Mae ein Tymor y Gwanwyn yn agor y mis nesaf gydag opera gomig Mozart, Così fan tutte, sy’n gweld athro ysgol yn mynd ati’n gyfrinachol i gynnwys pedwar myfyriwr mewn cyfres o arbrofion a gynlluniwyd i’w twyllo a’u dysgu nad yw bywyd a chariad bob amser yn digwydd fel yr oeddech wedi’i fwriadu.
Efallai bod thema Mozart o ran cyfnewid partneriaid yn feirniadaeth sinigaidd o ddynion a merched, gan fod dau ddyn, a’r rheiny wedi’u temtio gan fet, wedi cynllwynio i newid eu gwedd er mwyn ceisio hudo dyweddi’r naill a’r llall. Ond nid dyma’r unig adeg y gwelsom guddwisgoedd a chynllwyniau’n newid trywydd cariad mewn opera.
Mae opera arall gan Mozart, Don Giovanni, sy’n seiliedig ar chwedl Don Juan, a oedd yn ymroi ei fywyd i hudo merched, yn cynnwys yr un thema o gymeriad yn newid pwy ydyw. Mae Don Giovanni’n ceisio hudo Elvira trwy ystryw gymhleth sy’n ymwneud â chyfnewid dillad â’i was, Leporello, ynghyd â charwriaeth anffodus ag Elvira. Ar ôl sawl achos o gam-adnabod, gan gynnwys ymladdfa, mae Giovanni a Leporello’n cyfarfod yn y diwedd, ychydig cyn i Don Giovanni farw.
Stori sinigaidd yw The Gondoliers, sef opera gomig a gyfansoddwyd gan Arthur Sullivan, sy’n llawn cynllwynio a cham-adnabod. Mae Casilda’n darganfod ei bod, fel baban, wedi’i rhoi gan ei rhieni anghenus yn wraig i fab ifanc Brenin Barataria. Dau gondolïwr yw Marco a Giuseppe, ond, o ganlyniad i gymysgwch ar adeg eu geni, credir mai etifedd gorsedd Barataria yw un ohonyn nhw. Fodd bynnag, bu Casilda bob amser mewn cariad â rhywun arall, sef Luis, cynorthwywr y Dug, y canfyddir mai ef mewn gwirionedd yw etifedd hirgolledig gorsedd Barataria.
Testun sylw Die Fledermaus, gan Johann Strauss II, yw dawns fasgiau lle mae pawb mewn cuddwisg. Mae Rosalinde yn edrych ymlaen at gael ychydig o ddyddiau i dreulio amser diofal gyda’i chariad, Alfred, tra bo ei gŵr, Eisenstein, yn wynebu cyfnod yn y carchar. Fodd bynnag, yn lle hynny, mae cyfaill Eisenstein, Falke, yn ei berswadio i fynd i barti’r Tywysog Orlofsky. Pan ddaw Frank, llywodraethwr y carchar, i fynd ag Eisenstein ymaith, caiff Alfred ei gamgymryd am ŵr Rosalinde. Mae Rosalinde yn penderfynu mynd i barti’r Tywysog, ac mae hyd yn oed ei morwyn ystafell, Adele, yno ar ôl argyhoeddi Rosalinde ei bod angen noson i ffwrdd i ofalu am ei Modryb a oedd yn wael. Mae hyd yn oed Frank, warden y carchar, yn penderfynu ymuno â’r parti. Gyda’r holl straeon hyn yn ymblethu â’i gilydd, ynghyd â’r wynebau mygydog, nid yw’n syndod bod y stori’n cyflwyno rhai o’r achosion doniolaf o gam-adnabod ym myd opera. Fodd bynnag, pan fydd yr holl westeion yn ymddangos yn y carchar, daw’r gwirionedd i’r golwg ac mae pawb yn cael maddeuant.
Mae The Taming of the Shrew Giannini’n seiliedig ar ddrama William Shakespeare a chanddi’r un enw. Mae nifer o hen lanciau cymwys yn dymuno hawlio llaw Bianca, sef merch ieuengaf Baptista, sy’n gyfoethog iawn. Ond dywedodd Baptista na fydd Bianca’n priodi cyn ei chwaer hynaf, Katharine. Er ei bod yn anghyfeillgar i ddechrau, caiff Katharine ei chanlyn yn y diwedd gan Petruchio. Gwelwn hefyd y gystadleuaeth rhwng Hortensio, Gremio, a Lucentio i briodi Bianca. Mae Lucentio yn newid lle â’i was, Tranio, er mwyn closio ati hi. Mae Tranio yn smalio bod yn fab bonheddwr cyfoethog ac yn camu i mewn i’r gystadleuaeth am law Bianca, gan dwyllo Baptista, sy’n gwneud trefniadau ffurfiol i’r briodas fynd yn ei blaen. Daw castiau Tranio i’r golwg yn y diwedd, ond mae Lucentio a Bianca eisoes wedi priodi’n gyfrinachol.
I weld pa guddwisgoedd y bydd ein prif gymeriadau’n ymddangos ynddyn nhw y Gwanwyn hwn, ymunwch â ni ar gyfer Così fan tuttewrth i ni ddod â’r ‘Ysgol i Gariadon’ yn fyw ar lwyfannau yng Nghaerdydd, Llandudno, Southampton, Rhydychen, Bryste a Birmingham.