Newyddion

Cymeriadau sy’n ceisio uno cyplau yn y byd Opera

27 Ebrill 2022

Pan mae’n dod at gariad, mae gan y byd opera’r cyfan – y diweddglo hapus, y tor calon heb anghofio’r holl ddadlau. Rydym ni yn Opera Cenedlaethol Cymru’n archwilio’r cymeriadau sy’n ceisio dod â chyplau ynghyd yn y ffordd orau ac o bosib y gwaethaf ym myd opera, o The Barber of Seville i Don Pasquale a heb anghofio Madam Butterfly,sy’n ffurfio rhan o’n Tymor y Gwanwyn 2022.

Yn ganolog i stori Madam Butterfly Puccini mae Goro, sy’n llwyddo i ennill cariad Butterfly, sy’n 15 mlwydd oed, i’r Is-gapten Pinkerton.

Mae Madam Butterfly, a adnabyddir fel stori bwerus am gariad digydnabod, ochr yn ochr â phoen a dioddefaint dynol, yn enghraifft gwych o ymgais i baru cyplau yn y byd opera. Mae’r plot yn dechrau wrth i’r Americanwr ifanc Pinkerton drefnu gyda Goro i gael Cio-Cio San (Butterfly) yn wraig 15 mlwydd oed iddo, fodd bynnag mae pethau’n troi’n dywyll gan nad oes gan Pinkerton gwir fwriad i’w phriodi am resymau dilys gan ei gweld yn rhywbeth y gall anghofio amdano pan mae’n dewis hynny. Mae’n bwriadu ei gadael yn fuan ar ôl ei phriodi, ac yn ei phriodi er cyfleustra yn unig nes iddo ganfod gwraig Americanaidd iddo’i hun. Yn anffodus, nid oes gan Goro, sy’n chwarae’r rhan o geisio uno’r cwpwl yma, fwriadau ffafriol ar gyfer Butterfly gan ei fod yn ymwybodol o fwriad Pinkerton i’w gadael hi. Gellir dehongli hyn fel ffordd hunanol o uno dau gymeriad mewn opera gan fod Goro’n elwa’n ariannol o’r trefniant hwn ac yn diystyru canlyniadau hyn i gyd ar Butterfly ddiniwed. Mae’n cymryd rhan weithredol i dwyllo Butterfly, ac ymhen amser yn ceisio ei gwneud yn briod i Yamadori, sy’n gymeriad yn yr opera sy’n enwog am briodi ac ysgaru merched. Unig obaith Butterfly yma yw achubiaeth ariannol, ond gwrthod ei gynnig i’w phriodi mae hi yn y pen draw. 

Yn ddiweddarach yn yr opera mae Butterfly yn datgelu ei bod wedi rhoi genedigaeth i fab Pinkerton wedi iddo’i gadael a’i bod yn dymuno iddo ddychwelyd. Yn drychinebus i Butterfly, pan mae ei gŵr yn dychwelyd, mae newydd briodi Americanes o’r enw Kate, sydd wedi cytuno i fagu eu plentyn. Yn anffodus, fe welwn fod trefniadau Goro i briodi Butterfly â Pinkerton yn yr opera dorcalonnus hon wedi arwain at boen calon ddybryd i Butterfly gan nad yw ei chariad yn cael ei ddychwelyd.

Ar nodyn ysgafnach, yn The Barber of Seville Rossini, rydym yn cwrdd â phrif giwpid y byd opera, Figaro. Mae gan Rosina sawl carwr, gan gynnwys ei gwarcheidwad chwantus Dr Bartolo sy’n bwriadu ei phriodi hi. Fodd bynnag, mae Figaro, sy’n awyddus i weld gwir gariad yn trechu popeth, yn cynorthwyo’r Iarll Almaviva i ennill calon Rosina drwy gyfres o driciau a hunaniaethau newydd. Mae’r opera buffa hon (opera gomedi) yn gweld Figaro’n chwarae’r rhan ciwpid hon mewn ffordd hwyliog a dirgel.

Mae yna hefyd gymeriad sy’n ceisio dod â chyplau ynghyd yn Don Pasquale Donizetti ond yn wahanol i Figaro, mae Dr Malatesta’n defnyddio ei sgiliau ciwpid i gynllwynio a thwyllo. Gan ddefnyddio camargraffiadau rhamantus hen lanc i’w fantais ei hun, mae Malatesta’n cynorthwyo‘r cariadon ifanc, Norina ac Ernesto, i dwyllo’r hen ddyn a diogelu eu dyfodol. Ail-grëwyd y stori glasurol yn nhymor 2018/2019 blaenorol WNO, lle cafwyd cast o gymeriadau mawr yn gweld Pasquale, perchennog fan kebab, ar gwest i ganfod gwraig a chreu mab er mwyn diogelu eu dyfodol yn yr 21ain ganrif.

Dewch i wylio Goro ar waith y Tymor hwn wrth i gynhyrchiad ‘hynod bwerus’ WNO o Madam Butterfly ddychwelyd i’n llwyfannau am nifer cyfyngedig o berfformiadau.