Newyddion

Santes Dwynwen, the Welsh Patron Saint of Love

25 Ionawr 2019

Dethlir cariad yng Nghymru ar 25 Ionawr, sef Dydd Santes Dwynwen. Mae hanes Nawddsant Cariadon Cymru yn chwedl am dorcalon, hud ac wrth gwrs cariad, sydd ddim yn annhebyg i'r themâu a ddefnyddir mewn opera.

Yn y bumed ganrif roedd yna Frenin o'r enw Brychan Brycheiniog a oedd yn teyrnasu dros ran helaeth o'r wlad, yr ardal sy'n cael ei hadnabod heddiw fel Bannau Brycheiniog. Roedd ganddo lawer o blant (24 i gyd), un ohonynt oedd Dwynwen, ac yn ôl y sôn hi oedd y prydferthaf o'i holl ferched.

Cwympodd Dwynwen dros ei phen a'i chlustiau mewn cariad â bachgen lleol o'r enw Maelon Dafodrill. Ond yn ddiarwybod iddi ar y pryd, roedd ei thad wedi trefnu iddi briodi Tywysog, ac felly'n ei gwahardd rhag gweld Maelon. Ar ôl clywed y newyddion, mae Maelon, sy'n gynddeiriog, yn rhuthro i weld Dwynwen ac yn ei ddicter, mae'n ei threisio hi. Gyda'i chalon wedi torri, mae Dwynwen yn ffoi i'r goedwig ac yn gweddïo ar Dduw i'w helpu i anghofio am Maelon. Ar ôl syrthio i gysgu, mae angel yn ymweld â Dwynwen ac yn rhoi diod hud iddi sy'n gwneud iddi anghofio popeth am Maelon ac yn ei droi'n dalp o rew.

Yna mae Duw yn rhoi tri dymuniad i Dwynwen. Ei dymuniad cyntaf oedd i Maelon gael ei ddadmer, yn ail dymunodd i Dduw wireddu gobeithion a breuddwydion gwir gariadon ac yn olaf dymunodd na fyddai hi byth yn priodi. Mae ei thri dymuniad yn dod yn wir ac er mwyn diolch i Dduw mae Dwynwen yn ymroi i Dduw. Yna mae hi'n ffoi i Ynys Llanddwyn ar ochr Orllewinol Ynys Môn ac yn byw yno fel lleian. Sefydlodd eglwys ar yr ynys ac arhosodd yno heb briodi.

Mae themâu torcalonnus hefyd yn ganolog i Dymor y Gwanwyn 2019 WNO

Mae cariad, hunanaberth a fforio yn themâu canolog yn The Magic Flute. Mae Tamino a Pamina yn cwympo mewn cariad, ond mae'n rhaid i'r pâr ifanc ddysgu am y byd ag ymgymryd â chyfres o heriau yn y deml Natur, y deml Rheswm a'r deml Doethineb er mwyn ennill yr hawl i fod gyda'i gilydd. Yn ystod y prawf cadw'n ddistaw, mae Papageno - y daliwr adar - yn torri ei lw drwy siarad â Papagena, morwyn sydd wedi gwisgo fel hen wraig. Ar ôl iddo gytuno i gefnu ar ei hen arferion ac addo bod yn ffyddlon ar hyd ei oes, mae'r hen wraig yn datgelu ei hun fel merch ifanc brydferth - cannwyll ei lygaid - ond oherwydd ei fod wedi methu'r llw o dawelwch, mae'r ferch yn cael ei gyrru ymaith. Mae pwerau cyfriniol yn helpu i uno cariad.

Yn Roberto Devereux, mae cariad nas dychwelir a hapusrwydd gwaharddedig yn gorfodi'r Frenhines Elisabeth I i ddatgelu'r gwrthdaro rhwng ei dyletswyddau cyhoeddus fel Brenhines Lloegr a'i theimladau preifat fel menyw. Mae hi'n caru Roberto Devereux, ond mae ef mewn cariad â Sara (gwraig ei gyfaill), ac yn gwrthod troi cefn arni, sy'n torri calon Elisabeth ac yn ei chymell i arwyddo ei warant ddienyddio. Er mwyn cael mynd yn rhydd yr unig beth sydd angen i Roberto ei wneud yw cyflwyno'r fodrwy a gafodd gan y Frenhines. Daw'r opera i ben gyda diweddglo ysgytwol, mae Elizabeth yn sylweddoli mai Sara yw ei gwrthwynebydd, ac yna'n ceisio rhwystro'r dienyddiad.

Mae cariad, grym a gwleidyddiaeth yn gwrthdaro yn Un ballo in maschera. Mae Riccardo wrth ei fodd pan glywa bod ei gwir gariad, Amelia, yn dod i'w ddawns fygydau. Yn anffodus, mae Amelia eisoes yn briod â'i gyfaill a'i gynghorwr Renato. Wrth i Amelia a Riccardo ddatgan eu cariad tuag at ei gilydd, mae Renato yn cyrraedd. Er mwyn osgoi cael ei gweld, mae Amelia yn cuddio ei hwyneb gyda'i fêl, tra bod Renato yn dweud wrth Riccardo bod yna gynllwynwyr ar ei ôl. Wrth i Riccardo ffoi, mae'r cynllwynwyr yn cyrraedd i'w daclo ac mae Amelia yn cael ei datgelu. Mae Renato yn cymryd bod ei wraig a'i gyfaill yn cael carwriaeth odinebus ac yn condemnio un ohonynt i farwolaeth. Fel mae'r teitl yn ei awgrymu (yn Eidaleg); mae'r ddrama'n datblygu mewn dawns fygydau.

Ymunwch â ni am dymor gwefreiddiol o opera'r Gwanwyn yma.