Y Fonesig Sarah Connolly a Tomáš Hanus gyda Cherddorfa’r WNO
,Trosolwg
Schubert Symffoni Rhif 8 'Anorffenedig'
Mahler Lieder Eines Fahrenden gesellen
Mahler Adagietto o Symffoni Rhif 5
Sibelius Symffoni Rhif 7
Bydd y Mezzo-Soprano addurnedig, y Fonesig Sarah Connolly, yn ymuno â Chyfarwyddwr Cerdd WNO, Tomáš Hanus a Cherddorfa WNO, ar gyfer cyngerdd bythgofiadwy o adrodd straeon cerddoriaeth.
Bydd y cyngerdd yn cynnwys gweithiau teimladwy ac agos-atoch Schubert, Mahler a Sibelius. Wedi’i chyfansoddi ym 1822, mae Symffoni Rhif 8 Schubert ‘Anorffenedig’ yn ymestyn ffiniau’r arddull Glasurol, gan eistedd ar y cyrion rhwng y cyfnod Clasurol a Rhamantaidd. Ysbrydolwyd Lieder Eines Fahrenden gesellen (Caneuon Fforddolyn) Mahler gan ei dorcalon ei hun, gan ddisgrifio cariad a gollwyd a gyda newid byd yn dilyn hynny, dywedir bod y trydydd darn, hefyd gan Mahler, Adagietto o Symffoni Rhif 5, yn llythyr caru at Alma Schindler, ei ddarpar wraig.
Bydd y cyngerdd yn gorffen gyda Symffoni Rhif 7 gan Sibelius. Yng ngeiriau Sibelius ei hun mae’r darn yn un llawn‘llawenydd bywyd a bywiogrwydd’ er iddo gael ei ysgrifennu mewn ymateb i oes o argyfwng – yn enwedig y Rhyfel Byd Cyntaf.
Rydym yn falch iawn bod y Fonesig Sarah yn dychwelyd i Gaerdydd yn y gwanwyn pan fydd yn chwarae rhan Modryb yng nghynhyrchiad newydd WNO o Peter Grimes gan Britten.
Defnyddiol i wybod
Tua un awr a 45 munud, gan gynnwys un egwyl