Ym mis Ionawr 2020, mae Cerddorfa WNO yn dechrau ar ei thaith cyngerdd Flwyddyn Newydd, flynyddol. Eleni, rydym yn eich tywys ar draws Ewrop ar Daith i Fienna, ac yn ymuno â'r Gerddorfa ar y llwyfan mae un o hoff brif ferched WNO, y soprano Mary Elizabeth Williams.
Bydd cynulleidfaoedd yn adnabod Mary Elizabeth o nifer o rannau opera diweddar, ond dyma'r tro cyntaf iddi fynd ar daith gyda'r Gerddorfa ac mae'n edrych ymlaen ato'n fawr. Yn wir, mae'n cyfaddef iddi 'wthio ei hun' ar y Gerddorfa, gan ei bod mor awyddus i deithio Cymru gyda repertoire mor fawr a hardd. Er ei bod wedi perfformio yng Nghaerdydd, Llandudno ac Abertawe yn y gorffennol, nid oedd y cynyrchiadau hynny yn gallu teithio i rai o'r theatrau y mae'r Gerddorfa yn perfformio ynddynt yn rheolaidd. Dywedodd Mary Elizabeth wrthym ei fod yn 'warthus nad yw wedi perfformio gyda'r Cwmni yn unrhyw le arall yng Nghymru dros y 7 - 8 mlynedd diwethaf. Hoffwn weld mwy o'r wlad a chanu mwy i'r Cymry.'
Mae'r Gerddorfa wedi arfer chwarae yn y pwll ar gyfer operâu raddfa fawr ac ar y llwyfan ar gyfer eu rhaglen reolaidd o gyngherddau. Dyma'r tro cyntaf i Mary Elizabeth weithio'n agos â nhw. Eglura fod y gwaith paratoi wedi bod yn anodd iawn - mewn opera mae'r cantorion yn cyrraedd ymarfer wedi paratoi eu rolau eu hunain ac yna'n gweithio gyda'u cydweithwyr, arweinydd a chyfarwyddwr i ddod â'r holl elfennau at ei gilydd, ond mewn cyngerdd, mae gan gantorion fwy o reolaeth a rhan yn y rhaglennu a'r cynllunio.
Ar gyfer y gyfres hon o gyngherddau yn benodol, mae Mary Elizabeth wedi gweithio'n agos a Blaenwr Cerddorfa WNO, David Adams, sydd hefyd yn gweithredu fel y Cyngerddfeistr, y mae hi'n ei ddisgrifio fel ‘blaenwr hyfryd a hael'. Wedi gweithio gyda'r Cwmni droeon, mae'n adnabod y Gerddorfa yn dda ac maent yn eu hadnabod hi, ac mae'r cyngerdd hwn yn amlygu cymaint o'r chwaraewyr hynod dalentog drwy'r amrywiaeth o gerddoriaeth a chwaraeir.
Gofynnom i Mary Elizabeth y cwestiwn amhosibl - a oes ganddi hoff ddarn yn y rhaglen? Cafodd drafferth i ddewis gan fod cymaint i ddewis o'u plith, roedd aria o Die Fledermaus, a berfformiodd gydag WNO yn ystod Haf 2017, yn un enghraifft. Fodd bynnag, roedd Vilja o The Merry Widow yn sefyll allan iddi, gan fod Hanna yn rôl nad yw wedi ei chwarae, er ei bod wedi perfformio'r aria o'r blaen mewn cyngerdd. 'Whenever I sing the piece I look out and see the smiles of recognition in the audience. I’m hoping that they’ll sing along with me.'
I grynhoi'r cyngerdd, mae Mary Elizabeth yn gobeithio y bydd yn bersonol, ac yn gyfle i groesawu'r Flwyddyn Newydd.
Mary Elizabeth WilliamsCome along, enjoy yourselves, and start the New Year right!
Ewch ar Daith i Fienna o 3 i 14 Ionawr.