Newyddion

Má Vlast – Hanes ac Etifeddiaeth

17 Ionawr 2023

Mae campwaith cerddorfaol Bedřich Smetana, Má Vlast (Fy Mamwlad), yn un o'r darnau pwysicaf yn y repertoire clasurol Tsiecaidd. Ers y perfformiad cyntaf erioed ym Mhalas Žofín ym Mhrâg yn 1882, mae Mamwlad y Weriniaeth Tsiec wedi profi sawl newid sylweddol yn ei thirlun ac awdurdod gwleidyddol. Gadewch inni gymryd cip ar hanes y darn fel cyfeiliant cerddorol i ddigwyddiadau cythryblus y Weriniaeth Tsiec, cyn perfformiad Cerddorfa Opera Cenedlaethol Cymru o'r darn yn Neuadd Dewi Sant ar 29 Ionawr.

Cyfansoddodd Smetana, 'Tad Cerddoriaeth Tsiec', Má Vlast rhwng 1874-79 fel chwe darn cerddorfaol unigol, yn archwilio hanes a chwedlau Tsiecaidd. Roedd ei pherfformiad gyntaf yn llwyddiant aruthrol, ac o fewn dim, daeth yn symbol o ysbryd gwladgarol bobl Gweriniaeth Tsiec a'u tir. Aeth y cyhoeddiad cerddoriaeth Tsiecaidd, Dalibor, ati'n syth i ddisgrifio'r perfformiad fel 'y cyngerdd Tsiecaidd gorau posibl'.

Ychydig cyn dechrau'r Ail Ryfel Byd yn 1939, cafodd cyn-wladwriaeth Tsiecoslofacia ei threchu a'i meddiannu gan y Natsïaid. Mewn gwrthwynebiad i'r meddiant, perfformiwyd Má Vlast yn Theatr Genedlaethol Prâg gan gerddorfa y Czech Philharmonic gyda'r arweinydd Václav Talich, i gymeradwyaeth a fu bron â chodi to'r theatr. Roedd y darn wedi bod mor bwerus wrth ysbrydoli gwrthwynebiad diwylliannol i'r meddiant, bod y Natsïaid wedi gwahardd pob perfformiad o'r gwaith nes i berfformiad gan y Czech Philharmonic ym Merlin yn 1941 orfodi'r Natsïaid i ddychwelyd y darn i'r Tsieciaid. Defnyddiodd y BBC hyd yn oed ddetholiadau o Má Vlast bob tro roedd darllediad newyddion yn yr iaith Tsieceg.

Yn ddiweddarach, yn 1990, perfformiwyd Má Vlast am y tro cyntaf ers cwymp Comiwnyddiaeth yn nhiroedd Tsiec a Slofacia yng Ngŵyl Gerdd Ryngwladol y Gwanwyn Prâg. Ar ôl yr Ail Ryfel Byd, deth Tsiecoslofacia yn rhan o'r Undeb Sofietaidd, tan y Chwyldro Felfed yn 1989, pan ddechreuodd y pŵer bontio o afael y blaid gomiwnyddol i weriniaeth seneddol. Daeth yr arweinydd Tsiecaidd enwog a sylfaenydd yr ŵyl, Rafael Kubelík, allan o ymddeoliad ac alltudiaeth wirfoddol er mwyn arwain perfformiad y Czech Philharmonic i dorfeydd enfawr yn Sgwâr Hen Dref Prâg. Ers hynny, mae'r perfformiad wedi dod yn chwedlonol, yn defnyddio cerddorfa o dros ddwbl y maint arferol – dathliad gwirioneddol o ddemocratiaeth Tsiecaidd ac etholiadau rhydd cyntaf y wlad.

Mae Má Vlast wedi agor Gŵyl Gerdd Ryngwladol y Gwanwyn Prâg ar 12 Mai bob blwyddyn ers 1949. Mae'r dyddiad yn nodi dyddiad marwolaeth Smetana. Bydd Cerddorfa WNO a Chyfarwyddwr Cerddoriaeth WNO, Tomaš Hanus, yn ymuno â hanes perfformio’r Czech Philharmonic, Vienna Philharmonic a’r London Symphony Orchestra, ymysg eraill, yn yr ŵyl yn Neuadd Smetana yn 2023.

Manteisiwch ar y cyfle prin i glywed Cerddorfa WNO yn perfformio Má Vlast yn llawn yn Neuadd Dewi Sant ddydd Sul 29 Ionawr am 3pm.