Newyddion

Rebecca Evans yn ymuno â Chyngerdd Teulu WNO

26 Hydref 2018

Mae'n Cyngerdd Teulu Calan Gaeaf yn cymryd lle ddydd Sul, ac rydym yn edrych ymlaen yn arw at gyflwyno rhai darnau o gerddoriaeth fwyaf arswydus ffilm ac opera. 

Ynghyd â Cherddorfa WNO, bydd y cyflwynydd Steve Speirs yn eich tywys drwy ‘r rhaglen gyda thri chantor gwych.

Oherwydd salwch,  ni fydd Ailish Tynan yn medru cymryd rhan yn y cyngerdd yn Neuadd Dewi Sant, ond rydym yn falch o gyhoeddi y bydd ffefryn WNO, Rebecca Evans yn ymuno â’r cyngerdd ochr wrth ochr â Gareth Brynmor John a Sophie Yelland.

Bydd Rebecca yn gyfarwydd i gynulleidfaoedd WNO o'i hymddangosiadau niferus gyda'r cwmni, yn fwyaf diweddar Der Rosenkavalier  yn 2017.  Dewch draw i ymuno â ni am brynhawn llawn hwyl a sbri.