Newyddion

Migrations: Opera a Natur

8 Awst 2022

Rydym yn troi at natur yn aml i gael ysbrydoliaeth, ac ers amser maith mae natur wedi bod yn saeth bwysig yng nghawell yr adroddwr hanesion. Yn y byd opera, gwelwn fod cyfatebiaethau’n cael eu dwyn o fyd natur. Wrth gynllunio un o dai opera enwocaf y byd, sef Tŷ Opera Sydney a saif yn ei ysblander uwchlaw Port Jackson, cafodd y pensaer Jørn Utzon ei ysbrydoli gan strwythur gwythiennog dail ac adenydd adar. Yn aml, mae cyfansoddwyr a libretwyr yn defnyddio anifeiliaid yn eu straeon i gynrychioli ymddygiad pobl ac i greu cyfatebiaethau y gallwn ddysgu ar eu sail. Dyma rai o’n hoff enghreifftiau.

Cymeriadau ar ffurf anifeiliaid a welir yn bennaf yn The Cunning Little Vixen gan Janáček, a chynrychiolir cariad digydnabod y cyfansoddwr ei hun tuag at Kamila Stösslová, a oedd yn iau nag ef a hefyd yn briod. Caiff yr opera hon – un o gyfansoddiadau ysgafnach Janáček – ei lleoli mewn coedwig, ac mae’n dilyn hynt llwynoges ifanc a chyfrwys, gan ddwyn cymariaethau â’n bywydau ni fel pobl.

Ysbrydolwyd opera Nikolai Rimsky-Korsakov, The Tales of Tsar Saltan, gan gerdd o’r un enw a gyfansoddwyd gan y bardd Alexander Pushkin. Yn yr opera hon y ceir yr enwog ‘Hediad y Cacwn / Flight of the Bumblebee’. Ni chaiff yr opera ei pherfformio’n aml y dyddiau hyn, ond mae’r interliwd yn dal i fod yn boblogaidd ac mae wedi ffynnu ers ei chyfansoddi ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Bwriad Rimsky-Korsakov oedd y dylai ei gyfansoddiadau gynrychioli hediad herciog y cacwn, felly mae’r gerddoriaeth yn fwrlwm o droi a throsi sy’n cynrychioli leitmotifau o’r opera.

Ac yntau’n pryderu ynghylch diwydianeiddio ledled Ewrop, ynghyd â’r goblygiadau a gâi hyn ar natur, aeth Wagner ati i gyfansoddi rhai o’i ddarnau cerddorol mwyaf eiconig yn ei waith epig Cylch y Fodrwy – ‘The Ride of the Valkyries’. Mae’r stori’n sôn am ddwyn aur o’r Rhein i wneud modrwy a’r ymrafael dilynol dros berchnogaeth y fodrwy honno – rhywbeth sy’n arwain at ddinistrio cartref y Duwiau. Hawdd yw gweld rhybudd Wagner yn erbyn gorddefnyddio adnoddau naturiol.

Mae opera ddiweddaraf Opera Cenedlaethol Cymru, sef Migrations, yn archwilio amryfal straeon yn ymwneud ag ymfudo – yn cynnwys pobl, amser ac anifeiliaid. Mae un adran o blith chwech sy’n rhan o libreto helaeth Birds gan Eric Ngalle yn olrhain hanes haid o adar ymfudol sy’n teithio dros y moroedd er mwyn dychwelyd i’r ynys sy’n safle bridio iddynt – ond oherwydd y cynnydd yn lefel y môr, mae’r ynys bellach dan ddŵr. Mae’r adar (a berfformir gan gôr plant rhagorol) yn ein galluogi i fyfyrio ar ein siwrnai ni ein hunain fel bodau dynol, gan gynnig hefyd rywfaint o gomedi ynghyd â safbwynt llym ynglŷn ag effeithiau newid yn yr hinsawdd ar wahanol ecosystemau o amgylch y byd.

Dewch i weld yr adar â’ch llygaid eich hun yn ystod perfformiad o Migrations yr Hydref hwn yng Nghaerdydd, Llandudno, Plymouth, Birmingham neu Southampton.