Newyddion

Newydd i opera - beth ddylech ei weld yn ystod ein Tymor yr Hydref 2019

11 Gorffennaf 2019

'Nid wyf erioed wedi gweld opera o'r blaen!' Sut i newid hynny yn 2019...

Yma yn Opera Cenedlaethol Cymru, gofynnir yn aml i ni pa operâu y byddem yn eu hargymell i rywun sydd erioed wedi gweld un o'r blaen. Yr Hydref hwn, mae gennym rai cynyrchiadau gwych i'ch temptio, o un o oreuon y byd opera, i gynhyrchiad WNO sydd wedi goroesi treigl amser. I'ch helpu i ddewis rydym wedi cyflwyno senarios perffaith i wneud i chi fynd amdani ac ymdrochi ym myd hudolus opera...


Y dêt perffaith

Efallai nad ydych yn ymwybodol, ond rydych fwy na thebyg wedi clywed Carmen eisoes. Mae'r aria, Habanera (Love is a rebellious bird) mewn ffilmiau megis Trainspotting, The Aristocats, Magnolia ac Up, Pixar! Roedd hi'n hysbyseb persawr Paco Rabanne, ac mae Beyonce hyd yn oed wedi ei chanu mewn fideo ar gyfer Pepsi. Y rheswm y mae hi mor enwog, ar wahân i'r ffaith ei bod yn aros yn eich ymennydd am ddyddiau fel lindysyn bychan, yw ei bod yn un o'r caneuon mwyaf angerddol i gael ei hysgrifennu erioed; lleoliad perffaith ar gyfer dêt y gallech ddweud.

Ac er y gallwch wisgo beth bynnag y dymunwch, nid oes unrhyw beth yn awgrymu rhamant yn fwy na gwisgo i fyny i greu argraff, yn un o'n lleoliadau prydferth, atmosfferig. Mae gwydriad hyfryd o win neu siampên yn ystod yr egwyl yn rhoi cyfle i chi sgwrsio am y set nwydus neu'r actio tanbaid. A gan fod hwn yn gynhyrchiad newydd sbon i WNO, nid oes neb erioed wedi gweld Carmen tebyg o'r blaen, wedi ei gosod yn y 1970au; profiad gwirioneddol unigryw.

Gallwch dynnu sylw at eich gwybodaeth gyda ffeithiau fel 'a oeddet ti'n gwybod y bu farw'r cyfansoddwr yn sydyn yn 36 oed, yn credu bod yr opera yn fethiant' a 'gwnaeth y gair 'Toreador' i fyny, y term cywir yw 'torero', roedd angen un sill arall arno i gyd-fynd â'i alaw.' Gallwch yna glosio drwy ymchwilio i ystyr 'torero'. 


Perffaith i'r rhai sydd wedi hen ddiflasu

Wedi syrffedu ar Netflix? Wedi diflasu ar sgrolio'n ddi-baid drwy eich ffôn? Beth am anghofio am y byd technoleg ac ymdrochi eich hun mewn byd lle mae cantorion yn canu mor uchel, nid oes angen meicroffonau arnynt.

Yn cael ei hystyried yn eang fel yr opera fwyaf haniaethol erioed, mae The Cunning Little Vixen gan Janáček yn ddihangfa berffaith o'r penawdau diflas a'r euogrwydd fel defnyddwyr y mae pob un ohonom yn ei wynebu heddiw. Yn wir, cafodd un o adolygwyr gwreiddiol y sioe, pan fe'i cynhyrchiwyd gyntaf ym 1980, gymaint o fwynhad nes iddi ei adael wedi ei adfywio gyda golwg newydd ar fywyd; ‘We left feeling perhaps this rotten old world isn’t such a bad place after all.’ (Christopher Morley, Birmingham Post)

Mae hi'n opera prin ac unigryw am sawl rheswm; yn gyntaf mae'r rhan fwyaf o'r cymeriadau yn anifeiliaid y goedwig, roedd hi'n seiliedig ar stribed comig o bapur newydd, ac yn olaf, mae'r thema, adferiad bywyd tragwyddol, yn anghyffredin iawn mewn opera. Felly gallwch gymryd seibiant o'r byd go iawn a myfyrio ar gylch bywyd.

Mae yna hefyd lawer o ddawnsio a hyd yn oed lleisiau plant, yn addas iawn, yn chwarae rhannau pryfed, mae hyn i gyd yn wledd werth chweil i'r glust a'r llygaid, a chan mil gwell na sgrîn eich ffon symudol.

Felly dewch i ymuno â'r Llwynoges ifanc gyfrwys wrth iddi fwynhau rhyddid.

Beth bynnag y byddwch yn ei ddewis, gadewch i WNO fynd â chi ar daith i fydoedd annarganfyddedig.