Newyddion

Hudo - yr hen ffordd draddodiadol

26 Mawrth 2020

Yn oes Love Island, Love is Blind a Naked Attraction yr ydym yn byw ynddi heddiw, mae'n hawdd gweld sut mae pawb yn chwilio am gariad, neu o leiaf, gwyliau neu bryd bwyd am ddim. Rydym o hyd yn cael hysbysebion wedi'u hanelu atom ar gyfer persawr a fydd (yn ôl y sôn) yn ein gwneud yn hudolus, gwm cnoi a fydd yn ein gwneud yn fwy atyniadol a chylchgronau sy'n llawn cyngor ynglŷn â beth allwch chi ei wneud i sicrhau'r partner 'perffaith'.

Gyda bywyd bob dydd yn cael ei ddigideiddio fwyfwy, mae bellach dros 1,500 o apiau 'dêtio' ar gael - ie - rydych wedi darllen yn iawn, 1,500. Gall wneud iddo ymddangos fel mai dyma'r cyfan sydd ar feddwl pawb. Y cwestiwn yw: pa mor dda allwch chi hudo rhywun drwy sgrin? Lle mae'r atynfa, y cyswllt llygaid, yr ysfa?

Na phoener, nid yw Opera Cenedlaethol Cymru wedi anghofio sut i hudo yn y ffordd hen-ffasiwn; llygaid yn cwrdd drwy ganol y dorf mewn parti (Faust), cyfathrach gudd yn y goedwig (The Marriage of Figaro) a datganiadau o gariad bythol (pob un ohonynt). Er, mae'n rhaid i ni gyfaddef bod rhai yn mynd gam yn rhy bell, er enghraifft, adroddwyd bod, Don Giovanni, y merchetwr mwyaf, wedi hudo 640 o ferched yn yr Eidal, 231 yn yr Almaen, 100 yn Ffrainc, 91 yn Nhwrci ac yn Sbaen, swm aruthrol o 1,003. Afresymol? Ydy, yn ein tyb ni.

Mae'r Dug yn Rigoletto yn hudo digon o ferched yn yr olygfa gyntaf yn unig, cyn hudo'r ddiniwed Gilda ac yna llai'r diniwed, Maddalena. Mae Gilda yn syrthio dros ei phen a'i chlustiau mewn cariad ag ef, nes ei bod yn aberthu ei bywyd iddo, er ei bod yn gwybod am ei anffyddlondeb, ei ymateb...'mae merched yn anwadal.' Hyfryd.

Ond nid y dynion yn unig sy'n canlyn, mae ein hysbryd tanbaid Carmen, yn hudo, ac yn cael gwared ar, gariadon yn ôl ei mympwy (sbwyliwr plot - nid yw'n gorffen yn dda), rhybuddia 'Os wyt ti'n fy ngharu - bydd yn ofalus.' Derbynnir yn eang nad yw ei charwriaethau byth yn para mwy na chwe mis. Y prif wahaniaeth rhwng Carmen a'n holl hudwyr sy'n ddynion yw ei bod yn rhoi terfyn ar bethau'n onest, lle mae'r dynion yn cefnu ar eu cariadon, mewn geiriau eraill yn gwneud tro sâl â nhw (yn Saesneg 'ghosting', yr arfer o ddod â pherthynas bersonol gyda rhywun, i ben, yn ddirybudd a heb eglurhad, gan roi'r gorau i gyfathrebu yn gyfan gwbl, yn ôl Dictionary.com.)

Y peth gorau am WNO? Ni wnawn dro sâl â chi fyth.*

*oni bai ei bod yn perfformio Macbeth.