Cefnogwch Blaze of Glory!
Yn ystod Tymor y Gwanwyn 2023, bydd Opera Cenedlaethol Cymru yn cyflwyno Blaze of Glory!, comisiwn newydd sy'n dathlu Gwlad y Gân, wedi'i osod mewn cymuned yng Nghymoedd de Cymru yn ystod y 1950au.
Mae'r cynhyrchiad hwn yn uno'r cyfansoddwr, David Hackbridge Johnson, gyda'r tîm creadigol tu ôl ein cynhyrchiad llwyddiannus o Rhondda Rips it Up!, Emma Jenkins (libretydd) a Caroline Clegg (cyfarwyddwr), a'r cantorion Cymreig, Rebecca Evans, Jefferey Lloyd Roberts a chyn-Artist Cyswllt WNO, Adam Gilbert, gyda Chorws WNO yn hawlio'r llwyfan.
Bydd Blaze of Glory! yn cael ei berfformio ochr yn ochr â rhaglen gynhwysfawr o waith yn y gymuned, gyda Chorau Meibion, Scouts Cymru ac mewn cartrefi gofal.
David Hackbridge Johnson, Cyfansoddwr, Blaze of Glory!Mae ein stori’n dangos cymuned yn dod ynghyd i adnewyddu eu bywydau ysbrydol a diwylliannol. Mae'n ddarn sy'n dathlu profiad cyfunol – nid drwy athrawiaeth – ond drwy unigolion yn cydweithio i godi a chefnu ar amheuaeth ac anobaith. Yn ystod y cyfnod ansicr hwn, rwy'n credu bod Blaze of Glory yn cyfleu sawl ystyr.
Rydym yn hapus iawn bod Ymddiriedolaeth Elusennol Colwinston yn cefnogi cynyrchiadau newydd WNO dros y 3 blynedd nesaf. Bydd Colwinston yn rhoi arian cyfatebol i unrhyw roddion ar gyfer Blaze of Glory!gyda grant gwerth £25,000. Hyd yn hyn, rydym wedi codi £13.5k tuag at y targed hwn.
Er mwyn cefnogi WNO wrth i ni geisio cyrraedd y targed, cysylltwch â Sophie Hughes drwy anfon ebost at sophie.hughes@wno.org.uk neu ffoniwch 029 2063 5083