Newyddion

Nawr yw'r amser i gael Blas ar Opera

24 Ebrill 2020

Gellir ystyried opera fel profiad unwaith mewn oes, rhywbeth i dicio oddi ar y rhestr o bethau i'w gwneud cyn marw, ond i ni yn Opera Cenedlaethol Cymru, rydym yn credu y dylai'r lluoedd brofi'r gelfyddyd gain yn rheolaidd. Os ydych wedi syrffedu ar chwilio am eich sioe nesaf ar Netflix neu Disney Plus, beth am drochi eich pen yn ein byd swynol?

Mae tai opera a neuaddau cyngerdd ledled y wlad ar gau, ond mae llawer o gwmnïau yn agor eu harchifau ac yn rhoi ychydig o'u cynyrchiadau gorau arlein i'w mwynhau gan bawb, ac am ddim, felly peidiwch â phoeni am dalu am docyn costus, rydych eisoes gyda'r seddi gorau yn y tŷ. Yn wir, nid yw profi opera yn eich cartref yr un peth a profi opera yn y theatr ond os ydych yn credu'r rhagdybiaethau hynny, dyma'r ffordd orau i cael flas ar opera.

Anghofiwch am y gorbryder o fynd i rywle nad ydych wedi bod o'r blaen er mwyn profi rhywbeth nad ydych wedi ei brofi o'r blaen, a mwynhewch ychydig o'r gerddoriaeth orau i chi ei chlywed erioed o'ch soffa.

Felly, pa opera ddylech chi ei gweld gyntaf? Nid oes ateb cywir neu anghywir, ac wrth feddwl am y peth, wnaethoch chi erioed feddwl pa ffilm y dylech chi ei gwylio gyntaf? Yn yr un modd â llyfrau neu raglen deledu? Mae'n bwysig cofio mai tŷ yw opera gyda llawer o ystafelloedd cerddorol; hyd yn oed os nad ydych yn mwyhau Wagner neu Verdi, efallai y byddwch yn gwirioni â Bartók, Janáček neu Strauss neu Mozart. Prif awgrym: beth bynnag a wnewch, peidiwch â dechrau ei taith operatig drwy wylio pymtheg awr o Ring Cycle Wagner mewn un tro. Y peth gorau i'w wneud yw neidio i fewn ar un o bwyntiau mwyaf hygyrch opera.

Adnabyddir Mozart yn bennaf am ei gomedïau, ond roedd yn dda iawn am gyfuno alawon sionc, sefyllfaoedd doniol ac, ar brydiau, themâu torcalonnus i greu cyfanwaith. Ar ôl dod i adnabod Mozart, beth am roi cynnig ar Verdi? Fel un o'r cyfansoddwyr opera mwyaf poblogaidd erioed, rydych yn siwr o ddod o hyd i stori sy'n addas i chi, pa un ai eich bod eisiau arddull fawreddog Aida neu ddadwrdd hanesyddol Otello. Neu, os ydych yn chwilio am rywbeth mwy ysgafn a ffraeth, rhowch gynnig ar un o glasuron Rossini - The Barber of Seville - plot doniol gydag alawon gwych.

Peidiwch â phoeni am eich gwisg, mwynhewch Puccini yn eich pajamas neu Jenůfa mewn jîns. Does dim cod gwisg, dim yn eich cartref ac yn bendant ddim yn y theatr, ac nid yw pris tocyn yn uchel. Oeddech chi'n gwybod bod tocynnau i berfformiadau WNO yn dechrau o £14.

Corws WNO ar y llwyfan

Mae amrywiaeth o operâu sy'n adrodd pob math o storiau. Operâu comig, trasiedi, straeon hanesyddol neu wleidyddol, straeon am gariad - mae'r rhestr yn ddiddiwedd. Mae rhai o'r plotiau yn abswrd ond nid yn annhebygol i ffilmiau sci-fi heddiw. Yn wir, mae rhai ohonynt yn hir, ond nid ydynt lawer hirach na'ch hoff ffilm boblogaidd.

Mae gwylio opera o gartref yn ffordd fwy cyfforddus o ddod yn gyfarwydd â'r gelfyddyd.

Felly, hyd nes y byddwn yn cael perfformio i chi eto, gwisgwch eich pajamas gorau, rhowch eich cyfrifiadur ymlaen, arllwyswch wydriad o ddiod befriog a mwynhewch y gorau sydd gan y rhyngrwyd i'w gynnig. Cofiwch fod pawb yn mynd i'r opera: myfyrwyr, cymdeithaswyr, teuluoedd, pobl fusnes a'r rhai sydd wedi ymddeol