Noswyl Nadolig, yn eu rhandy atig, sydd wedi gweld dyddiau gwell. Mae eu cartref pitw mor oer â’r awyr agored ac felly, i gadw ei ffrindiau’n gynnes, mae Rodolfo, bardd y grŵp, yn aberthu ei eiddo gwerthfawr ac yn llosgi ei lyfrau i gynnal y tân. Mae cariad Rodolfo, Mimi yn gwneud y peth mwyaf caredig y gall hi ei wneud yn ei barn hi, sef aberthu ei hapusrwydd ei hun drwy adael Rodolfo, i’w achub ef rhag ei hafiechyd hi, sy’n gwaethygu.  

Mae aberthu hapusrwydd personol er lles cariad hefyd yn rhan greiddiol o La traviata o waith Verdi. Mae Violetta, putain llys o Baris, mewn cariad gydag Alfredo ond, gan fod ei dad wedi mynnu, mae hi’n ei adael i warchod enw da ei deulu. Mae Violetta, fel Mimi, yn marw o’r diciâu, ac yn ystod munudau olaf yr opera, mae hi’n cael ei hadfer drwy faddeuant a thosturi’r rhai a feirniadodd hi unwaith. Caiff ei chroesawu yn ôl i’r teulu gan dad Alfredo, Germont, er hyn mae’n rhy hwyr, ac mae Violetta yn marw ym mreichiau ei chariad.  

Mae The Magic Flute o waith Mozart yn llawn o weithredoedd caredig, o Papageno yn gofalu am yr adar mae’n ei gasglu ar gyfer Brenhines y Noson i dosturi Pamina. Mae Papageno yn enghreifftio pŵer gweithredoedd syml o garedigrwydd drwy gydol yr opera wrth iddo ffurfio perthnasau a chyfeillgarwch â chymeriadau eraill. Mae ei natur o hiwmor ac ysgafnder, ynghyd â’i barodrwydd i helpu eraill, yn ein hatgoffa o bwysigrwydd dangos caredigrwydd tuag at y bobl o’n cwmpas. Mae Pamina, arwres yr opera, yn dangos caredigrwydd a thosturi tuag at Tamino pan mae ef mewn trallod, gan ei helpu ar ei daith. 

Mae opera epig Richard Wagner, Tristan und Isolde yn stori am gariad gwaharddedig a thrasiedi, ond mae gan hyd yn oed y straeon tywyllaf arwyddion o garedigrwydd. Mae Tristan, wedi’i anafu’n ddrwg ar ôl lladd cariad Isolde, Morold, yn cwrdd ag Isolde, dan y ffug enw Tantris. Er nad yw’n ei adnabod, mae Isolde yn ei nyrsio’n garedig ac yn gofalu am ei friwiau gyda’i phwerau iachau newydd, cyn sylwi pwy ydyw mewn gwirionedd. 

Yng nghampwaith diamser Puccini, Madam Butterfly, rydym yn gweld un o’r gweithredoedd mwyaf teimladwy o garedigrwydd wrth i Butterfly neu Cio-Cio-San, yr arwres drasig, wneud yr aberth mwyaf oll i’w mab drwy gymryd ei bywyd ei hun i sicrhau dyfodol gwell iddo ef. Mae’n dangos dyfnder emosiynol aruthrol, gan arddangos cariad ac anhunanoldeb mam. 

Mae'r adegau rydym wedi edrych arnynt yn yr operâu hyn yn pwysleisio mor fyd-eang yw caredigrwydd, cariad a maddeuant, hyd yn oed yn y cyd-destunau mwyaf dramatig ac emosiynol. Mae’r gweithredoedd hyn o garedigrwydd yn ein hatgoffa, yng nghanol gwychder a thrasiedi bywyd, y gweithredoedd syml hyn o garedigrwydd sy’n ein gwneud yn ddynol mewn gwirionedd.