Newyddion

Meet our WNO Associate Artists 2025/2026

2 Gorffennaf 2025

Mae Opera Cenedlaethol Cymru yn hynod falch o gyhoeddi y bydd gennym ddau Artist Cyswllt newydd yn ymuno â ni ar gyfer y Tymor 2025/2026 sydd i ddod: Owain Rowlands a Ross Fettes. Yn y rolau hyn, bydd y pâr yn derbyn hyfforddiant a chefnogaeth o’r safon uchaf a byddant yn cael cyfle i ennill profiad perfformio drwy rolau unigol yn ein hoperâu a’n cyngherddau, yn ogystal â’n gwaith cymunedol ac ymgysylltu.

Mae Owain Rowlands yn fariton o sir Gaerfyrddin sydd wedi astudio ym Mhrifysgol Caerdydd a’r Royal Academy of Music. Yn fwy diweddar, hyfforddodd yn Ysgol Opera David Seligman yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru (CBCDC). Perfformiodd yn flaenorol mewn rolau megis y brif ran yn Don Giovanni, ynghyd â Bottom yn A Midsummer Night’s Dream, Birkbrai Alicia’s Island, ac Impresario John & Pete. Mae uchafbwyntiau eraill yn cynnwys perfformio yng Ngala Opera flynyddol WNO a chynrychioli Cymru yn Expo 2025 yn Siapan fel Llysgennad Diwylliannol Rhyngwladol yr Urdd a CBCDC. Mae Owain hefyd wedi cael llwyddiant mawr mewn cystadlaethau; ef oedd enillydd Llais Llwyfan Llanbed a Chystadleuaeth Canwr Ifanc Cymru Llundain, er enghraifft, ac enillodd wobr Ysgoloriaeth W. Towyn Roberts a Gwobr Syr Ian Stoutzker.

Yr Hydref hwn, bydd Owain yn perfformio ar gyfer WNO fel JailerTosca a bydd yn dirprwyo ar gyfer rôl Maximilian yn Candide, yn ogystal â pherfformio yn ein cyngherddau i ysgolion. Yn 2026, bydd yn unawdydd yn nhaith ein cyngerddDdathliad Blwyddyn Newydd, yn dirprwyo rôl Mr Evans yn Blaze of Glory! ac yn canu yn y corws ychwanegol yn Blaze of Glory! a The Flying Dutchman.

Dywedodd Owain: Rwyf wrth fy modd yn cael ymuno ag Opera Cenedlaethol Cymru fel Artist Cyswllt y tymor nesaf. Mae’r cyfle hwn yn teimlo fel cam hanfodol yn fy natblygiad, yn cael gweithio ochr yn ochr â Cherddorfa arbennig WNO a chael dysgu gan gantorion, arweinwyr a chyfarwyddwyr mor ysbrydoledig. Dwi’n edrych ymlaen yn fawr iawn ac yn teimlo’n hynod o ffodus, yn enwedig gan fy mod yn Gymro yn gweithio yn ein Cwmni Opera Cenedlaethol. Dwi methu aros I ddechrau.

Mae Ross Fettes ar y llaw arall yn fariton-bas o’r Alban ac yn un o raddedigion diweddar Ysgol Opera Ryngwladol y Coleg Cerdd yn Llundain, lle astudiodd dan law Graeme Broadbent. Yma, perfformiodd mewn rolau gan gynnwys Figaro yn The Marriage of Figaro, Don Inigo Gomez yn L’heure espagnole, Y Barwn Mirko Zeta yn The Merry Widow, a Pasquariello yn Don Giovanni Tenorio; ac mae hefyd wedi canu rhan Figaro gydag Opera Westminster. Yn ogystal, mae Ross yn Ysgolor Stephen Roberts, wedi’i gefnogi gan Wobr Ysgoloriaeth Goffa Stephen Catto, yn ogystal ag yn ysgolor Ymddiriedolaeth Iarlles Munster ac yn Ysgolor Ymddiriedolaeth Josephine Baker.

Bydd Ross yn perfformio fel Sacristan ynTosca yr Hydref hwn, ac yn ddiweddarach bydd yn ymuno ag Owain fel unawdydd yn nhaith y cyngerdd Dathliad Blwyddyn Newydd. Yn y Gwanwyn, bydd yn dirprwyo rôl Daland a bydd yn canu yn y corws ychwanegol yn The Flying Dutchman.

Dywedodd Ross: Rwyf wrth fy modd yn cael ymuno ag Opera Cenedlaethol Cymru fel Artist Cyswllt. A minnau o Glasgow yn wreiddiol, theatr ranbarthol ac opera oedd fy nghyflwyniad cyntaf i’r ffurf hon ar gelfyddyd, felly mae’n anrhydedd go iawn cael ymuno â chwmni rhanbarthol arall sy’n cyflwyno opera i gynulleidfaoedd ledled Cymru a Lloegr. Rwy’n falch iawn o fod yn gweithio ac yn byw yng Nghaerdydd, ac edrychaf ymlaen yn eiddgar at gychwyn arni.

Edrychwn ymlaen at groesawu Owain a Ross i WNO yn fuan iawn!