Newyddion

Sut i ddewis opera

9 Ionawr 2025

Os oes gennych ddiddordeb mewn gweld opera ond erioed wedi bod o’r blaen, gall fod yn anodd gwybod ble i ddechrau. Mae pob opera yn wahanol, yn union fel ffilm, teledu a llenyddiaeth. Maent yn amrywio mewn arddull gerddorol, iaith, gwisgoedd, hyd ac maent yn perthyn i amrywiaeth o genres gwahanol. Pe baech yn hoffi ffilmiau llwyddiannus Hollywood, dramâu rhamant neu ffefrynnau teuluol, mae gennym rywbeth y Tymor hwn sydd yn siŵr o blesio.


I’r rhai sy’n hoffi: Drama drosedd llawn cynnwrf

Os ydych yn mwynhau dramâu trosedd llawn cynnwrf fel Broadchurch, Happy Valley, Luther a Line of Duty, byddwch wrth eich bodd gyda Peter Grimes. Mae’r opera hon yn adrodd stori pysgotwr sy’n cael ei gynhyrfu gan sïon ac amheuaeth yn gysylltiedig â marwolaethau llawn dirgelwch ei brentisiaid. Wedi ei lleoli mewn pentref pysgota bychan yn Suffolk, byddwch wrth eich bodd â’r dirgelwch a’r ddrama, yn ogystal â’r cymeriadau cymhleth a’r gerddoriaeth gyfoethog.


I’r rhai sy’n hoffi: Ffilmiau llwyddiannus Hollywood

Os ydych yn mwynhau ffilmiau mawr llwyddiannus fel Pretty Woman, The Shawshank Redemption ac Apocalypse Now, yna gall ein cyngerdd Opera Favourites at the Movies fod yn berffaith i chi. Gall cynulleidfaoedd edrych ymlaen at gerddoriaeth o ffilmiau mawr llwyddiannus, ac mae ffurf y cyngerdd yma yn ffordd wych i ymgyfarwyddo â cherddoriaeth opera cyn gweld cynhyrchiad llawn. 


I’r rhai sy’n hoffi: Dramâu Cyfnod

Os ydych yn hoffi Bridgerton, Pride and Prejudice, Downton Abbey neuThe Crown, yna The Marriage of Figaro yw’r opera berffaith i chi ddechrau arni. Mae ein cynhyrchiad yn cynnwys holl elfennau drama gyfnod ramantus wych, gwisgoedd cyfnod godidog, swyn a hiwmor, ac fel un o’r operâu mwyaf adnabyddus, dyma ddewis da i ddechrau arni. 


I’r rhai sy’n hoffi: Rhamant

Os ydych yn mwynhau rhamantau epig fel The Notebook, Gone with the Wind neu Titanic, yna mae’n debyg y byddai cyngerdd y Fonesig Sarah Connolly a Tomáš Hanus gyda Cherddorfa WNO yn berffaith i chi. Mae’r digwyddiad hwn yn llawn cerddoriaeth o‘r cyfnod Rhamantaidd, a fydd yn ennyn yr holl emosiwn ac angerdd yr ydych yn ei garu yn eich hoff ffilmiau llwyddiannus, a dylai deimlo yr un mor ddramatig. Mae’r gerddoriaeth yn adrodd stori nwydus, wedi ei hysbrydoli gan lythyrau caru, tor-calon a cholled cariad gan y cyfansoddwyr Schubert, Mahler a Sibelius.

I’r rhai sy’n hoffi: Ffefrynnau Teuluol

Os ydych yn mwynhau gwylio ffilmiau cerddorol gyda’r teulu cyfan fel Wonka, Frozen a The Greatest Showman, yna bydd Chwarae Opera YN FYW yn berffaith i chi a’r rhai bach. Mae’r perfformiadau hamddenol hyn yn cynnwys cerddoriaeth adnabyddus, ac rydych yn cael eich annog i ganu, chwerthin a dawnsio wrth i’r cyflwynydd eich cyflwyno i Gerddorfa WNO, ei cherddorion, adrannau ac offerynnau.


Pa ddigwyddiad bynnag a ddewiswch, mae mynychu eich opera gyntaf neu berfformiad cerddorol clasurol yn achlysur arbennig, ac yn haws efallai i’w mynychu nag y byddech yn ei feddwl. Mae cynyrchiadau WNO yn cychwyn o £13, ac nid oes raid gwisgo’n ffurfiol. Byddwch yn gwybod yn union beth sy’n mynd ymlaen gyda’n huwchdeitlau defnyddiol, hyd yn oed os nad ydynt yn canu yn Saesneg, ac mae croeso i bawb, boed eich tro cyntaf neu’ch 50fed. Gobeithiwn eich gweld yn fuan a hyderwn y byddwch yn mwynhau pa berfformiad bynnag a ddewiswch.