Newyddion

Ein Hoff Gariadon Operatig

25 Ionawr 2024

Yn flynyddol, ar 25 Ionawr, mae Cymru’n dathlu cariad ym mhob ffurf i nodi Diwrnod Santes Dwynwen.Pa ffordd well i niyn Opera Cenedlaethol Cymru i goffáu ein nawddsantes cariadon, a dathlu ei bywyd a’i hetifeddiaeth, na thrwy gael golwg ar rai o’n hoff gariadon ym myd opera. 

1. Alfredo a Violetta  

Efallai mai’r ddau yma yw’r pâr enwocaf yn holl repertoire byd opera. A honno’n dod o un o operâu mwyaf poblogaidd Verdi, La traviata yw stori gariad Violetta, y butain llys ifanc, ddisglair, a’i Alfredo annwyl. Ar ôl cyfarfod ym mharti mawr Violetta yn ei salon ym Mharis, mae Alfredo’n canu Brindisi (cân yfed) ac yn mynd ati wedyn i gyfaddef ei deimladau tuag ati.  

2. Figaro a Susanna 

O’r holl gyplau a restrir yma, mae Figaro a Susanna o opera dragwyddol  Mozart The Marriage of Figaro (1786) ar ben y rhestr o’r cyplau pwerus gorau erioed. Hyd yn oed wrth wynebu’r rhwystrau a ddaw i’w rhan, gan gynnwys ymdrechion yr Iarll Almaviva i hudo Susanna, nid yw eu ffydd yn ei gilydd fyth yn methu. Ar ddechrau’r opera, mae’r pâr yn llawn cyffro wrth baratoi ar gyfer eu priodas, gyda Figaro yn mesur y lle ar gyfer eu gwely a Susanna’n rhoi ei bonet briodas amdani i weld sut olwg sydd arni.  

3. Papageno a Papagena  

Anghofiwch am Pamina a Tamino o The Magic Flute (1791) Mozart, mae’r cariad a rennir rhwng Papageno, y daliwr adar, a Papagena yn iachusol, ac efallai’n un o’r rhai hyfrydaf ym myd opera. Ar adeg o anobaith tuag at ddiwedd yr opera, caiff Papageno ei atgoffa gan y Tri Ifanc y gallai alw am ei Papagena annwyl trwy ddefnyddio ei glychau hud. Pan fydd hi’n ymddangos ar ei gyfer, maen nhw wedi cynhyrfu gymaint wrth weld ei gilydd eu bod yn ynganu enwau’r naill a’r llall yn geciog, mewn deuawd fendigedig Pa - pa – pa -.  

4. Mimì a Rodolfo  

Mae cyfarfyddiad Mimì a Rodolfo yn La bohème (1896) Puccini yn ddim llai na chorwynt o ramant mewn chwedl dylwyth teg. Ar Noswyl Nadolig oer iawn, mae Mimì yn gofyn i’w chymydog, Rodolfo, am olau ar gyfer ei channwyll, ac ar ôl baglu yn y tywyllwch, maen nhw’n dod o hyd i’w gilydd.  O soave fanciulla (O ferch annwyl) yw’r eiliad y maen nhw’n sylweddoli eu bod wedi cwympo mewn cariad.  

5. Fiordiligia Guglielmo ynghyd â Dorabellaa Ferrando  

Mae Così fan tutte Mozart, a elwir hefyd Yr Ysgol i Gariadon (1790), yn cynnwys nid un, ond dau gwpl yn eu harddegau. Mewn bet i geisio profi i Don Alfonso pa mor ffyddlon yw eu cariadon iddyn nhw, mae Ferrando a Guglielmo yn smalio eu bod yn mynd ymaith i ryfel. Mae’r merched yn torri eu calonnau’n llwyr ac yn addo cadw’n ffyddlon iddyn nhw. Byddai’r cyplau hyn yn gwmni dramatig iawn i’w gilydd ar ddêt dwbl(!) 

Os yw’r parau hyn wedi’ch ysbrydoli i gofleidio ysbryd Diwrnod Santes Dwynwen beth am ddod gyda’ch anwyliaid i weld ein fersiwn newydd sbon o Così fan tutte Mozart, yn agor yng Nghaerdydd ar 24 Chwefror cyn teithioarhyd a lled Cymru a Lloegr tan 10 Mai 2024.