Newyddion

‘Mae o y tu ôl i ti!’ Sinderela’n dychwelyd i WNO yr hydref hwn

25 Mehefin 2018

‘Ydy hi’n amser panto bellach?’ efallai y gofynnwch…

Yr hydref hwn rydym yn dod â’n cynhyrchiad anhygoel o liwgar o La Cenerentola– sy’n fwy adnabyddus fel Sinderela – gan Rossini yn ôl. Dyma’r tro cyntaf iddo ddychwelyd ers y sioe gyntaf yma yn Hydref 2007 ac ni allwn aros. Fel y dywedodd y Cyfarwyddwr, Joan Font, yn rhifyn Opera Live 07/08 WNO, ‘Rydym ni gyd yn breuddwydio am gael dianc rhag tlodi a thrallod, ac am fyw ein bywyd i’r eithaf yn hapus’, ac nid oes enghraifft fwy clasurol o chwedl o’r fath na Sinderela.

Er mai fersiwn o’r stori adnabyddus yw hon, peidiwch â disgwyl gweld dewines garedig nac unrhyw ddigwyddiadau gwyrthiol – bu’n rhaid i Rossini a’i libretydd, Ferretti, ysgrifennu fersiwn a fyddai’n cytuno gyda chanllawiau caeth llywodraeth Babaidd Rhufain, a oedd yn gwgu ar y goruwchnaturiol. Ni dderbynnid y droed noeth ychwaith – rhag i hynny sbarduno chwant – felly yn y fersiwn hon, ceir breichled yn lle sliper wydr.

Felly, yn hytrach na hud, disgwyliwch gyfnewidiadau rôl a chuddwisgoedd, agweddau hyllion a chymeriadau oriog yn ymbincio; ynghyd â ffyliaid yn gwneud ffyliaid ohonynt eu hunain a charedigrwydd a haelioni yn cael eu gwobrwyo. (Is-deitl yr opera yw La bontà in trionfo, h.y. Buddugoliaeth i Ddaioni.) Cerddoriaeth Rossini sy’n gyrru’r chwedl yn ei blaen trwy’i holl droellau a’i throeon hyd at y diweddglo hapus anochel.

Wedi’i hysgrifennu fel opera buffa, sef opera gomedi Eidalaidd draddodiadol, llys-dad Sinderela yw buffo’r darn (sef y clown). Cenerentola yw’r Eidaleg am Sinderela, ond enw ei chymeriad yn yr opera yw Angelina ac mewn amrywiad arall ar y chwedl, y rhiant cas yn y fersiwn hon yw ei llys dad, Don Magnifico – y clown y soniwyd amdano yn gynharach. Mae ei chwiorydd hyll, Clorinda a Tisbe, yn hyll o ran eu cymeriadau yn hytrach na’u hymddangosiad, a dyma yw eu gwendid. Nid oes dewines garedig – yn hytrach mae tiwtor y Tywysog, Alidoro a’r gwas, Dandini, yn cyfrannu at ‘drwsio’ pethau i’r eneth dda a’i thywysog, ond mae’r rhan fwyaf ohono yn ganlyniad i waith Angelina ei hun.

Don Ramiro yw’r tywysog, ac yn La Cenerentola treulia rhan dda o’r opera wedi gwisgo fel ei was Dandidni, wrth i Dandini chwarae rôl y tywysog – dull sy’n ddefnyddiol i amlygu cymeriadau hyll y chwiorydd a greddf garedig Angelina.

‘Mae Sinderela yn berwi o sefyllfaoedd llawn doniolwch – tad meddwol, chwiorydd maleisus, siop gyfnewid amryliw llawn dillad benthyg.’ David Jays (‘A Gorgeous Journey – the world of Rossini’, o Opera Live 07/08)

Un peth mae’r cynhyrchiad hwn yn ei roi i chi yw llygod – a rhai sy’n dawnsio! Mae eu presenoldeb yn mynd law yn llaw â’r set a’r gwisgoedd crand i’ch atgoffa o’r naratif Sinderela fwy adnabyddus; dyfais chwareus yn yr addasiad hwn sydd fel arall yn canolbwyntio fwy ar bortread o ferched yn chwarae rhan yn eu tynged eu hunain.

Beth bynnag yw eich barn ynghylch y momentwm y tu ôl i’r syniad, ni allwch wadu apêl stori garu ac mae Tymor yr Hydref yn cynnwys tri chlasur: La traviata a War and Peace*, yn ogystal â Sinderela gan Rossini, La Cenerentola.

 *ac eithrio Bryste a Lerpwl. 


Er holl wallgofrwydd, anhrefn a dryswch y cymeriadau eraill, yr hyn sy’n bwysig yw mai chwedl ynghylch dau berson, Ramiro a Cenerentola, yn syrthio mewn cariad yw hon.

Joan Font (o raglen 2007)