Newyddion

'Nid wyf erioed wedi gweld opera o'r blaen!' Sut i newid hynny...

29 Tachwedd 2019

Gan barhau ag erthygl flaenorol, rydym wedi meddwl am syniadau newydd i'ch denu chi i ganfod brenin unigryw a diamheuol y celfyddydau, sef...opera.


Yr anrheg berffaith i Dad

Mae prynu anrheg i ddynion, mae'n ddrwg gennym ddweud, yn gallu bod yn ddrwg-enwog o anodd, dim ond hyn a hyn o sannau, teis a diaroglyddion Lynx all rhywun eu dioddef. The Marriage of Figaro gan Mozart yw'r opera ddelfrydol i'w chyflwyno i'r ffigur tadol hwnnw yn eich bywyd. Gan roi jôcs tadau i un ochr, mae'r ddrama gomig hon yn llwybr ysgafn i fyd Mozart, meddyliwch am gyfuniad o Father of the Bride ac ‘Allo ‘Allo!.

Mae'r opera yn adrodd un 'diwrnod o wallgofrwydd', gydag ychydig o groeswisgo a llond llaw o ddireidi yn y pair; mae'n noson o ffolineb na allwch ei methu. Mae dichell a thwyll yn teyrnasu gyda gwŷr priod yn cael eu pechu a llawer o ymbil am faddeuant; heb eisiau gorfodi ystrydebau, ond gallai fod yn gathartig chwerthin at ddrychddelwedd o ddedwyddyd priodasol (neu ddim fel mae'n digwydd). Er nad yw'n ei gwneud hi yn rhan o'r opera, ni fydd yn eich rhwystro rhag difyrru eich tad a rhoi gwybod iddo fod gan yr athrylith Mozart (a oedd yn dad ei hun) gariad at hiwmor sgatolegol (hiwmor toiled); yn wir arwyddodd lythyr haerllug at ei gefnder gan ddweud, ‘Love true true true until the grave, If I live that long and do behave.’ Yn anffodus, ni wnaeth hynny - bu iddo farw'n ifanc yn 35 oed.

Ymunwch â ni am noswaith o fflyrtian ac ysgafnder.


Yr anrheg berffaith i'r ferch arbennig yn eich bywyd

Er ein bod ni'n wynebu dyfnderoedd y gaeaf, rhowch flas ar heulwen clós i'ch hoff ffeminist a'i hanfon i Dde America llaith. Bydd y Carmen ecsotig a gwyllt yn diniweidio'r ymladdwr teirw fwyaf ffiaidd fel y rhybuddiai ei hun yn ei aria ddrwgenwog: ‘and if I love you - watch out!’ A hithau'n synhwyrus ond didostur, bydd ein harwres yn eich atgoffa chi o ba mor ddrwgenwog o galongaled ydyw, yn gwarchod ei hannibyniaeth yn ffiaidd tan y diwedd chwerw. Dynion, merched, pobl o bob math, mae cerddoriaeth yn anrheg a all blesio pawb.

Byddwch yn gwirioni gyda hi eto; er eich bod wedi'ch rhybuddio.


Perffaith ar gyfer felan y gaeaf

Gall mis Chwefror fod yn anodd, mae'r tywydd yn llwm, mae'r Nadolig wedi hen fynd ac mae gobaith tymor y Gwanwyn ymhell i ffwrdd. Er y byddai eraill yn eich annog chi i lawenhau, beth am orfoddelu yn eich tymer oeraidd a chofleidio Les vêpres siciliennes gan Verdi.

Meddyliwch am gyfuniad o olygfa'r briodas erchyll yn Kill Bill: Vol 1 a gwrthryfel gwaedlyd Les Misérables, yn llawn trais, cyfrinachau tywyll a chariad gwaharddedig; beth mwy yr ydych chi ei eisiau? Mae dial wrth wraidd y plot hwn wrth i'n harwres Hélène geisio cosbi pwy bynnag a laddodd ei brawd. Mae opera yn adnabyddus am ei digwyddiadau dramatig, felly os ydych chi am neidio i'r gwyll, ac heb weld opera o'r blaen, waeth i chi neidio i'r dyfnderoedd.

Os nad yw eich Diwrnod San Ffolant yn mynd fel yr oeddech wedi'i fwriadu, mae perfformiad ar y 15 Chwe i chi gael ymdrybaeddu yn ei ganol, wedi'r cyfan, mae trallod yn hoff o gwmni. Er, (sbwyliwr plot) mae'n bosibl y bydd yn rhoi gobeithion i'ch golygon er gwaethaf hyn, gan, o leiaf nad ydych wedi cael eich llofruddio ar ddiwrnod eich priodas. Bydd cynhyrchiad newydd WNO yn tynnu'r gwynt o'ch ysgyfaint - mewn ffordd dda.

Yn y pen draw, mae trasiedi ar gyfer catharsis; felly cofleidiwch hi gyda'ch holl galon (neu gyda chalon doredig) a mwynhewch.