O fewn chwinciad chwannen, mae hi’n 2019. Nawr bod y twrci wedi gorffen, nid oes mwy o ffilmiau Nadolig ar y teledu ac mae’r bocs siocled anferth yn wag (heblaw’r rhai cnau coco), mae hi’n amser gwneud yr addunedau Blwyddyn Newydd hollbwysig hynny. Peidiwch â gwneud adduned i ymweld â’r gampfa’n amlach; gwnewch adduned i brofi rhywbeth newydd – opera. Dyma pam ein bod ni’n credu y dylech ystyried opera fel eich adduned Blwyddyn Newydd ar gyfer 2019.
Beth yn union yw opera?
Cyfrwng i adrodd stori sy’n unigryw o bwerus a chyfareddol yw opera, a phrofiad amlgyfrwng cyntaf y byd. Mae’n cyfuno’r gweledol a’r clywedol ac mae ei straeon a themâu yn gwneud mwy na’ch difyrru. Mae’n chwarae â’ch meddwl, gan wneud i chi ofyn cwestiynau amdanoch eich hun ac yn herio eich rhagdybiaethau. Drwy gyfuno cerddoriaeth a theatr, gallwn uniaethu â chymeriadau – pan maent yn teimlo cariad, gofid, unigrwydd, ofn, gobaith a chenfigen - yna oedi ac ystyried yr enydau hyn yn fanylach drwy gerddoriaeth a symudiadau, gan ddod o hyd i iaith ar gyfer mynegi’r emosiynau sy’n gallu bod yn anodd siarad amdanynt, er eu bod yn diffinio ein bywydau. Gall opera wneud i ni weld, teimlo a chlywed y byd yn wahanol a’n hatgoffa am gadw cysylltiad â’r pethau sydd o dan y wyneb, y pethau sy’n bwysig.
Pam y dylech fynychu opera?
Gyda 2019 yn flwyddyn ar gyfer creadigrwydd ac ysbrydoliaeth, hunanfynegiant, perthnasoedd a chynwysoldeb, mae hi’n flwyddyn berffaith ar gyfer profi opera am y tro cyntaf. Efallai nad ydych chi’n ymwybodol bod nifer o’ch hoff ffilmiau, llyfrau a dramâu yn seiliedig ar opera neu yn opera. Os taw theatr gerdd sy’n mynd â’ch bryd, yna mae’r sioe gerdd Miss Saigon wedi cael ei hysbrydoli gan yr opera Madam Butterfly . Hoff o Disney? Mae’r opera Rusalka yn seiliedig ar yr un stori Hans Christian Anderson â The Little Mermaid. Wrth eich bodd yn trafod hanes? Mae’r opera Un ballo in maschera yn seiliedig ar stori wir llofruddiaeth y Brenin Gustav III o Sweden. Yn mwynhau llenyddiaeth? Mae nifer o glasuron llenyddol wedi cael eu haddasu yn operâu, megis War and Peace, a ffurfiodd ran o dymor Hydref 2018 WNO. Bydd gweld y ffynhonnell wreiddiol yn gwneud i chi deimlo’n gynnes, braf, ac yn ddoethach na phawb arall, a gallwch ddysgu rhywbeth newydd a rhoi cynnig ar ddiddordeb newydd ar yr un pryd.
Hyd yn oed os ydych chi’n ymweld â’r opera ar eich pen eich hun, mae’n ddigwyddiad cymdeithasol. Mae’n gyfle perffaith i gyfarfod â phobl newydd. Mae dau ddieithryn sy’n eistedd ar bwys ei gilydd, i wylio sioe drawiadol, yn sicr o brofi’r un wefr. Mae gennych chi a’ch cymydog yn y sedd nesaf ddigon i sbarduno sgwrs – ond nid yn ystod y perfformiad (wrth gwrs).
Mae rhaglennu bywiog WNO yn golygu y gallwch dreulio mwy o amser gyda’r teulu ac arbed arian. Mae WNO yn cynnig tocynnau am £5 i’r rhai hynny o dan 16 oed pan fyddant yn dod gydag oedolyn sydd wedi talu’r pris llawn (ddim ar gael ar-lein) a £10 i bobl rhwng 16 a 29. Os ydych chi’n mynychu operâu yn aml, gallwch fanteisio ar ein pecyn tanysgrifio. Wrth archebu mwy nag un opera yn eich lleoliad dewisol gallwch arbed hyd at 25%.
Mae hefyd yn rhoi’r cyfle i chi weld mwy o’r byd o’ch sedd gynnes yn y theatr. Yn ystod tymor Hydref 2018 WNO, aethom â chynulleidfaoedd i Baris a Rwsia y 19eg ganrif. Fodd bynnag, os hoffech deithio i weld opera, mae WNO yn teithio’n rheolaidd i Gaerdydd, Birmingham, Milton Keynes, Plymouth, Bryste, Llandudno, Lerpwl, Rhydychen a Southampton.
Beth i’w weld yn 2019?
Efallai bod opera yn ffurf ar gelfyddyd sy’n ganrifoedd oed, ond rydym yn credu na fu yna erioed amser gwell i fwynhau opera. Mae gennym rywbeth i bawb yn ystod ein Tymor Gwanwyn 2019: mae cariad, grym a gwleidyddiaeth yn gwrthdaro mewn cynhyrchiad newydd gan David Pountney o Un ballo in maschera, opera hudolus The Magic Fluteac adfywiad cyntaf ein cynhyrchiad clodwiw o Roberto Devereux.
Os ydych chi am roi cynnig ar opera am y tro cyntaf, rydym yn argymell The Magic Flute. Mae ein cynhyrchiad hudolous yn mynd a chi i fyd o freuddwydion ble byddwch yn cwrdd â chymeriadau lliwgar, gan gynnwys llew sy’n darllen papur newydd, a physgodyn sydd hefyd yn feic. At hyn oll, ychwanegwch stori ffraeth a cherddoriaeth ogoneddus Mozart, gan gynnwys aria ysblennydd Brenhines y Nos, ac fe gewch profiad opera bythgofiadwy i bawb, o bob oed.
Boed i chi gael 2019 hapus, iach a llawn nodau uchel.