Mae Cadeirio’r Bardd yn nodi un o nodweddion mwyaf diffiniol yr Eisteddfod Genedlaethol. Mae’r seremoni’n anrhydeddu enillydd yr awdl; cerdd hir a gyfansoddwyd mewn mesur caeth (cynghanedd). Cyflwynir ceisiadau dan ffugenwau, sy’n golygu bod hunaniaeth y bardd fel arfer yn gyfrinach hyd nes i’r enillydd gael ei alw ymlaen.
Yn 1917, trodd yr hyn a fyddai wedi bod yn foment o ddathlu yn drasiedi genedlaethol.
Dyma hanes Hedd Wyn - Ellis Humphrey Evans.
Y bardd bugail
Wedi’i eni yn Yr Ysgwrn, fferm ei deulu yn Nhrawsfynydd yn 1887, bu Ellis yn byw bywyd cymharol arferol. Gadwodd yr ysgol yn 14 i weithio fel bugail, ond parhaodd â’i addysg drwy ddarllen a barddoniaeth. Wedi’i ysbrydoli gan dirwedd Eryri, crefydd a Beirdd Rhamantus; datblygodd ei grefft drwy gystadlu mewn Eisteddfodau lleol.
Enillodd ei gadair farddol gyntaf yn y Bala yn 1907. Dilynodd pum cadair arall, ac yn 1916, daeth ei awdl, Ystrad Fflur, yn ail yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Aberystwyth. Daeth Hedd Wyn yn un o feirdd cyfrwng Cymraeg mwyaf addawol ei genhedlaeth.
Y Rhyfel Mawr
Daeth consgripsiwn yn 1916 â’r rhyfel yn uniongyrchol i’r Ysgwrn. Er bod ffermio’n cael ei ystyried yn waith hanfodol, ni allai’r teulu Evans gadw Ellis a’i frawd iau, Robert, adref. Byddai’n rhaid i un ohonynt wasanaethu.
Dewisodd Ellis fynd, gan sbario Robert a’i adael ef i helpu i redeg fferm y teulu.
Ym mis Chwefror 1917, cofrestrodd Hedd Wyn am hyfforddiant gyda’r Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig yng ngwersyll Litherland ger Lerpwl. Y mis canlynol, wedi i’r llywodraeth ryddhau gweithwyr amaethyddol dros dro i helpu gyda’r aredig yn y Gwanwyn, dychwelodd i’r Ysgwrn ar ei wyliau.
Yn ystod y cyfnod byr hwn o ddychwelyd adref y bu’n gweithio’n ddiwyd ar Yr Arwr, ei ymgais ar gyfer y Gadair yn yr Eisteddfod Genedlaethol y flwyddyn honno yn Birkenhead.
Pan ddaeth ei wyliau i ben, dychwelodd i wasanaeth milwrol a theithiodd i Ffrainc. Ym mis Gorffennaf, postiodd y gerdd, wedi’i chwblhau, o’r pentref Fléchin dan y ffugenw 'Fleur-de-lis'.
Y Gadair wag
Chwe wythnos yn ddiweddarach, daeth y gynulleidfa ynghyd yn yr Eisteddfod ar gyfer seremoni’r Cadeirio.
Roedd y beirniaid wedi dewis Yr Arwr. Gan ddilyn traddodiad, galwodd yr Archdderwydd ar 'Fleur-de-lis' i sefyll a derbyn y Gadair. Arhosodd y gynulleidfa, nad oedd yn ymwybodol fod y bardd buddugol wedi marw yn Fflandrys.
Datgelodd yr Archdderwydd ef fel Ellis Humphrey Evans - Hedd Wyn o Trawsfynydd, a gosodwyd llen ddu dros y Gadair wag.
Roedd y Gadair wedi’i gwneud gan Eugeen Vanfleteren, ffoadur o Wlad Belg a gafodd ei ddadleoli gan yr un rhyfel. Wedi’i cherfio â dreigiau Cymreig a phatrymau Celtaidd wedi’u plethu, cafodd ei chludo’n ddiweddarach ar drên a gyda cheffyl a chert i’r Ysgwrn, gan gyrraedd cartref y teulu mewn llen ddu o hyd.
Daeth eisteddfod 1917 yn adnabyddus fel Eisteddfod y Gadair Ddu.
Daeth y Gadair yn gynrychiolaeth, nid yn unig o Hedd Wyn, ond o’r lleoedd gwag a adawyd mewn cartrefi ledled Cymru, a chenhedlaeth gyfan a gollwyd. Heddiw, mae’n dal i fod yn Yr Ysgwrn, tra bod llawysgrif Hedd Wyn yn cael ei chadw yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru.
Mae’r stori’n parhau
Hedd Wyn: Mae Eisteddfod Atomig yn cario ei stori i Drawsfynydd yn 2117, lle mae trychineb yn bygwth cymuned, atgofion a’r iaith Gymraeg.
Yn cynnwys cerddoriaeth gan Stephen McNeff a libretto gan Gruff Rhys, mae’r ffantasi seicadelig Cymraeg hwn yn gyd-gynhyrchiad rhwng Opera Cenedlaethol Cymru a Theatr Cymru.
Hedd Wyn: Mae Eisteddfod Atomig yn dod i Ganolfan Mileniwm Cymru, Caerdydd, o 18-22 Mai 2027.