Newyddion

Y grefft o adrodd stori drwy anifeiliaid

18 Gorffennaf 2019

Beth sydd gan Mickey Mouse; Simba; Peter Rabbit; Sonic the Hedgehog; Brian Griffin a Winnie the Pooh yn gyffredin? Maent yn gymeriadau ffuglennol dynweddol - h.y. nodweddion, emosiynau neu fwriadau dynol yn cael eu cyflwyno mewn anifeiliaid neu offer. Yn gyffredinol, anifeiliaid yw'r creaduriaid sydd yn cael eu dynweddu fwyaf, ac ar ddiwrnod yr adfywiad mwyaf erioed, dyma'r adeg berffaith i archwilio'r grefft o adrodd stori drwy anifeiliaid.

Mae The Lion King yn dychwelyd i'r sgrin, pump ar hugain mlynedd ers i'r ffilm gael ei rhyddhau am y tro cyntaf. Stori rymus sydd yn portreadu taith cenau llew at oedolaeth a'r orsedd frenhinol; mae'r cyfan yn ymwneud â chylch bywyd. Mae defnyddio anifeiliaid yn gallu dod â stori yn fyw ac ychwanegu pellter emosiynol pan mae neges y stori yn bwerus neu'n boenus.

Yn ystod ein Tymor yr Hydref 2019, byddwn yn atgyfodi ein 'Pride Rock' ein hunain, wrth i gynhyrchiad lliwgar a hudol Syr David Pountney o The Cunning Little Vixen ddychwelyd. Mae opera bywiog Janáček am natur yn dathlu cylch bywyd, ond bydd teyrnas anifeiliaid yr opera hon fymryn yn wahanol i The Lion King ac fwy tebyg i Fantastic Mr Fox gydag anifeiliaid megis llwynoges, ceiliog, iâr, mochyn daear, gwiwer, gwas neidr, pioden a chnocell y coed, tylluan, criciaid, mosgitos, lindys, cŵn, llyffaint ac yn bennaf oll, llwynogod. Gyda dilyniant o olygfeydd byr sinematig, dyma'r opera berffaith i aelodau ieuengaf y teulu.

Roedd gan Janáček ddiddordeb mawr mewn anifeiliaid a natur, ac roedd darganfod cyfres Tĕsnohlídek yn cyfateb i'w astudiaeth a chariad at adar, anifeiliaid, mynyddoedd a choedwigoedd. Bu'n astudio anifeiliaid a'u hymddygiad, a gyda phrofiadau cyfoethog o gariad a bywyd roedd ysgrifennu'r opera yn fodd arall iddo rannu ei angerdd am natur a'i fyfyrdodau ar daith bywyd.

Mae The Cunning Little Vixen yn stori gariad gwych, sydd yn dilyn bywyd llwynoges ifanc ddireidus wrth iddi wynebu'r byd ar ei thelerau ei hun, gan ymdrin â themâu megis obsesiwn, ecsbloetiaeth a themâu cariad all pawb yn y gynulleidfa uniaethu â nhw. Wrth i'w hantur ddatblygu, mae holl greaduriaid y goedwig yn dod yn fyw. Mae'r llwynoges ifanc yn dangos ei hun i fod yn ddiedifar o annibynnol, yn union fel Simba yn The Lion King. Ond, mae hi hefyd yn ddidrugaredd, ac yn gwneud beth bynnag sydd angen i sicrhau ei rhyddid. Mae hon yn stori am bob menyw dros ei hun. Mae'n gynhyrchiad fyddai'n gweddu'n dda mewn pennod o Planet Earth; gyda libreto Saesneg byw Syr David Pountney yn hytrach na gohebiaeth Syr David Attenborough.

Os cawsoch eich hudo gan deulu direidus y llwynogod yn City of the Unexpected yn ystod dathliadau pen-blwydd Roald Dahl yn 100 oed yng Nghaerdydd yn 2016, byddwch yn sicr eisiau gweld yr opera hon sydd wedi ei hysbrydoli gan stribed comig. 

Mae The Cunning Little Vixen yn agor yng Nghanolfan y Mileniwm ar 5 Hydref ac yn mynd ar daith i Plymouth, Llandudno, Birmingham, Rhydychen a Southampton. 

Eisiau cloddio ymhellach i'r goedwig? Ar 5 Hydref yng Nghanolfan y Mileniwm, byddwn yn lansio ein Diwrnod Darganfod Opera newydd, sydd yn cynnwys Arddangosfa Realiti Estynedig newydd wedi ei chomisiynu.