Gioachino [Antonio] Rossini oedd cyfansoddwr Eidalaidd gorau ei oes. Ac yntau'n gymeriad enfawr gydag awydd bwyd i gyd-fynd â hwnnw, caiff ei ddathlu am ei operâu ac o'u plith The Barber of Seville, La Cenerentola a William Tell yw'r rhai mwyaf adnabyddus.
Cafodd Rossini, fel sawl cyfansoddwr mawr, ei eni yn y lle cywir ar yr amser cywir. Roedd y byd cerddorol yn dal i alaru am Wolfgang Amadeus Mozart pan anwyd Rossini yn Pesaro ar 29 Chwefror 1792. Roedd ei rieni yn gerddorion o fri - ei dad yn drympedwr a'i fam yn gantores. Yn 1804, symudodd y teulu i Bologna, lle byddai Rossini yn canu'n broffesiynol ac yn gweithio fel maestro di cembalo mewn sawl theatr leol. O ganlyniad i hynny, treuliodd Rossini ei holl blentyndod yn y theatr.
Yn 14 oed, aeth y Rossini ifanc ati i gyfansoddi ei opera gyntaf - Demetrio e Polibio - a dechreuodd fynychu Ysgol Ffilharmonig Bologna. Cafodd ei feddiannu â cherddoriaeth Mozart nes i'w gyfeillion roi'r llysenw 'Yr Almaenwr Bach' arno.
Daeth llwyddiant yn gyflym i ran y cyfansoddwr ifanc. Nid yn unig yr oedd yn hen law ar gyfansoddi cerddoriaeth ac operâu yn gyflym a llwyddiannus, ond roedd ei arddull unigryw yn apelio at ei gynulleidfa a'r bobl a oedd yn perfformio yn ei operâu.
Deunaw oed oedd Rossini pan gafodd un o'i operâu - La cambiale di matrimonio - ei pherfformio'n gyhoeddus am y tro cyntaf mewn theatr yn Fenis (Teatro San Moisè); prin yr oedd yn 24 oed pan berfformiwyd ei 17fed opera - The Barber of Seville - mewn theatr flaenllaw yn Rhufain (Teatro Argentina), ac ni chafodd gymeradwyaeth gynnes ar ei noson gyntaf. Newydd droi'n 26 oed oedd ef erbyn i'r theatr fwyaf yn Ewrop roi llwyfan i'w 24fed opera, fersiwn Eidaleg o Mosè in Egitto. Erbyn ei benblwydd yn dri deg, cyflawnodd ganmoliaeth ryngwladol, ac ymgartrefodd ym Mharis. Cafodd ei 40fed opera, a'r olaf, William Tell, ei pherfformio am y tro cyntaf pan oedd yn 37 oed.
Gyda'r byd operatig yn ei addoli, rhoddodd Rossini y gorau i'w waith theatrig. Treuliodd weddill ei fywyd (bron i 40 mlynedd) gydag ychydig o ganeuon, darnau piano, a dau waith corawl ar raddfa fawr. Mae ei waith arwyddocaol o'r blynyddoedd hwyrach yn cynnwys Les Soirées musicales (1830–35), Stabat Mater (ail fersiwn 1842) a Petite Messe solennelle (1863).
Yn 1845, bu farw'r gantores opera Sbaenaidd a'i wraig ers 23 mlynedd, Isabella Colbran, a'r flwyddyn ganlynol priododd Rossini â'r model Olympe Pelissier, sef ei feistres ers 15 mlynedd. Ar gyfer dathliadau ei benblwydd yn 70 oed yn 1862, adeiladodd nifer o'i gyfeillion gerflun er anrhydedd iddo.
Wedi salwch byr, bu farw Rossini ar 13 Tachwedd 1868 ac fe'i claddwyd ym Mharis ger Cheubini, Chopin a Bellini. Naw mlynedd yn ddiweddarach, aethpwyd â'i gorff i'w ail-gladdu yn Basilica di Santa Croce di Firenze yn Fflorens, a mynychodd 6,000 o alarwyr, pedwar band milwrol a 300 o aelodau côr y seremoni, lle perfformiwyd a chafwyd encôr o'r Weddi o Mosè.
Mae opera buffa Rossini ymhlith enghreifftiau gorau o'r genre. Yn ei opera seria, cyflwynodd arloesiadau a newidiodd opera Eidalaidd, ac a fyddai'n dylanwadu ar genedlaethau o gyfansoddwyr o Ffrainc a'r Eidal.