Newyddion

WNO'n croesawu Artistiaid Cyswllt newydd

21 Rhagfyr 2020

Yn gynharach eleni cyhoeddodd Opera Cenedlaethol Cymru gynlluniau i ehangu ein rhaglen datblygu talent. Gyda chefnogaeth hael gan Fwrsariaeth Shirley a Rolf Olsen roeddem yn gallu rhoi cyfle i dri artist ifanc weithio gyda'r Cwmni, gan eu cynorthwyo ar hyd camau cynnar eu gyrfa.

Yn dilyn clyweliadau cenedlaethol yn 2019, rydym yn falch o groesawu'r soprano Isabelle Peters, y tenor Adam Gilbert a'r bariton Aaron O'Hare fel ein Hartistiaid Cyswllt ar gyfer Tymor 2020-2021. Dan lygad barcud y mentor a'r soprano enwog Rebecca Evans - Llysgennad y rhaglen - bydd Isabelle, Adam ac Aaron yn derbyn hyfforddiant lawn amser, blwyddyn o hyd.

Fel Cymrawd BAME yn English National Opera ar gyfer eu Tymor 2019/2020, ymddangosodd Isabelle Peters fel First Bridesmaid yn The Marriage of Figaro a dirprwyodd Frasquita yn Carmen. Yn gyn-fyfyriwr o Guildhall School of Music & Drama a Royal Northern College of Music, mae Isabelle yn cydweithio'n rheolaidd â phianyddion i berfformio repertoire Cân Gelf.

Ar ôl 10 mlynedd fel bariton, yn gweithio gyda rhai o'r cwmnïau opera mwyaf uchel eu bri yn y DU a thramor gan gynnwys Glyndebourne, Scottish Opera, English National Opera ac Opera Holland Park, mae Adam Gilbert wedi symud at y repertoire tenor yn ddiweddar, gan wneud ei ymddangosiad cyntaf fel Florestan yn Fidelio yn 2019.

Mae Aaron O'Hare yn dod o Ogledd Iwerddon ac wedi graddio o Brifysgol Ulster a Royal Northern College of Music. Ymunodd â rhaglen Artist Ifanc Alvarez Opera Garsington ar gyfer eu Tymor 2016 ac fe'i dewiswyd ar gyfer Cynllun Artistiaid Ifanc Opera Holland Park yn 2018. Yn gynharach eleni ymddangosodd gydag Opera de Lyon fel aelod o'u Stiwdio Opera.

Mae WNO yn falch o allu darparu'r llwyfan hwn i dalent ifanc o bob cwr o'r Deyrnas Unedig. Mae Artistiaid Cyswllt blaenorol yn cynnwys David Soar, Camilla Roberts a Robin Tritschler, ymhlith llawer o rai eraill sydd wedi mynd ymlaen i yrfaoedd llwyddiannus ledled y byd.

Wedi'i fonitro a'i gefnogi gan Bennaeth Rheoli Artistig a Phennaeth Cerddoriaeth WNO, mae'r tri artist eisoes wedi bod yn gweithio, yn ein helpu i greu perfformiadau digidol a chymryd rhan yn rhai o'n prosiectau cymunedol fel Côr Cysur.

Os hoffech ddod yn fwy cyfarwydd â'n Hartistiaid Cyswllt, ewch draw i'n tudalen Instagram lle mae pob artist wedi rhannu ychydig amdanynt eu hunain.

Cefnogir rhaglen Artist Cyswllt WNO hefyd gan Joseph Strong Frazer Charitable Trust, The Thriplow Charitable Trust, The Fidelio Charitable Trust a Garrick Charitable Trust

Cefnogir rhaglen Datblygu Talent WNO gan Bateman Family Charitable Trust a Kirby Laing Foundation