
Yn oes negeseuon testun, Instagram ac ebost, mae'r hen lythyr yn ymddangos fel rhywbeth o'r oes a fu, ond ym myd opera, mae'r ffurf yn fyw ac yn iach. Er y byddech yn disgwyl i'r rhan fwyaf o lythyrau fod yn llawn negeseuon serch, mewn opera, maent yn aml yn cael eu defnyddio i ddatgelu cyfrinach, anfon rhybudd neu lunio cynllun. Dyma bump o'n hoff enghreifftiau.

The Marriage of Figaro
Mae'r Iarll cellweirus angen ei haeddiant a phwy well i'w roi iddo nag ei wraig, Rosina. Ar y cyd â'i morwyn, Susanna, maent yn llunio llythyr serch ac ynghlwm wrtho, mae pin. Mae'r aria llythyr enwog, Sull’aria, yn nodweddu un o'r golygfeydd mwyaf annwyl a phleserus yn The Marriage of Figaro. Yn ystod y seremoni briodas, mae Susanna yn pasio'r llythyr i'r Iarll. Mae'n credu bod Susanna yn trefnu cyfarfod ag ef, ond ychydig iawn a wyddai fod y gwahoddiad yn rhan o gynllwyn i ddatgelu ei anffyddlondeb.

Eugene Onegin
Yr olygfa llythyr mwyaf enwog o bob opera, a'r canolbwynt yng nghampwaith Tchaikovsky. Pan mae Tatyana, sy'n hoff iawn o lenyddiaeth yn disgyn dros ei phen a'i chlustiau mewn cariad ag Eugene Onegin, mae'n treulio'r noson gyfan yn ysgrifennu ei theimladau ar bapur. Nid yw ei theimladau yn cael eu cyfleu'n ôl iddi tan Act III, pan mae'r byrddau wedi troi ac mae Onegin wedi disgyn mewn cariad â hi, ond mae hi bellach yn briod. I gyfeiliant ei cherddoriaeth yn Act I, yr Aria, Puskai pogybnu ja - mae'n datgan ei fwriad i ysgrifennu at Tatyana a dweud wrthi am ei deimladau.

Les vêpres siciliennes
Yn ystod dawns, mae'r Llywodraethwr Ffrengig, Guy de Montfort yn derbyn llythyr wedi'i atafaelu. Mae cynnwys y llythyr yn ei atgoffa i ddwyn i gof ei berthynas â merch ifanc, Sisilaidd, 18 mlynedd yn ôl a'r mab y cawsant gyda'i gilydd. Gyda'i ymddygiad pan oedd yn iau yn ei boenydio, mae'n canu'r emosiynol, Au sein de la puissance, ac yn ystod y aria hon yn ein cynhyrchiad newydd, mae'r gorffennol yn dod yn fyw o'i flaen drwy gyfrwng dawns. Yn dyheu am berthynas gyda'i fab newydd ei ganfod, mae Montfort yn dangos y llythyr, a ysgrifennwyd gan fam Henri, i Henri ac yn ceisio cymodi.
Falstaff
Mae llythyrau yn tasgu o amgylch y llwyfan o'r dechrau i'r diwedd yng nghomedi ddisglair Verdi. Mewn angen dybryd am arian, mae'r nwydwyllt Syr John Falstaff, yn anfon dau lythyr union yr un fath at wragedd cyfoethog Windsor, Alice Ford a Meg Page. Mae Alice a Meg yn sylwi ar gastiau Syr John ac yn penderfynu addysgu gwers iddo. Mae llythyrau, sy'n cael eu danfon i Falstaff gan eu cyfaill Mistress Quickly, yn chwarae rhan allweddol yn eu cynlluniau, yn enwedig sarhad olaf Falstaff, yng Nghoedwig Windsor.

Carmen
Mae'r llythyr ynCarmen, opera gyfareddol Bizet yn un am gariad a phle mam. Wedi cael y dasg o ddod o hyd i Don José, mae Micaëla yn ei ganfod ac yn cyflwyno llythyr a chusan diwair gan ei fam iddo, sy'n gofyn i'w mab briodi Micaëla. Mae Don José yn addo ei gariad a'i ffyddlondeb i Micaëla. Mae cwffas yn dechrau yn y ffatri sigarennau ac mae'r swyddog Zuniga, yn rhoi'r gorchymyn i Don José fynd â Carmen i'r carchar, ond mae'n plygu i'w swyn. Mae'n cytuno i'w chyfarfod ac yn gadael i Carmen ddianc.