Wedi'i eni yn Hukvaldy, yn y Weriniaeth Tsiec yn 1853; Leoš Janáček oedd yr athrylith cerddorol annisgwyl a wnaeth gryn argraff ar sin gerddoriaeth yr 20fed ganrif.
Yn gyfrifol am rai o ddarnau cerddoriaeth mwyaf mynegiannol y ganrif, mae Janáček yn parhau i gael dylanwad ar y sin gerddoriaeth ryngwladol. Beth yw'r gyfrinach y tu ôl i'w lwyddiant? Fel nifer o gyfansoddwyr llwyddiannus eraill, roedd Janáček yn ddyn mewn cariad. Roedd wrth ei fodd â byd natur ac anifeiliaid, roedd wrth ei fodd â Rwsia a'i diwylliant, ac yn fwy na dim; roedd wrth ei fodd â cherddoriaeth werin Morafia. Arweiniodd diddordeb a hoffter gydol oes Janáček o ddiwylliannau a chyfansoddwyr eraill Ewrop (megis Puccini a Dvořák) ato'n creu ei arddull cerddorol cyfoes ei hun - arddull sydd wedi'i wneud yn un o gyfansoddwyr enwocaf y Weriniaeth Tsiec o'r 20fed ganrif, ond sut ddechreuodd y cyfan?
Yn 11 oed, ymunodd â Mynachlog Awstinaidd Brno fel bachgen côr cyn derbyn ei addysg yn y Prague Organ School ac yn y Vienna Conservatory a'r Leipzig Conservatory. Yn 1881 sefydlodd goleg o organyddion, y bu'n gyfarwyddwr arno tan 1920, ac arweiniodd gymdeithasau corawl, yr ysgrifennodd ei gyfansoddiadau cyntaf ar eu cyfer.
Yn y 10 mlynedd cyn ei farwolaeth yn 1928, yn anterth ei gariad annychweledig tuag at Kamila Urválková - cyfnod emosiynol a arweiniodd at dros 650 o lythyrau serch - ysgrifennodd un campwaith ar ôl y llall, gweithiau a fyddai yn ei wneud yn enwog yn ei oes ei hun ac yn cyfareddu selogion cerddoriaeth, 90 mlynedd yn ddiweddarach. Katya Kabanova, The Cunning Little Vixen, From the House of the Dead, y Glagolithic Mass, y Sinfonietta, y ddau bedwarawd llinynnol - roedd pob un o'r gweithiau hyn yn gwthio i diriogaeth gerddorol newydd.
Operâu mwyaf nodedig Janáček
Jenůfa (1904)
Stori onest am anrhydedd, cariad ac aberth, mae Jenůfa yn archwilio'r stigma sy'n gysylltiedig â beichiogrwydd y tu allan i briodas yn erbyn cefndir o gymuned glawstroffobig, fechan.
Katya Kabanova (1921)
Wedi'i hysbrydoli gan ddrama Alexander Ostrovsky, The Thunderstorm, mae Katya Kabanova yn drasiedi wyllt am gariad gwaharddedig a hunan-ddinistr.
The Cunning Little Vixen (1924)
Yn stori serch wych, mae The Cunning Little Vixen yn dilyn hynt a helynt creadures chwareus wrth iddi wynebu'r byd ar ei thelerau ei hun. Yn seiliedig ar themâu obsesiwn, ecsploetiaeth ac wrth gwrs, cariad, mae'r stori hon yn dathlu cylch bywyd.
The Makropulos Case (1926)
Mae trechu marwolaeth ac ennill anfarwoldeb yn freuddwyd sydd mor hen â hanes dyn. Er ei bod yn meddu ar fformiwla ar gyfer bywyd tragwyddol, mae'r fenyw luddedig, 337 mlwydd oed, yn canfod ei dyngarwch mewn marwolaeth. Mae opera olaf ond un Janáček, The Makropulos Case, yn seiliedig ar ddrama Karel Čapek am Elina Makropulos, a dderbyniodd ddiod hud i warchod ei hieuenctid pan oedd hi'n un ar bymtheg oed.
From the House of the Dead (1930)
Clytwaith gafaelgar o straeon sy'n dilyn carcharorion gwahanol wrth iddynt ddwyn i gof sut y gwnaethant gyrraedd carchar clawstroffobig yn Siberia yw From the House of the Dead.
Er y câi'r operâu hyn eu hystyried yn ecsentrig a hyd yn oed yn amaturaidd gan lawer ar y pryd, yn raddol gwnaethant ennill statws repertoire yn ail hanner yr 20fed ganrif, gan goroni Janáček, yn hwyr yn y dydd, yn un o gyfansoddwyr gorau'r can mlynedd ddiwethaf.