Mae ein hopera-cabare pum seren, Rhondda Rips It Up! yn dechrau ar ail ran ei thaith y mis hwn, gan deithio i ddinasoedd ychwanegol yng Nghymru a Lloegr. Os na gawsoch chi gyfle i weld y cynhyrchiad yr haf hwn, dyma eich cyfle i weld y perfformiad a ddisgrifiwyd gan The Times, fel un ‘llawn hwyl amharchus’.
Mae Madeleine Shaw, Lesley Garrett a menywod Corws WNO yn ail-afael yn eu rhannau fel swffragetiaid (a sawl cymeriad arall) i adrodd stori’r fenyw arloesol, Margaret Haig Thomas (Yr Arglwyddes Rhondda), a gydlynodd ei hymgyrchoedd o Gasnewydd. Roedd hi’n allweddol yn y frwydr i gael y bleidlais i fenywod, ac yn ddiweddarach y frwydr i sicrhau bod menywod yn gallu bod yn aelodau o Dŷ’r Arglwyddi.
Bydd menywod Corws Cymunedol WNO yn ymuno â’r Cwmni mewn rhai lleoliadau*, ac maent hefyd yn eich gwahodd i sesiwn Dewch i Ganu yng nghynteddau’r theatr cyn y perfformiad.
Mae Rhondda Rips It Up! wedi bod yn llwyddiant ysgubol gyda chynulleidfaoedd a beirniaid fel ei gilydd, ac mae eisoes wedi rhannu stori ysbrydoledig Arglwyddes Rhondda gyda bron i 4,000 o bobl. Fel yr eglura’r Cyfarwyddwr Caroline Clegg, “Mae’r opera hon yn adrodd hanes menyw anhygoel a rhyfeddol ac mae ganddi neges oesol iawn y gall pob un ohonom uniaethu â hi...Nid oes gennyf amheuaeth y byddwch yn gadael y theatr wedi eich ysbrydoli ac yn canu’r caneuon!’
Bydd cynulleidfaoedd ym Mangor yn cael cyfle i ofyn cwestiynau am y cynhyrchiad, ac am Arglwyddes Rhondda ei hun, wrth i Angela V John (awdur Turning The Tide The Life of Lady Rhondda) arwain y drafodaeth rad ac am ddim ar ôl y perfformiad. Gallwch hefyd weld Rhondda Rebel, ein prosiect digidol diweddaraf, sy’n defnyddio realiti estynedig i’ch tywys yn ôl i achos llys yr Arglwyddes Rhondda (sydd hefyd yn ymddangos yng Ngaleri John Hansard yn Southampton).
Peidiwch â cholli’r cyfleoedd olaf hyn i fwynhau’r gwaith newydd sbon hwn gan WNO.
*Corws Cymunedol/Dewch i Ganu yn Abertawe, Bangor, yr Wyddgrug a Chaer-wynt.