Yn Opera Cenedlaethol Cymru, rydym yn ymfalchïo’n fawr mewn cefnogi datblygu talent ar sawl ffurf ar draws y Cwmni ac un enghraifft yn unig yw ein prosiect Side-by-Side. Yn cael eu cynnal yng Nghaerdydd ar y cyd â Choleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru ac yn Birmingham yn y Royal Birmingham Conservatoire, mae'r sesiynau yn rhoi cyfle i fyfyrwyr cerdd ddysgu gan aelodau o'n Cerddorfa a chyd-chwarae â nhw. Profiad gwerthfawr iawn i fyfyrwyr sydd, efallai, heb chwarae â cherddorfa erioed o'r blaen, ond sydd hefyd heb berfformio opera o'r blaen, neu hyd yn oed heb gyfeilio i gantor.
Cynhelir y sesiynau ddwywaith y flwyddyn yn Birmingham, yn y Conservatoire, i gyd-fynd â'n perfformiadau yn y Birmingham Hippodrome. Caiff y myfyrwyr eu dewis o'r holl gyrsiau cerdd, nid yn benodol y cyrsiau hynny sy'n ymwneud ag opera, ac mae'r prosiect yn agored i bawb - nid oes proses clyweliadau i gymryd rhan yn y sesiynau. Gan chwarae'n llythrennol 'ochr yn ochr' ag aelod o Gerddorfa WNO, gall pob myfyriwr, o bosib am y tro cyntaf, weld sut y mae'r nodau o bob offeryn yn gweithio â'r rhai eraill yn y gerddorfa a sut y gall fod angen iddynt chwarae'r nodyn yn wahanol i ddarn weithio yn ei gyfanrwydd. Gall hyn fod yn agoriad llygad i fyfyrwyr sydd wedi arfer dysgu darnau ar gyfer offeryn penodol - gall clywed ein tympanydd, Patrick King, yn taro ei dympanau, lle'r oeddent wedi arfer â dim byd o'r blaen, beri i rai edrych yn syn!
Yn ddiweddar, tra'r oeddem yn Birmingham gyda'n Tymor yr Hydref 2019, gwnaethom wahodd grŵp o fyfyrwyr o'r Conservatoire draw i'r Hippodrome i brofi ymarfer ym mhwll y gerddorfa am y tro cyntaf. Dan arweiniad yr arweinydd Alexander Joel, roedd y sesiwn dwy awr o hyd yn cynnwys gweithio ar rannau o’n cynhyrchiad cyfredol o Carmen. Roedd bod yn y pwll yn rhoi syniad iddynt o sut beth yw chwarae fel rhan o gerddorfa ar gyfer perfformiad theatraidd byw.
Yn ystod y sesiwn gweithiodd y myfyrwyr ac aelodau'r gerddorfa ar wahanol rannau o Carmen, gan gynnwys y Preliwd, ac ymunodd dau o fyfyrwyr llais o'r Conservatoire i ymarfer Habanera a Seguidilla. Nid yw'r sesiynau bob amser yn cynnwys cantorion, felly roedd hyn eto yn brofiad allweddol i nifer o'r myfyrwyr cerdd, gan roi darlun mwy cyflawn iddynt o fywyd proffesiynol fel cerddor.
Mae cyn-gyfranogwyr ein prosiectau Side-by-Side wedi mynd ymlaen i weithio gyda ni wedyn, fel cerddorion llawrydd ar brosiectau eraill WNO a drwy ddod yn aelodau o'n cerddorfa. Gyda chefnogaeth y Bateman Family Charitable Trust a'r Barbara Whatmore Charitable Trust, sy'n ein galluogi i gynnal y prosiectau hyn, rydym yn gobeithio croesawu rhai o'r myfyrwyr diweddaraf yn ôl i'r pwll eto.