Newyddion

Ffasiwn Parisaidd - y rheswm pam fod La traviata yn edrych fel y mae

2 Tachwedd 2018

Mae’r garwriaeth rhwng ffasiwn ac opera yn un angerddol. Yn amlwg, rydym yn hoff o La traviata am ei cherddoriaeth hyfryd a’i stori dorcalonnus, ond un o uchafbwyntiau’r cynhyrchiad hwn yw ei apêl weledol, yn arbennig gwisgoedd hyfryd yr oes. 

Er bod Verdi ei hun wedi dymuno gosod ei opera yn 1853 (y flwyddyn y ysgrifennodd hi), gorfodwyd ef i symud y digwyddiadau canrif a hanner yn ôl i gyfnod Louis XIV, gyda wigiau hir cyrliog, trywsusau pen-glin llawn ac esgidiau byclau. Dyma sut y gwelodd Verdi yr opera ar y llwyfan a dyna sut y perfformiwyd hi hyd at 1906, pum mlynedd wedi’i farwolaeth. Yn ffodus, gallwn bellach fwynhau opera Verdi fel y bwriadodd y cyfansoddwr mawr - stori garu nodedig wedi’i gosod yn ei chyfnod nodedig ei hun.

Wedi’i gosod yng nghanol y bedwaredd ganrif ar bymtheg ym Mharis, mae dyluniad y gwisgoedd yn adlewyrchu’r cyfnod cyffrous hwn yn y byd ffasiwn, gyda steiliau merched yn tarddu yn gyfan gwbl o’r brifddinas Ffrengig (roedd steiliau gwrywaidd yn fwy cysylltiedig â Llundain). Gwelodd y 1800au cynnar siopau adrannol yn agor, a roddodd hwb ychwanegol i werthiannau ffasiwn. Yn hytrach na gwŷr llys, nawr roedd gan Ffrainc y bwrdeiswyr ac, fel y grym a symudodd yr economi o un llaw i’r llall (hynny ydy, gallent wirioneddol symud arian o gwmpas), daeth ffasiwn Ffrengig o hyd i’w lwybr i’r gymdeithas.

Roedd sgert nodweddiadol o’r 1850au yn siâp cromen ac yn cael ei chefnogi gan gylchbais; roedd ei lleihad bach mewn maint yn cael ei guddio gan yr ychwanegiad o fflownsiau ag ymyl o frodwaith, patrwm wedi’i argraffu neu ei wehyddu neu fandiau melfed. Wrth i’r ddegawd fynd rhagddo, roedd ffrogiau gyda’r nos yn cael eu haddurno â mwy a mwy o ffrils, pyffiau, rhubanau, fflownsiau a les. Roedd merched yng nghanol y bedwaredd ganrif ar bymtheg yn weledigaeth o geinder a gosgeiddrwydd, yn cyfuno’r ‘anghyfforddus a’r anghyfleus’ gyda’r ‘gwamal a’r addurniadol’ i gydymffurfio â ffasiwn yr oes. Roedd yr edrychiad gorffenedig yn gain a gosgeiddig gyda rhith o esmwythdra a chyfforddusrwydd.

Mae’r gwisgoedd yn La traviata yn foethus a phersonol, wedi’u modelu â sylw rhagorol at fanylion y cyfnod ar y fin de siècle Paris. Gan ddod i’r llwyfan mewn modd ysblennydd yng ngolygfa parti Act I, mae’r merched demimonde mewn emrallt a saffir, gyda chyffyrddiadau o goch gwaed, gan awgrymu salwch Violetta. Mae’r steil yn Act II, Golygfa II yn wahanol iawn i’r steil ym mharti Violetta ar ddechrau’r opera, mae’r merched i gyd yn gwisgo plwms siwgr ac mae’r dynion i gyd mewn cotiau cynffon. Y staesiau hir, hyfryd a’r godreon bywiog, yr haenau, y wefr o’r hyn sydd oddi tanynt. Mae’r gwisgoedd a’r defnyddiau tywyll yn bennaf yn cyfleu afiaith a cheinder y gymdeithas ragrithiol foesol ond eto sydd â phuteindra. Mae dilyniant Violetta o ffrogiau tywyll, gwyn a choch yn cynrychioli’r gwahanol agweddau sydd i’w phersonoliaeth fel y gwelir gan Alfredo: y butain llys damniedig, yr angel anhunanol a’r demtwraig hudolus. Os mai La traviata yw’r opera rhamantus gorau, dyma’r ffantasi rhamantus gorau o gynhyrchiad.

Perfformiwyd y cynhyrchiad hwn o La traviata gyntaf gan Opera Genedlaethol Cymru yn 2009, ac fe’i cyfarwyddwyd gan David McVivar. Dyma ein pumed adfywiad o'r opera, gyda Sarah Crisp yn dychwelyd fel cyfarwyddwr yr adfywiad am y pedwerydd tro.