Yn Opera Cenedlaethol Cymru, rydym yn gwirioni ar straeon serch. Diwrnod Sant Ffolant eleni, rydym yn dathlu un o’r cyfansoddwyr gorau erioed – sef Mozart – sydd wedi rhoi i ni ddigonedd o straeon rhamantus a thrachwantus i’w rhannu ar ein llwyfannau.
Crëwyd The Marriage of Figaro, Don Giovanni a Così fan tutte ar gyfer Opera’r Llys yn Fienna rhwng 1786 a 1790. Fe’u cyfansoddwyd gan Mozart ar sail libretos gan Lorenzo Da Ponte. Mae’r tair mewn Eidaleg – dyna’r iaith yr ystyrid ei bod yn fwyaf addas i operâu’r cyfnod a hefyd i’r genre opera buffa (opera gomig). Er gwaethaf naws ysgafn a doniol y genre, mae’r operâu hyn yn mynegi dymuniad am ryddid ac maent yn ymdrin â themâu a oedd yn eithaf beiddgar yn y cyfnod – sef gwleidyddiaeth yn The Marriage of Figaro, crefydd yn Don Giovanni a marwolaeth yn Così fan tutte. Mae’r pynciau cyffredin eraill welir yn y tair yn cynnwys chwilio am gariad (neu bleser rhywiol yn achos Don Giovanni), cuddwisgo a chamadnabod, dynion yn aflonyddu ar fenywod a gwrthdaro rhwng meistr a gwas.
Mae’r opera gyntaf yn nhrioleg Mozart-Da Ponte, sef The Marriage Of Figaro, yn llawn cynllwynion, camadnabod, cariad a ffyddlondeb. Mae Figaro a Susanna yn bwriadu priodi, ond mae’r Iarll Almaviva eisiau hawlio’r ddarpar briodferch iddo’i hun. A ddaw gwraig yr iarll i wybod am ei gynllwyn? A fydd modd i Figaro ddal gafael ar Susanna? A phwy sydd wedi cipio calon Cherubino y gwas? Caiff y pethau hyn eu datgelu i gyd pan fydd ein cynhyrchiad cyfnod o The Marriage of Figaro yn dychwelyd y Gwanwyn nesaf.
O geisio canfod y gwirionedd am gariad i fyw’n unswydd er mwyn mwynhau trachwant, Don Giovanni yw prif ferchetwr y byd opera. Wrth deithio trwy Ewrop, mae’n cymryd popeth y dymuna ei gymryd heb feddwl ddwywaith am y menywod a gaiff eu gadael ar ôl. Ond pan gaiff un o’i gariadon ei lladd, mae’n ffoi ac mae cyn-gariadon anfodlon, dyweddïon a grym y tu hwnt i’r bedd yn ei erlid. Ac yntau’n synied am gariad fel rhywbeth dibwys ac yn gwrthod edifarhau am y bobl a gafodd ei brifo ganddo, yn y pen draw mae arferion mercheta Don Giovanni yn arwain at ei dranc yn y stori rybuddiol hon.
Mae Così fan tutte yn cymryd golwg sinigaidd ar gariad. Yn wir, cyfieithiad bras o’r teitl – sef dyfyniad o’r opera gynharach The Marriage of Figaro – yw Fel yna mae pob menyw. Mae’r opera yn adrodd hanes dwy fenyw sydd, yn ddiarwybod iddynt, yn rhan o fet pan mae’r Don Alfonso sinigaidd yn betio’r dynion y byddai llygaid eu darpar wragedd yn crwydro pe baent yn cael hanner cyfle. Mae’r dynion yn cymryd arnynt eu bod yn mynd i ryfela, ond maent yn dychwelyd wedi’u gwisgo fel Albaniaid ac yn ceisio llygad-dynnu cariadon y naill a’r llall. Mae’r opera hon yn cynnwys sawl tro annisgwyl a digonedd o chwerthin. A fydd y menywod yn ffyddlon ynteu a yw Don Alfonso yn llygad ei le trwy fod mor ddiystyriol o wir gariad?
Yr hyn sy’n wirioneddol wych ynglŷn ag operâu Mozart-Da Ponte yw’r ffaith eu bod yn dangos i ni pwy ydym mewn gwirionedd; rydym yn greulon ac yn gariadus ar yr un pryd, ac mae’r cymeriadau’n adlewyrchu ein gwendidau ni fel bodau dynol, ynghyd â’n dymuniadau a’r heriau a wynebwn. Gan y bydd stori ‘dyfod i oed’ Così fan tutte yn agor y mis hwn fel rhan o Dymor y Gwanwyn 2024, a chan ein bod newydd gyhoeddi y bydd The Marriage of Figaro a’i holl helyntion yn rhan o Dymor 2024/2025, allwn ni ddim disgwyl i chi syrthio mewn cariad â Mozart.