Newyddion

Harry Ogg yn ymuno â WNO fel Arweinydd Cyswllt

30 Mai 2019

Ac yntau wedi'i ddisgrifio gan y Classical Source fel 'a name to conjure and a talent to relish', mae'n bleser gennym gyhoeddi mai Harry Ogg yw Arweinydd Cyswllt newydd WNO.

I’m over the moon to be taking up this position with WNO. Young conductors often struggle to find the right opportunities to build up experience (you can’t ‘practise’ at home in the same way as an instrumentalist can) and within this position I’ll be conducting a lot of performances as well as assisting. I can’t think of a better place to grow and develop.

Ac yntau wedi graddio o Clare College, Caergrawnt a’r Liszt School of Music Weimar, mae'r deiliad Bwrsariaeth Artist Ifanc yr International Opera Awards ac enillydd dwy waith Ysgoloriaeth Arwain Brenda Charters yn uchel ei barch yn y repertoire opera yn ogystal â chyngherddau.

Mae cyfleoedd arwain gwadd a rolau cynorthwyol wedi mynd ag ef i’r London Mozart Players; Haydn Chamber Orchestra; Covent Garden Chamber Orchestra; Cambridge University Chamber Orchestra; Deutsche Oper am Rhein ac mae wedi bod â 25 o raglenni ar daith ledled y DU a Ffrainc gyda Sinfonia d’Amici, ensemble y bu iddo ei sefydlu yn 2009. Mae wedi gweithio gydag Edward Gardner a'r Bergen Philharmonic; Syr Mark Elder a Hallé Orchestra a London Symphony Orchestra yn rownd derfynol Cystadleuaeth Arwain Donatella Flick.

Mae'n gweithio'n rheoliadd ag Opera Holland Park, English Touring Opera ac mae wedi gweithio fel aelod gwadd o'r Staff Cerdd i Oper am Rhein, Düsseldorf.

Yn ystod Tymor yr Hydref 2018 WNO, bu i Harry gynorthwyo Cyfarwyddwr Cerdd WNO, Tomáš Hanus ar War and Peace gan Prokofiev.

Tomas is wonderful to work with as an assistant – he’s so encouraging and completely engaged with the whole team. Seeing him at work has been important to help me better understand what the role of a conductor really is within an opera.

Swydd gyntaf Harry fel Arweinydd Cyswllt WNO fydd arwain Cerddorfa WNO, a'r unawdwyr Joyce El-Khoury a Jason Howard, yn ein cyngerdd Clasuron Opera’r Haf a fydd yn mynd ar daith i Abertawe, Casnewydd a'r Drenewydd. 

Joyce El-Khoury and Jason Howard are fantastic performers – every moment making music with them will be one to cherish! The programme is very eclectic. It’s a programme exclusively made up of highlights. That said, Joyce’s Song to the Moon and Jason’s Rigoletto are sure to make you sit up and listen.

Bydd ei ddyletswyddau eraill yn cynnwys cynorthwyo Tomáš Hanus gyda chynhyrchiad newydd Jo Davies o Carmen yn ystod Tymor yr Hydref 2019 WNO. Y Tymor nesaf, fe fydd hefyd yn Musikalischer Assistent des Gurzenich-Kapellmeisters i Francois-Xavier Roth yn y Gurzenich Orchester Koln, Yr Almaen.