Newyddion

Gwnewch WNO eich adduned Blwyddyn Newydd

6 Ionawr 2023

Prin ein bod ni wythnos i mewn i 2023 ac mae addunedau blwyddyn newydd am ddeiet, y gampfa a defnyddio llai ar y car eisoes yn dod yn rhwystr ac ni allwch chi oddef wythnos arall o’r ‘blwyddyn newydd, fi newydd’ y gwnaethoch chi ei addo, heb sôn am flwyddyn gyfan. Rydym ni yma yn Opera Cenedlaethol Cymru gyda chi, felly rydym ni wedi penderfynu cynnig rhywfaint o syniadau eraill fydd yn eich cludo i fydoedd newydd, yn rhoi yn ôl i gymunedau ac yn eich gadael gydag atgofion fydd yn para’n hirach na’ch addunedau.

Mynd i gyngerdd glasurol

Mae gan WNO y ddihangfa berffaith i chi oddi wrth y felan ym mis Ionawr…trip i Fienna. Gadewch i Gerddorfa WNO eich cludo i brifddinas Awstria a mwynhau’r gorau o fiwsig Fiennaidd. Efo enwog Blue Danube gan Strauss II, y Radetzky March bywiog gan Strauss I, yr hiraethus Straussiana Polka gan Korngold, a mwy. Bydd hwn yn sicr yn gyngerdd i roi hwb i’ch blwyddyn newydd gerddorol.

Cyflwyno eich rhai bychain i opera

Os yw eich plant eisoes wedi diflasu ar eu teganau Nadolig newydd sbon, yna beth am ddod â nhw i Ganolfan y Mileniwm ddydd Sul 19 Chwefror am ddiwrnod yn llawn hwyl, deinosoriaid a gweithgareddau rhad ac am ddim fel helfa drysor a phaentio wynebau? Dewch i gyfarfod aelodau o Gerddorfa WNO, dysgu ffeithiau difyr wrth i chi ganu, dawnsio a chlapio i rai o’ch hoff ddarnau o gerddoriaeth o’r llwyfan a’r sgrin mewn lleoliad hamddenol yn ein digwyddiad Chwarae Opera YN FYW!

Gwylio cynhyrchiad newydd

Gallwch barhau â’ch addunedau opera drwy gludo eich hun i fyd o ddirgelwch, hud ac antur. The Magic Flutegan Mozart yw’r opera gyntaf berffaith, gyda set syfrdanol, cerddoriaeth hyfryd a stori ffraeth. Mae’r gyfarwyddwraig Daisy Evans (Cherry Town, Moscow a Don Pasquale) yn rhoi tro modern ar y ffefryn operatig hwn, gan ddod â’r stori a’r gerddoriaeth yn fwy fel na welwyd erioed o’r blaen.

Cefnogi opera newydd

Yn ystod Tymor y Gwanwyn 2023, bydd Opera Cenedlaethol Cymru yn cyflwyno Blaze of Glory!, comisiwn Newydd. Ochr yn ochr â rhaglen gynhwysfawr o waith yn y gymuned, gyda Chorau Meibion, Scouts Cymru ac mewn cartrefi gofal, mae Blaze of Glory!Wir yn dathlu Hen Wlad fy Nhadau.

Gallwch gefnogi ein gwaith a gwneud gwahaniaeth gwirioneddol mewn cymunedau, drwy roi i Blaze of Glory! a bydd hyn yn cael ei gyfateb drwy grant £25,000 gan Ymddiriedolaeth Elusennol Colwinston.

Creu, cyrraedd ac ysbrydoli

Os ydych chi’n edrych am adduned opera y gallwch chi ei gyflawni o gysur eich cartref eich hun, yna byddai ymuno â Chyfeillion WNO neu hyd yn oed rhoi rhodd un-tro wir yn gwneud gwahaniaeth i’r gwaith rydym ni’n ei wneud. Bydd eich rhodd yn ein helpu ni i ddod ag opera i’r llwyfan a mynd â cherddoriaeth i’n cymunedau, gyda rhaglenni fel Dysgu gyda WNO a and Chôr Cysur, grŵp canu hwyliog i bobl sy’n byw gyda dementia a’u hanwyliaid.

Beth bynnag fyddwch chi’n ei benderfynu ar gyfer eich addunedau, mae Opera Cenedlaethol Cymru yn dymuno 2023 hapus, iach a cherddorol iawn i chi.