Newyddion

Migrations: O’r papur i’r llwyfan

26 Medi 2022

Mae opera newydd Opera Cenedlaethol Cymru, Migrations, yn dychwelyd i Gaerdydd ym mis Hydref cyn mynd ar daith ledled y wlad. Buom yn siarad â’r cyfarwyddwr a’r cyd-libretydd Syr David Pountney am yr hanes a’r straeon a ysbrydolodd yr opera, a sut y daeth yr opera i fod.

Wedi'i chynllunio'n wreiddiol i goffáu 400 mlynedd ers hwylio'r Mayflower yn 2020, tyfodd ac esblygodd Migrations y tu hwnt i'r syniad gwreiddiol. Gweledigaeth Pountney oedd archwilio chwe stori wahanol yn canolbwyntio ar y thema ymfudo, yn cael eu hadrodd yn y fath fodd fel eu bod yn cydblethu ac yn gyfochrog â’i gilydd.

Pan fydd yr opera’n agor, gwelwn deithwyr ar y Mayflower yn ymfudo’n ddelfrydyddol i’r ‘Byd Newydd’ i ffoi rhag erledigaeth grefyddol. Fodd bynnag, byddai'r daith hon yn dechrau cyfres o ddigwyddiadau a fyddai'n arwain yn y pen draw at ddadleoli Cymunedau'r Genedl Gyntaf ac ecsbloetio amgylcheddol a dinistrio eu cartrefi. 

Cawn ein cyflwyno nesaf i Dawn, aelod o gymuned y Genedl Gyntaf sy'n protestio yn erbyn ecsbloetio adnoddau naturiol yng Nghanada yn yr oes fodern. Ysgrifennwyd y llinyn hwn o'r stori, o'r enw Treaty 6, gan Sarah Woods, a gallwch ddarllen mwy am y stori yma.

Mae'n debyg iawn i stori'r Mayflower, felly rydych chi'n gweld yr achos a'r effaith

Syr David Pountney

Wedi'i hysgrifennu gan Edson Burton a Miles Chambers, mae Flight, Death or Fog yn cydblethu trwy ddwy act yr opera. Yn dilyn hanes Pero Jones, caethwas o'r 18fed ganrif ym Mryste. Mae stori Pero yn cynrychioli ‘achos o fewnfudo anwirfoddol’, ac mae Pountney yn nodi sut roedd Migrations yn mynd i’r afael â ‘mater hynod amserol ers iddynt benderfynu taflu cerflun Mr. Colston i’r doc’. Gallwch ddarllen mwy am Flight, Death or Fog yma.

Mae'r stori hon yn ymestyn yn bell iawn, iawn i wreiddiau ein treftadaeth a'n diwylliant cenedlaethol ein hunain ac mae'n rhywbeth y mae'n rhaid i ni i gyd ymdrin ag ef

Syr David Pountney

Boed yn ecsbloetio tir brodorol, yn barnu’r rôl a chwaraeodd Prydain Fawr yn y fasnach gaethweision ar draws yr Iwerydd, neu’n wynebu ein rôl bresennol yn yr aflonyddwch i ecosystemau a’r difrod amgylcheddol y mae cynhesu byd-eang yn ei achosi, mae Pountney yn nodi’n frwd 'mae yna bethau cadarnhaol yn ogystal â negyddol, ac mae'n bwysig cadw hynny mewn cof ym mhob un o'r straeon hyn'.

Gallwch weld Migrations ar daith yr Hydref hwn, rhwng 2 Hydref a 26 Tachwedd yng Nghaerdydd, Llandudno, Birmingham, Southampton, a Plymouth.