Mae ein sgyrsiau Mewnwelediad i Opera yn rhoi cyfle i chi gael cipolwg ar y broses y tu ôl i’n prif gynyrchiadau – yr ysbrydoliaeth y tu ôl iddynt a sut rydym yn penderfynu pa operâu i’w cynnal a phryd – yn ogystal â chlywed gan aelodau’r tîm creadigol a’r cast. Dyma sgwrs y gallwch gymryd rhan ynddi. Cewch glywed y trafodaethau manwl rhwng y tîm cynhyrchu a’r artistiaid i gael dealltwriaeth o’r ddynameg, ac yna gofyn eich cwestiynau eich hun, gan fod sesiwn holi ac ateb hefyd yn gynwysedig.
Y tymor hwn rydym yn edrych ar ein cynhyrchiad newydd, ail ran ein Trioleg Verdi, Un ballo in maschera gyda’n Cyfarwyddwr Artistig David Pountney, a fydd yn cael cwmni aelodau o’r cast a Meistr y Corws Dros Dro, Andrew Greenwood. Hyd yn hyn, mae’r artistiaid Mary Elizabeth Williams (Amelia) a Gwyn Hughes Jones (Riccardo) wedi cadarnhau y byddant yn cymryd rhan ar ddydd Sul 27 Ionawr; gyda’r posibilrwydd o rai enwau eraill yn cael eu hychwanegu yn nes at yr amser. Bydd hwn, unwaith eto, yn fewnwelediad anhygoel i’r cynhyrchiad, y drioleg a sut y trefnir cynhyrchiad opera mawr.
Dylai’r sesiwn bara oddeutu 75 munud ac mae’n sicr o roi persbectifau’r rhai hynny sydd ynghlwm ag Un ballo in maschera cyn y noson agoriadol ar ddydd Sadwrn 9 Chwefror. Mae’r sgyrsiau Mewnwelediad i Opera yn rhad ac am ddim, ond rhaid i chi archebu tocyn ymlaen llaw, felly cadwch lygad ar ein gwefan am ddigwyddiadau yn y dyfodol.
Mae ein Trioleg Verdi yn gynhyrchiad ar y cyd ag Oper de Stadt Bonn ac fe’i cefnogir gan Ymddiriedolaeth Kobler a Syndicet Verdi WNO.
Noddwr Trioleg Verdi: Ei Ardderchowgrwydd Llysgennad yr Eidal.